Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Heddlu De Cymru
01/10/2008
Hyd nes tua dwy flynedd yn ôl, roedd gan yr Awdurdod strategaeth rheoli fflyd a oedd wedi'i ddatblygu ar wahân oddi wrth awdurdodau heddlu eraill.
Gyda bron 700 o gerbydau, mae gan Heddlu De Cymru un o'r fflydoedd mwyaf o blith holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cydnabu Cymdeithas Cenedlaethol Rheolwyr Fflyd yr Heddlu (NAPFM) fod nifer o gyfyngiadau'n rhwystro 42 awdurdod heddlu'r DU rhag datblygu eu strategaethau rheoli fflyd eu hunain.
Ymhlith y cyfyngiadau roedd y ffaith bod gan yr awdurdodau flaenoriaethau gwahanol iawn, roedd diffyg safoni rhwng fflydoedd gwahanol ac roedd lefelau gwasanaeth ac ansawdd y fflydoedd gwahanol hefyd yn amrywiol iawn.
Tua dwy flynedd yn ôl lluniodd NAPFM strategaeth rheoli fflyd genedlaethol sydd ar gael i helpu awdurdodau heddlu yn y DU.
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi defnyddio'r strategaeth genedlaethol i arwain y gwaith o ddatblygu cynlluniau strategol lleol a gaiff eu diweddaru'n flynyddol. Mae'r cynlluniau hyn yn adlewyrchu negeseuon allweddol y strategaeth genedlaethol ond cânt eu llywio gan flaenoriaethau lleol. Mae Awdurdod Heddlu De Cymru'n cynnal ymgynghoriadau lleol i benderfynu ar y blaenoriaethau hyn.
Nododd Rheolwr Fflyd Heddlu De Cymru bod datblygu'r strategaeth genedlaethol wedi sicrhau manteision eang i awdurdodau heddlu ledled y DU.
Mae llawer o awdurdodau heddlu bellach yn gweithio tuag at nodau strategol cyffredin ac felly mae hyn wedi meithrin cydweithio agosach, rhannu arfer da a rhai arbedion maint pan fo awdurdodau'n caffael eitemau tebyg.
Enw: Ray Forsey
Swydd: Pennaeth Caffaeliad Dros Dro
Ffôn: 01656 869250
Ebost: Ray.Forsey@south-wales.pnn.police.uk
Cyfeiriad: Ty Morgannwg,
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Gwefan: www.south-wales.police.uk