Rhestr Astudiaethau achos

Dull amgen o ddarparu gwasanaethau: toiledau cyhoeddus

Cyngor Sir Powys

01/10/2008

Mae Tîm Gwasanaethau Amwynderau Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am ddarparu toiledau cyhoeddus yn y trefi bach niferus yn ei ardal eang sy'n wledig yn bennaf. Gwasanaeth dewisol yw hwn yn hytrach na gwasanaeth statudol.

Yn 1996, etifeddodd y cyngor sir 96 o doiledau cyhoeddus gan awdurdodau rhagflaenol. Roedd y problemau a oedd yn deillio o gynnal y portffolio mawr o doiledau cyhoeddus yn nodweddiadol o lawer o awdurdodau eraill:

  • rheoli eiddo dwys;
  • atgyweirio a chynnal a chadw costus;
  • problemau fandaliaeth gyda chyfleusterau sydd heb staff i raddau helaeth;
  • diffyg cyllid i fuddsoddi mewn gwelliannau helaeth.

Arweiniodd hyn at bwysau i gau toiledau cyhoeddus, heb fawr o gyfle i gael unrhyw ddarpariaeth newydd.

Yn sgîl Adolygiad Gwerth Gorau o doiledau cyhoeddus yn 2001 cyflwynwyd rhaglen resymoli yn 2002 ar sail defnydd. Nodwyd y toiledau cyhoeddus a ddefnyddir leiaf aml, ac ystyriwyd eu cau. Roedd y broses yn cynnwys ymgynghori â'r cynghorau cymuned. Nododd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn 29 o doiledau cyhoeddus i'w cau o bosibl.

O'r rhain, caewyd 16, trosglwyddwyd y gwaith o reoli pump ohonynt o fewn Powys, trosglwyddwyd pedwar i sefydliadau eraill, a throsglwyddwyd pedwar i gynghorau cymuned gyda chymorth ariannol cychwynnol fel y disgrifir isod.

Nododd adolygiad dilynol yn 2006-07 ofyniad i arbed £100,000 o gostau pellach y flwyddyn, ac awgrymwyd y dylid cau 20 arall o'r toiledau cyhoeddus a ddefnyddir yn llai aml.

Er gwaethaf yr angen i wneud arbedion o ran costau, cydnabuwyd bod toiledau cyhoeddus yn darparu gwasanaeth pwysig i drigolion cymunedau ym Mhowys ac i ymwelwyr. Felly roedd y cyngor sir yn awyddus i ystyried dulliau amgen o sicrhau y gallai'r gwasanaeth angenrheidiol hwn barhau, ond o bosibl drwy ddull amgen o ddarparu'r gwasanaeth. Nododd dri dull o ddarparu, a mabwysiadodd ddull tri cham o ystyried yr opsiynau hyn pan nodwyd toiledau cyhoeddus i'w cau o bosibl:

  • Yn gyntaf, rhoddwyd y cyfle i gynghorau cymuned lleol gymryd y cyfrifoldeb am reoli a gweithredu'r cyfleusterau o ddydd i ddydd, ar brydles ddi-rent o 21 mlynedd. Yn ogystal, byddai Powys yn darparu "taliad lleddfu" o £3,000 wedi'i ledaenu dros dair blynedd i helpu gyda'r costau cynnal cychwynnol.
  • Os nad oedd y cyngor cymuned yn gallu ymgymryd â'r opsiwn, nodwyd darpariaeth toiled amgen yn yr ardal, gan edrych yn enwedig am gyfleoedd lle roedd gan fusnesau lleol ddarpariaeth toiled eisoes ar gyfer cwsmeriaid a staff, ond a oedd yn ddigon hygyrch i'w defnyddio gan y cyhoedd. Yn yr achosion hyn, gofynnwyd am ganiatâd y busnesau, a chynigwyd tâl bach iddynt i ddarparu'r gwasanaeth ehangach hwn. Mae nifer ohonynt wedi cytuno, ac mae'r rhai sy'n gweithredu'n llwyddiannus yn cynnwys tafarnau, garejys, archfarchnadoedd mawr ac atyniadau ymwelwyr. Un o'r busnesau cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun ym Mhowys oedd Coedydinas Country Store yn y Trallwng. (Mae cynllun tebyg hefyd yn bodoli ym Mro Morgannwg lle mae'r cyngor wedi mabwysiadu dull tebyg, ac mae'r busnesau sy'n rhan o'r cynllun yn cynnwys y YMCA lleol). 
  •  Lle nad yw'r naill gynllun na'r llall yn bosibl, a bod gofyniad clir i ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus yn barhaus, mae'r cyngor sir yn parhau i weithredu'r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach yn cefnogi prosiectau o'r math hwn drwy'r Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus a lansiwyd ar ddiwedd 2008.

Mae'r cyngor sir yn deall pwysigrwydd gallu defnyddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus glân a hygyrch, yn enwedig mewn trefi llai ac ardaloedd gyda llawer o drigolion hyn. Felly sefydlodd weithgor yn 2008 i ystyried materion megis dyluniad toiledau cyhoeddus, cyfleoedd i fanteisio ar y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus, ariannu cyfleusterau cefnffyrdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chanllawiau strategol Llywodraeth y DU ("Improving Public Access to Better Quality Toilets", Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Mawrth 2008). Paratowyd strategaeth ddrafft wedi hynny yn cynnwys cydweithio'n agos â busnesau lleol i wella'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus diogel, hylan a hygyrch.

Mae manteision y dull hwn yn cynnwys:

  • costau rhedeg is a mwy pendant ar gyfer y portffolio toiledau cyhoeddus;
  • manteision i'r gymuned leol drwy gadw cyfleusterau angenrheidiol, a gwell trefniadau gofal a goruchwylio ar gyfer y cyfleusterau, gan eu bod bellach yn cael eu rheoli'n lleol;
  • mae'r busnesau sy'n cymryd rhan yn cael taliad bach, ond maent hefyd yn cael budd yn sgîl y ffaith bod mwy o bobl yn mynd i mewn i'w safle busnes/mwy o gyfleoedd busnes posibl.

Bellach mae cyfanswm o 77 o doiledau cyhoeddus ar gael yn ardal Powys. O'r rhain, gweithredir 12 gan gynghorau cymuned, darperir 19 (ac mae'r nifer yn cynyddu) o fewn busnesau lleol, ac mae'r cyngor sir yn parhau i gynnal 51 ohonynt.

Mae'r astudiaeth achos hon yn dangos y defnydd creadigol o ddulliau amgen o ddarparu gwasanaethau, gan ystyried amgylchiadau lleol a manteisio ar gyfleoedd lleol.

Enw: Huw Davies
Swydd: Swyddog Gwasanaethau Trefol
Ffôn: 01597 826482
Ebost: huw.davies@powys.gov.uk
Gwefan: www.powys.gov.uk