Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
01/01/2008
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn cymryd rhan mewn tri cham o brosiect Adeiladwyr Ifanc Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Nod y prosiect yw datblygu dull aml-asiantaeth o gyflawni canlyniadau cynaliadwy i bobl ifanc drwy dorri'r cylch 'dim swydd, dim cartref'.
Mae pedair elfen allweddol i'r prosiect: darparu rhaglen hyfforddi â chymorth; darparu tai hunangynhaliol â chymorth am gyfnod y prosiect i baratoi'r cyfranogwyr i fyw'n annibynnol yn llwyddiannus yn y dyfodol; cyfle gwirioneddol am gyflogaeth mewn masnach adeiladu gydnabyddedig ar ddiwedd y rhaglen; ac, ar gyfer y rhai sydd ag anghenion tai, y cyfle i sicrhau llety parhaol ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Sicrhawyd cyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, y Fargen Newydd, y partneriaid cysylltiedig a'r contractwyr preifat sy'n rhoi lleoliadau hyfforddi i'r cyfranogwyr.
Roedd y cam diweddaraf wedi cynorthwyo chwe pherson ifanc i ddysgu crefft, a rhoddwyd cyflogaeth barhaol gyda'r contractiwr i dri ohonynt. Mae'r Gymdeithas yn gwerthuso'r cynllun yn flynyddol.
Enw cyswllt: Matthew Thomas
Swydd: Cyfarwyddwr Tai
Ffôn: 02920 468444
Ebost: housing@ccha.org.uk
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
2 Ocean Way
Ocean Way
Caerdydd
CF24 5TG