Rhestr Astudiaethau achos

Cwrs hyfforddi ar ymarfer y broses o ryddhau'n effeithiol

Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro

01/01/2008

Mae Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro wedi datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer staff clinigol i godi ymwybyddiaeth a rhannu arfer gorau o ran rhyddhau cleifion yn effeithiol o'r ysbyty.

Datblygwyd y cwrs gan grwp rhyngbroffesiynol ac fe'i harweiniwyd gan Reolwr Cyswllt Gofal Canolraddol. Mae yna raglen dreigl o hyfforddiant, gydag un digwyddiad bob mis, sydd ar agor i staff perthnasol. Mae tua 30 o staff yn cymryd rhan bob mis. Mae'r cwrs hyfforddi'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â rhyddhau effeithiol a lleihau nifer yr achosion o Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, gan gynnwys:

  • rôl yr Aseswyr Nyrsio;
  • Asesiadau Unedig
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2006;
  • gweithdrefnau rhyddhau syml;
  • gweithdrefnau asesu a rhyddhau cynhwysfawr;
  • Gofal Iechyd parhaus.

Ynghyd â rhannu gwybodaeth ffurfiol, caiff astudiaethau achos eu cyflwyno i'r unigolion sy'n cymryd rhan yn y cyrsiau i drafod a gwneud penderfyniadau dilynol. Mae hyn yn caniatáu iddynt gysylltu'r wybodaeth ffurfiol ag enghreifftiau unigol.

Mae adroddiadau gwerthuso ar yr hyfforddiant wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Enw cyswllt: Tanya Balch
Swydd: Nyrs Gyswllt Rhyddhau
Ffôn: 029 2074 7747
Ebost: Tanya.Balch@CardiffandVale.wales.nhs.uk