Lwfansau Aelodau A Thaliadau Cydnabyddiaeth Swyddogion Cyngor Caerdydd
24/04/2006
Yr Archwilydd Penodedig yn cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd
Gweithredodd Cyngor Sir Caerdydd yn anghyfreithlon a methodd â gweithredu gyda thryloywder neu mewn modd atebol pan weithredodd gynyddiadau mewn Lwfansau i Aelodau a thaliadau cydnabyddiaeth i swyddogion, yn ôl yr Archwilydd Penodedig, Janet Jones. Mae ei hadroddiad er budd y cyhoedd, a gyhoeddwyd heddiw, yn beirniadu'r Cyngor am beidio â chyrraedd y safonau ymddygiad yr oedd gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl.

Mae'r adroddiad yn nodi manylion gwariant anghyfreithlon o dros £2.7 miliwn mewn Lwfansau i Aelodau rhwng mis Chwefror 1996 a mis Hydref 2001 a gwariant anghyfreithlon pellach o £75,250 mewn cynyddiadau i daliadau cydnabyddiaeth i swyddogion yn 1999. Fodd bynnag, heblaw am y ffaith i’r Cyngor gynyddu Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig rhyw £152,752 a hynny’n gynnydd afresymol, mae’n gywir dweud bod gan y Cyngor hawl i osod Lwfansau Aelodau ar y lefel a wnaeth ar ôl dilyn gweithdrefnau priodol gan gynnwys cyhoeddi’r hyn a wnaed ar gost y trethdalwyr lleol.

Prif bryderon yr Archwilydd Penodedig ynglyn â Lwfansau Aelodau yw:

  • Bod y Cyngor wedi gwneud defnydd o "fecanwaith adolygu awtomatig" - nad oedd, fel y'i gweithredwyd gan y Cyngor, yn adolygu priodoldeb unrhyw lwfans ond a oedd yn darparu ar gyfer cynyddiadau awtomatig mewn lwfansau lle na fu cynnydd mewn cyfrifoldebau;

  • ôl-ddyddio cynyddiadau mewn lwfansau (mewn rhai achosion am gyfnod o dros 3 blynedd);

  • cynyddiadau mewn lwfansau a wnaed heb awdurdod dirprwyedig nac awdurdod arall; a

  • chyfranogiad anghyfreithlon gan unigolion yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r Archwilydd Penodedig yn feirniadol o gynyddiadau afresymol mewn Lwfansau i Aelodau, a amrywiodd o 44% i 74% dros gyfnod 3 blynedd gan arwain at drin rhai aelodau yn anghyfartal.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â gofyniad statudol i lunio cynllun o Lwfansau Aelodau sydd ar gael yn gyhoeddus, ond hefyd methodd, yn groes i'w ddyletswydd statudol, â chyhoeddi cynyddiadau mewn Lwfansau i Aelodau. Cynyddwyd rhai Lwfansau i Aelodau a rhai taliadau cydnabyddiaeth i swyddogion, ond ni ddatgelwyd hwy i'r Aelodau yn gyffredinol; ac awdurdodwyd cynyddiadau mewn taliadau cydnabyddiaeth i swyddogion gan swyddogion heb gyflwyno adroddiad ar hynny i’r Cyngor nac i unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau’r Cyngor.

Mae'r Archwilydd Penodedig yn falch bod setliad gyda'r Cyngor yn 2004 wedi osgoi costau sylweddol gwrandawiad yn yr Uchel Lys a fyddai wedi parhau am bythefnos (gweler Nodiadau i Olygyddion). Ond mae'n feirniadol fod y Cyngor wedi mynnu gwrthwynebu ei chanfyddiadau am dair blynedd ar gost sylweddol i'r cyhoedd. Roedd hyn, meddai, yn golygu nad oedd dim dewis arall ond i ddechrau achos llys.

