Rhestr Astudiaethau achos

Awdurdod Lleol, Ymddiriedolaeth Iechyd a Bwrdd Iechyd Lleol yn cydweithio i fynd i'r afael ag iechyd gwael trwy fynediad i gefn gwlad

Caerphilly County Borough Council, Gwent Healthcare NHS Trust

01/01/2008

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â'r pedwerydd disgwyliad oes isaf, y trydydd statws iechyd meddwl a chorfforol gwaethaf, y lefelau uchaf o ordewdra ac un o'r lefelau uchaf o glefyd coronaidd y galon yng Nghymru. Mae felly yn ardal o flaenoriaeth ar gyfer mentrau sy'n ymwneud ag iechyd.

Gan ddefnyddio arian Wanless trwy'r Bwrdd Iechyd Lleol sefydlodd yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd GIG Gwent y rhaglen 'healthy hearts' (Calon Lân) ar y cyd, lle mae meddygon teulu yn cyfeirio cleifion sydd â chlefyd coronaidd y galon i ddosbarthiadau ymarfer corff ac addysg, a chynllun cerdded ar gyfer y sawl sy'n dymuno cynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol tra'n cael mynediad i gefn gwlad. Cost y cynllun, sy'n cynnwys mewnbwn gan nyrs adsefydlu cardiaidd arbenigol, yw £60,000 y flwyddyn.

Mae'r Arbenigwr Ymarfer Corff yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn gweithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol gyda'r tîm adsefydlu cardiaidd, a dau ddiwrnod yr wythnos gydag Adran Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan hyrwyddo ac arwain teithiau cerdded cefn gwlad a chydlynu rhwydwaith o arweinwyr teithiau cerdded hyfforddedig sy'n arwain teithiau cerdded rheolaidd wythnosol. Mae'r cynllun cerdded yn targedu pum ardal Cymunedau yn Gyntaf yn y Fwrdeistref a mae'n agored i gleifion nad ydynt yn gleifion cardiaidd. Yn yr wyth mis o weithredu o fis Medi 2004, aeth 400 o unigolion ar tua dwy fil o deithiau cerdded. Yn ogystal ag arwain y teithiau cerdded, roedd yr Arbenigwr Ymarfer Corff wedi datblygu llwybrau newydd, hyfforddi 50 o wirfoddolwyr i arwain teithiau cerdded, cynhyrchu llyfrynnau a dosbarthu tair mil o daflenni ynglyn â'r cynllun mewn cyfleusterau cymunedol megis meddygfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. Ar ddiwedd mis Ebrill 2007, roedd 15 o feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol lleol eraill yn cyfeirio cleifion i'r cynllun.

Y ffactorau allweddol yn llwyddiant y fenter oedd y bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth GIG, yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol, a darparu arian cylchol a chanolbwyntio ar feithrin gallu drwy hyfforddi gwirfoddolwyr.

Enw cyswllt: Brian Begg
Swydd: Arbenigwr Ymarfer Corff
Ffôn: 07788-547350
Ebost: brian.begg@gwent.wales.nhs.uk
Cyfeiriad: Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent a'r Adran Cefn Gwlad a Thirwedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ty Pontllanfraith
Pontllanfraith
Y Coed Duon
NP12 2YW