Rhestr Astudiaethau achos

Gweithio gyda sefydliadau allanol i sichrhau arian ar gyfer gaith effeithlonrwydd ynni

Cyngor Sir Powys

01/10/2008

Ym mis Awst 2005, lansiwyd y Fenter CO2 (CO2i) gan Gyngor Sir Powys, ar y cyd â sawl cyflenwr ynni, contractwyr lleol arbenigol ac Ecoganolfan Gorllewin Cymru.

Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i holl breswylwyr y sector preifat mewn ardaloedd a nodwyd fel rhai sydd â lefelau uchel o amddifadedd (fel yr aseswyd drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) i wneud cais am arian o'r Cyngor a'r Gronfa cyfleustodau 'EES' i osod inswleiddio llofft a waliau ceudod, atal drafftiau ar gyfer ffenestri a drysau allanol, siacedi ar gyfer tanciau dwr poeth, paneli adlewyrchu rheiddiaduron, boeleri effeithlonrwydd uchel a phaneli haul ar gyfer dwr poeth. Mae lefel yr arian sydd ar gael fesul cartref yn dibynnu ar fath yr eiddo a'r ffynonellau tanwydd a ddefnyddiwyd ar gyfer gwres canolog.

Gelir dadansoddi'r arian ar gyfer mesurau gosod fel a ganlyn:

Darparwr yr arian: £ %

  • Cyngor Sir Powys: 1,386,000 44
  • Cyflenwyr Ynni'r EES: 659,000 21
  • Cynllun Clear Skies Adran Masnach a Diwydiant Llywodraeth y DU: 82,000 3
  • Cyfraniadau perchnogion tai: 1,017,000 32
  • Cyfanswm: 3,144,000 100

Math mesur: Nifer y mesurau o'r fath a osodwyd

  • Inswleiddio ceudod y wal: 1,957
  • Inswleiddio'r llofft: 2,560
  • Atal drafftiau drysau a ffenestri: 465
  • Boeleri cywasgu gradd 'A': 230
  • Rheolaethau gwresogi: 3,152
  • Siacedi tanc dwr poeth: 310
  • Paneli dwr poeth ynni'r haul: 139
  • Bylbiau golau ynni isel: 20,400
  • Cyngor ysgrifenedig ar ynni i berchnogion tai: 2,367
  • Lleihad mewn allyriadau CO2: 9,066 o dunelli'r flwyddyn

Cyfraniad CO2i i enillion effeithlonrwydd ynni a gofnodwyd ledled

  • Powys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2004 i 31 Mawrth 2007 1.92%
  • Ynni a arbedwyd 33,205,883 kWh y flwyddyn
  • Lleihad mewn biliau tanwydd cartrefi £1,243,000 y flwyddyn

Enw cyswllt: Stuart Davies 
Swydd: Swyddog y Ddeddf
Ffôn: 01597 827139
Ebost: stuart.m.davies@powys.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG  
Gwefan: www.powys.gov.uk