Rhestr Astudiaethau achos

Cydweithio effeithiol rhwng cynghorau a'r Bwrdd Iechyd Lleol i sicrhau cymorth gwasanaethau iechyd da ar gyfer disgyblion ag AAA

Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Derbyshire County Council, Cyngor Sir Ynys Môn

01/01/2008

Yng ngogledd Cymru, mae'r cydberthnasau gwaith adeiladol rhwng swyddogion y cyngor a rheolwyr y Bwrdd Iechyd Lleol wedi helpu i sicrhau cymorth gwasanaethau iechyd da ar gyfer disgyblion ag AAA ac anableddau, yn cynnwys y rheini mewn ysgolion arbennig a gynhelir.

Mae disgyblion yn Ysgol y Bont, Ynys Môn, yn cael budd o ddarpariaeth sy'n cynnwys un nyrs ysgol llawn amser a thri chynorthwyydd nyrsio, a ariennir yn llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae gan ddisgyblion fynediad da i therapi lleferydd ac iaith, ffisiotherapi a therapi galwedigaethol, yn unol â'u hanghenion. Cynhelir clinigau pediatrig a deintyddol yn yr ysgol, sydd o fudd i blant a'u teuluoedd, a hefyd i blant eraill yn yr ardal. Lle bod angen cyfarpar arbenigol ar ddisgyblion, megis cadeiriau a chymhorthion cyfathrebu, darperir y rhain gan y Bwrdd Iechyd Lleol fel arfer.

Ceir cydberthnasau gwaith da rhwng gwasanaeth cynhwysiant Cyngor Sir y Fflint, yn cynnwys y swyddogion cyllid, a'r swyddogion cyfatebol yn y Bwrdd Iechyd Lleol. Mae'r rhain wedi arwain at gytundebau ariannu ar y cyd llwyddiannus ar gyfer gwasanaethau, cyfarpar a chymorth ychwanegol yn y ddwy ysgol arbennig. Mae disgyblion yn Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd yn cael budd o lefel dda iawn o wasanaeth gan y nyrs ysgol. Mae'r ddarpariaeth hon yn destun cytundebau ariannu ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a'r Bwrdd Iechyd Lleol. Mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfrannu at gymorth 1:1 ar gyfer plant penodol sydd ag anghenion iechyd/meddygol a nodwyd yn ysgolion arbennig Sir y Fflint, ac mae'n darparu hyfforddiant sydd o gymorth i staff addysg.    

Yng Nghyngor Sir Ddinbych ceir trefniadau clir a hirsefydledig ar gyfer gwneud penderfyniadau i leoli disgyblion y tu allan i'r sir, a chytundeb y caiff costau lleoliadau o'r fath eu hariannu ar y cyd gan y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol.