Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru
01/10/2008
Adeiladwyd gorsaf dân y Rhyl yn y 1950au ac roedd angen ei hadnewyddu a'i moderneiddio. At hynny, roedd rhannau o'r adeilad yn wag ar ôl symud pencadlys y gwasanaeth o'r Rhyl i adeilad newydd, pwrpasol yn Llanelwy yn 2005.
Rhoddodd hyn y cyfle a'r her i ystyried datblygu gorsaf dân gymunedol gyntaf Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Adlewyrchodd y datblygiad hwn y newid mewn pwyslais o ddiffodd tân yn adweithiol i roi mwy o bwyslais ar atal tân drwy addysgu pobl yn fwy am ddiogelwch tân a chydnabod y rôl sydd gan orsafoedd tân ac achub i hyrwyddo cysylltiadau cymunedol da.
Roedd y prosiect yn cynnwys gwneud gwaith mawr er mwyn gwella strwythur yr adeilad presennol yn ogystal â darparu cyfleusterau gweithredol modern y tu mewn iddo. Nod y prosiect oedd gwneud defnydd da o'r rhan wag o'r adeilad ar gyfer pobl leol ac ymateb i'r gofyniad sydd ar wasanaethau tân ac achub i ymgysylltu'n agosach â'r gymuned leol er mwyn hyrwyddo diogelwch cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.
I bennu anghenion y gymuned a sicrhau dichonoldeb hirdymor cyfleusterau cymunedol newydd, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r afael ag ymarferion ymchwil gymdeithasol ac ymgynghori cymunedol mawr.
Nododd yr ymarfer ymchwil gymdeithasol nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig â marwolaethau oherwydd tân, gan gynnwys ffactorau cymdeithasol a ffactorau sy'n ymwneud â ffyrdd o fyw, ac astudiwyd gorsafoedd tân cymunedol presennol i ganfod pa rai oedd fwyaf effeithiol a pham.
Cododd yr ymarfer ymgynghori cymunedol ymwybyddiaeth o'r prosiect gorsaf dân gymunedol drwy'r ymgyrch 'TânCyntaf', a defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau ymgynghori i asesu anghenion lleol. Fel rhan o'r ymgynghoriad, ystyriwyd pa fathau o gyfleusterau a gweithgareddau yr oedd pobl am eu gweld yn yr adeilad a sut y gallent gael gafael ar y cyfleusterau hynny. Roedd y dulliau ymgynghori yn cynnwys holiadur syml, cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau, taflenni, cystadlaethau, sioeau teithiol, cyflwyniadau a diwrnod agored yn yr orsaf dân. Hefyd, cysylltodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru â nifer o asiantaethau cymorth, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych, Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru ac Age Concern.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn perthyn i bum thema yn gyffredinol:
Derbyniodd yr ymgyrch a'r ymgynghoriad adborth cadarnhaol iawn a dangoswyd bod gwir angen cyfleuster cymunedol o'r math hwn yn yr ardal. Codwyd pryderon o ran materion penodol ond aed i'r afael â'r rhain ar gam cynllunio'r prosiect. Er enghraifft, aed i'r afael ag effaith parcio ceir wrth ymyl y ffordd ar drigolion lleol drwy ddarparu maes parcio ar y safle, ac aed i'r afael â phryderon a godwyd o ran yr amhariaeth bosibl ar waith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy sicrhau bod y cam dylunio a gweithredu yn gwahanu'r ardaloedd gweithredol a chymunedol yn yr adeilad ac o amgylch y safle.
Mae'r cyfleusterau cymunedol newydd bellach yn cynnwys:
Mae gan bob darlithfa gyfleusterau TG llawn gan gynnwys taflunydd digidol, cyfleusterau fideo-gynadledda a systemau sain.
Yn ogystal â hyn, yn yr adeilad mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn gweithredu cyfleuster arddangos Teleofal ar gyfer ystod o gyfarpar y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl sy'n agored i niwed i fod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach. Gall pobl gael golwg ar y cyfarpar a rhoi cynnig arno eu hunain a chael cyngor ar sut i ddefnyddio Teleofal i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Costiodd y prosiect £2.37 miliwn, yr ariannwyd £1.72 miliwn ohono gan raglen gyfalaf Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, drwy fenthyca. Cafwyd y £650,000 a oedd yn weddill drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r ystafelloedd cyfarfod a'r cyfleusterau cymunedol hefyd yn creu incwm, ac roedd 40 y cant o'r cyfleusterau eisoes yn cael eu defnyddio o fewn tri mis ar ôl iddynt agor. Ar hyn o bryd defnyddir 53 y cant o'r orsaf yn seiliedig ar oriau agor o 0900 i 2200, ac ymwelodd dros 12,000 o bobl â'r orsaf yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Cafwyd £46,143 o incwm yn y flwyddyn gyntaf (mae hyn yn cynnwys refeniw allanol gan grwpiau yn ogystal ag arbedion net y gwasanaeth tân ac achub mewn perthynas â pheth defnydd mewnol). Mae rhai partneriaid/grwpiau yn defnyddio'r cyfleuster am ddim yn gyfnewid am atgyfeiriadau Gwiriadau Diogelwch Tân yn y cartref a chyngor gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o safbwynt diogelwch tân cymunedol. Y nod ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw sicrhau dros 1,000 o atgyfeiriadau gan ddefnyddwyr.
Mae dros 60 o sefydliadau'n defnyddio'r orsaf yn rheolaidd. O'r rhain, bu'n bosibl i'r gwasanaeth tân ac achub dargedu grwpiau penodol fel Dim Smygu Cymru, uned adsefydlu cardiaidd a grwpiau eraill o ardaloedd difreintiedig yn y Rhyl/Sir Ddinbych. Mae hyn wedi galluogi'r gwasanaeth tân ac achub i ymgysylltu ag unigolion anodd eu cyrraedd mewn amgylchedd cyfforddus ac anffurfiol. Gwelwyd enghraifft dda o hyn mewn arolwg gan Goleg Harlech sy'n rhedeg 10 cwrs gwahanol o'r orsaf drwy gydol y flwyddyn. Mae'r coleg wedi anfon 262 o ddysgwyr i'r orsaf ar gyrsiau gweithgareddau dysgwyr, a denodd y cyrsiau hyn 45 y cant o gyfanswm myfyrwyr Sir Ddinbych o'r ardaloedd difreintiedig. Golyga hyn fod dysgwyr yr orsaf dân gymunedol yn cynrychioli bron i hanner cyfanswm dysgwyr Coleg Harlech sy'n ddifreintiedig o safbwynt addysgol yn Sir Ddinbych.
Un o nodau allweddol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw lleihau nifer y marwolaethau oherwydd tân yn yr ardal. Yn ystadegol mae hen bobl mewn perygl sylweddol o farw oherwydd tân, ac mae cyfran uchel o hen bobl yn byw yn agos at orsaf dân y Rhyl. Felly, roedd hwn yn grwp targed allweddol am gymorth addysgol. Mae'r defnydd a wneir o'r cyfleusterau gan hen bobl (a grwpiau eraill) wedi ei gwneud yn bosibl i unigolion yn y gymuned sy'n fwy agored i niwed gysylltu'n uniongyrchol â'r gwasanaeth tân ac achub a arweiniodd at fwy o wiriadau diogelwch yn y cartref a darparu cyngor ar ddiogelwch yn y cartref.
Mae'r broses o ddatblygu Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yn enghraifft o reoli asedau yn dda - hynny yw defnyddio adeilad i bob pwrpas i gynnig manteision gwirioneddol i'r gymuned a gwella perfformiad y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir. Mae wedi galluogi Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fod yn fwy hygyrch i'r cyhoedd ac mae wedi codi proffil gwaith cymunedol yr orsaf, helpu i ddatblygu partneriaethau ag asiantaethau eraill a helpu i ymestyn gwaith i gyrraedd unigolion sy'n fwy agored i niwed yn y gymuned. Drwy gynnig cyfleusterau fel ystafelloedd cyfarfod, swyddfeydd a chyfleusterau cyfrifiadurol, mae wedi helpu i gyrraedd yr unigolion hynny yn y gymuned nad oeddent yn rhan o grwpiau targed y gwasanaeth cyn hynny.
Enw cyswllt: Stephen Roberts
Swydd: Pennaeth Rheoli Cyfleusterau
Ebost: headoffacilities@nthwales.pnn.police.uk