Cyrff sy'n talu grantiau - Egino

Gadewch inni edrych ar yr hyn y mae angen i chi feddwl amdano wrth i chi ddatblygu cynllun grant newydd.

Bydd cynllunio da a chael pethau'n iawn yn awr yn help mawr i sicrhau lansiad llwyddiannus eich cynllun. Byddwch yn elwa trwy fod â chynllun sy'n ddeniadol (yn helpu sicrhau defnydd uchel ohono) ac sy'n gadael i chi ddewis y rhai gorau o blith y bidwyr a'r prosiectau a gyflwynir.

Defnyddiwch y cwestiynau isod i'ch arwain. Cliciwch ar bob cwestiwn i weld ein hateb sy'n nodi:

  • y peth gofynnol y mae'n rhaid i chi ei wneud;
  • yng nghyswllt rhai materion, y camau ychwanegol ar gyfer ymarfer da y gallwch eu hystyried;
  • y manteision y dylai arfer da eu cynnig i chi!


 

A fyddaf i'n defnyddio cylchoedd bidio? 

Gellir gwneud llawer o grantiau'n agored i ymgeiswyr ar unrhyw adeg dros gyfnodau hir - yn aml dyma grantiau a roddir drwy statud a grantiau ar gyfer rhaglenni'n bod ers tro sydd â chyllidebau sy'n eithaf sicr.

Fodd bynnag, mewn achosion eraill, gall y grant ddod o syniad polisi newydd neu o gronfeydd a fydd ar gael am gyfnod byr yn unig. Gall hefyd fod mwy o dderbynwyr posibl nag y gallai'r swm o gronfeydd ar gael eu cefnogi.

Mae cylchoedd bidio'n cyflwyno elfen o gystadleuaeth i'ch helpu i gyfeirio grantiau i'r ymgeiswyr a phrosiectau gorau.  Mae hyn yn golygu bod angen i chi roi cyhoeddusrwydd i fidiau y bydd rhaid iddynt eich cyrraedd erbyn dyddiad cau penodedig fel y gallwch eu hasesu i gyd gyda'i gilydd.

Dychwelyd I frig y dudalen

Sut y byddaf i'n rhoi cyhoeddusrwydd iddo?

Dylech ystyried sut i roi cyhoeddusrwydd i'r cynllun ac i ofyn am geisiadau - mae opsiynau'n cynnwys y wasg, cylchlythyrau, cyrff canolig a'r rhyngrwyd.  Gellir hyrwyddo grantiau i unigolion mewn adeiladau cyhoeddus fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol lleol.

Gwnewch gylchoedd bidio'n agored, gyda'r nod o ddenu lefel uchel o ddiddordeb oddi wrth ymgeiswyr cymwys.

Fodd bynnag, pan fydd yn bosibl y bydd llawer o ymgeiswyr, mae'n arfer da rheoli disgwyliadau a defnyddio ymgyrch marchnata wedi'i dargedu.

Bydd gwneud hyn yn osgoi llwyth gwaith gormodol i chi yn ystod y cam asesu a dethol ac yn sicrhau na fydd gennych nifer mawr o ymgeiswyr siomedig oherwydd nad oedd digon o gyllid i dalu cymaint o fidiau neu nad oedd eu prosiectau'n hollol gymwys.

Dychwelyd I frig y dudalen

Sut y byddaf i'n gwerthuso bidiau ac yn dethol enillwyr?

Mae angen pennu gweithdrefnau asesu cadarn a thryloyw - gydag amserlen ymarferol - a'u cymhwyso'n gyson.

Yn y lle cyntaf dylid asesu ceisiadau yn erbyn eich meini prawf cymhwyster.

Dylai'r meini prawf cymhwyster adlewyrchu nodau datblygu cynaliadwy'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu datblygiad sy'n ateb anghenion heddiw heb gyfyngu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd gytbwys ac integredig yn ein hymateb i anghenion a dyheadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y cydbwysedd rhwng y rhannau o'r byd sydd wedi datblygu ac sy'n datblygu.  

Dylai'r meini prawf wneud hyn drwy gynnwys y pum egwyddor gydgysylltiedig arweiniol o fframwaith rhanedig datblygiad cynaliadwy'r Deyrnas Unedig.

  • byw o fewn terfynau amgylcheddol;
  • sicrhau cymdeithas gref, iachus a chyfiawn;
  • adeiladu economi cryf, sefydlog a chynaliadwy;
  • hyrwyddo trefn lywodraethu dda.

Byddai hyn yn cynnwys camau i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, gan fynd i'r afael â materion cydraddoldeb a thrin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Os na ddiwellir y meini prawf cymhwyster, yna dylai ymgeiswyr gael eu hasesu'n fanylach a'u sgorio yn erbyn meini prawf dethol. Dylid egluro unrhyw faterion yn codi gydag ymgeiswyr.

Mae angen i chi fod yn glir iawn am yr holl feini prawf cymhwyster:

  • pwy fydd yn gymwys (pa fath o sefydliad ac unrhyw hanes);
  • pa fath o weithgareddau prosiect fydd yn gymwys;
  • pa gostau fydd yn gymwys (a pha rai nad ydynt yn gymwys).

Fel ymarfer da ychwanegol, gellir cymhwyso pwysoliadau gwahanol i feini prawf unigol, yn ôl eu pwysigrwydd cymharol.

Bydd hyn yn gadael i'r sgoriau canlyniadol roi cyfrif priodol i'r meini prawf pwysicaf.

Dychwelyd I frig y dudalen