Rhestr Astudiaethau achos

Creu capasiti ychwanegol drwy weithio'n hyblyg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

01/10/2008

Mae Tîm Diogelwch Bwyd y Cynogor, sydd wedi ei leoli o fewn yr Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd, wedi defnyddio trefniadau balans rhwng gwaith a bywyd i helpu i ddarparu capasiti ychwanegol er mwyn eu galluogi i wneud peth o'u gwaith gyda'r nos ac felly ymweld â bwytai. Mae hyn yn llawer mwy effeithiol na'u hen drefniadau gweithio 9 tan 5 yn y swyddfa.

Dechreuodd yr Adran Diogelwch Bwyd weithio o adref hefyd ym mis Gorffennaf 2007. Mae pedwar Swyddog Iechyd yr Amgylchedd/Swyddog Diogelwch Bwyd nawr â 'swyddfa' yn eu cartref, er fod yr Uwch Swyddog dal wedi ei leoli yn y swyddfeydd yng nghanol y dref.

  • Mae hyn wedi rhyddhau lle yn y swyddfa a lleihau absenoldebau oherwydd salwch tra, ar yr un pryd, wedi llwyddo i beidio cael effaith gwael ar weithrededd.
  • Mae amser teithio i'r gwaith wedi lleihau, felly gall swyddogion ddechrau gweithio yn gynt yn y boreau. Mae'r hyblygrwydd hyn yn golygu fod y gwasanaeth yn gallu gweithredu o tua 7.45 tan 5.30 bob dydd.
  • Mae ôl troed carbon y tîm wedi gostwng ac mae aelodau'r tîm yn fwy effeithlon yn gyffredinol.

Mae pawb yn cadw mewn cysylltiad drwy gyfarfodydd tîm rheolaidd, a gall yr aelodau sydd yn gweithio gartref gyfathrebu â chydweithwyr dros y ffôn drwy'r dydd.

Enw'r cyswllt: Neil Underwood
Rôl: Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Ffôn: 01978 813731
Ebost: neil.underwood@wrexham.gov.uk