Nid yw'r Archwilydd Penodedig yn awgrymu i unrhyw Aelod neu swyddog weithredu'n anonest nac mewn unrhyw fodd nad yw’n ddidwyll. Ond yn ei barn hi nid oedd ymddygiad rhai cystal ag y dylai fod wedi bod, a phrin y gall yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar y pryd synnu bod eu hymddygiad yn destun beirniadaeth gyhoeddus.

Ymysg argymhellion yr adroddiad, ceir galwadau i'r Cyngor:

  • ystyried i ba raddau y gall adennill taliadau anghyfreithlon a wnaed i Aelodau a swyddogion;
  • sicrhau y gwneir penderfyniadau mewn perthynas â'i gynllun Lwfansau Aelodau yn hollol unol â gofynion cyfreithiol, penderfyniadau a wneir yn gyhoeddus, a gofnodir ac sy'n cael cyhoeddusrwydd dyladwy;

  • cadw cofnodion cywir o'r holl daliadau a wneir i Aelodau, er mwyn sicrhau bod modd olrhain pob trafodyn; a

  • sicrhau na fydd unrhyw Aelod na swyddog yn cymryd rhan mewn proses gwneud penderfyniad os oes ganddo/ganddi fuddiant (boed yn ariannol ai peidio) yng nghanlyniad y broses honno sy’n ei wneud neu ei gwneud yn anghymwys i drafod y mater.

Mae'r Cyngor wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion hyn ac wedi gwella gweithdrefnau. Mae hefyd wedi dechrau adolygiad llywodraethu corfforaethol o dan gadeiryddiaeth Syr Michael Lyons. Fodd bynnag, mae Janet Jones yn rhybuddio nad yw systemau a phrosesau da yn ddigon ynddynt eu hunain ac mae eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar y ffordd y cânt eu gweithredu.

Dywedodd Yr Archwiliwr Penodedig, Janet Jones, heddiw:


"Mae dadl gref dros dynnu'r materion hyn at sylw'r cyhoedd, sef y rheswm pam rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad heddiw. Mae gan drethdalwyr yr hawl i wybod os gwariwyd eu harian yn anghyfreithlon. Mae'n hanfodol, lle bynnag y caiff arian cyhoeddus ei wario, y gweithredir mewn modd agored a thryloyw. Rhaid i Aelodau'r Cyngor a swyddogion  bob amser gofio'r angen i osgoi nid yn unig amhriodoldeb ond hefyd ymddygiad sy'n ymddangos yn amhriodol".

Nodiadau i Olygyddion:

  • Golygai ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru fod y Cyngor yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a gyflawnwyd gynt gan Gyngor Dinas Caerdydd, ac yng nghyd-destun rhai rhannau o’i ardal, gan Gyngor Sir De Morgannwg, Cyngor Sir Morgannwg Ganol a Chyngor Bwrdeistref Taf Elái.

  • Cyhoeddwyd yr adroddiad er budd y cyhoedd o dan Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r archwilydd ystyried p'un a fyddai er budd i'r cyhoedd i gyflwyno adroddiad ar unrhyw fater a ddaw i'w sylw yn ystod yr archwiliad.

  • Mae'r ffigurau a nodir yn yr adroddiad yn cynnwys lwfansau aelodau gwerth £2,773,046 a thaliadau cydnabyddiaeth swyddogion gwerth £75,250.

  • Ym mis Rhagfyr 2004, cyhoeddwyd setliad gan yr Archwilydd Penodedig a Chyngor Caerdydd. Cytunodd y Cyngor i'r Uchel Lys wneud gorchymyn drwy ganiatâd bod eitemau yn y cyfrifon sy'n cofnodi taliadau o Lwfansau Aelodau gwerth £2.4 miliwn (nid oedd £373,000 o lwfansau yn rhan o'r achos llys) a thaliadau cydnabyddiaeth swyddogion gwerth £75,000 yn groes i'r gyfraith.

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n gyfrifol am benodi archwilwyr  llywodraeth leol. 
    Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Wasg) ar 029 2026 2675.