Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cronfa Ysgolion Gwell
08/02/2006
‘System gwell, ond heriau i'w taclo o hyd’ meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae system newydd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer darparu grantiau i Awdurdodau Addysg Lleol, i helpu gyda gweithgareddau hyfforddiant, cefnogaeth a datblygiad ar gyfer athrawon, wedi ei fireinio ac yn haws i'w ddeall na'r cynllun y mae’n cymryd ei le. Ond, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae heriau sydd angen eu taclo yn parhau i fodoli.

Gyda bron i £50 miliwn yn cael ei wario ar filoedd o brosiectau lleol yn 2005/06, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, wedi canfod y gellid gwella monitro a gwerthuso gwariant o'r Gronfa Ysgolion Gwell. Er enghraifft, nid yw cyfarwyddyd Llywodraeth y Cynulliad i’r AALlau yn darparu cyngor ymarferol penodol ar werthuso. Hefyd, nid yw data perfformiad a gasglwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn rhoi digon o dystiolaeth ynghylch effaith gweithgareddau a arianwyd, ac mae angen i'r broses o asesu cynlluniau gwariant yr AALlau fod yn fwy cadarn.

Er gwaethaf hyn, mae'r Gronfa Ysgolion Gwell yn goresgyn nifer o ddiffygion y rhaglen Grantiau ar gyfer Addysg a Hyfforddiant (GEST), y cymerodd ei lle yn 2004/05. Mae mwy o ymdrechion wedi eu gwneud i ymgynghori â’r AALLau a chyrff perthnasol eraill ynghylch datblygiad y Gronfa. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi glynu at yr holl gerrig milltir cynllunio allweddol yn ystod 2006/07 ac mae ar ei ffordd i gwrdd â’i tharged i gadarnhau dyraniadau i AALLau yn Ionawr 2006. Ac mae wedi tynhau’r cyfyngiadau ar allu’r AALlau i symud adnoddau rhwng gwahanol rannau o'r cynllun.

Canfuwyd fod y rhaglen GEST yn gymhleth a bod yr AALlau wedi dechrau ei hystyried fel ffynhonnell o ariannu cylchol yn hytrach na grant penodol ar gyfer gweithgareddau i gynyddu safonau. Yn aml roedd oedi ynghylch cynllunio GEST, ac roedd rhai partïon perthnasol yn y sector addysg hefyd yn teimlo nad oedd neb wedi ymgynghori'n llawn â hwy.

Mae'r adroddiad yn gwneud pump argymhelliad i helpu i wella gweinyddiaeth y Gronfa Ysgolion Gwell. Mae'n cynnwys galwadau ar Lywodraeth y Cynulliad i:

  • ystyried ariannu'r rhaglen dros gyfnod hirach, megis tair blynedd;
  • dyfeisio a chyhoeddi rhaglen o ymgynghori i helpu sicrhau fod ymgynghoriad gyda'r holl bartïon perthnasol ar yr amser priodol;
  • llunio safonau ar gyfer ansawdd tystiolaeth i helpu penderfynu a yw'r meini prawf ar gyfer asesiad o gynlluniau gwariant yr AALlau wedi eu cwrdd; a
  • datblygu a chyhoeddi cyfarwyddyd ymarferol a phenodol ar werthusiad ar gyfer yr AALlau ac ysgolion.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:

“Gyda £50 miliwn yn cael ei wario ar filoedd o brosiectau lleol bob blwyddyn, mae'n gwneud synnwyr i bawb sy’n rhan o’r cynlluniau ddeall pa mor llwyddiannus ydynt. Mae gwerthusiad yn hanfodol. Mae gan yr holl bartïon rôl i chwarae yn hyn, ond mae angen i Lywodraeth y Cynulliad gryfhau ei chyfarwyddyd ar asesiad a gwerthusiad i ddechrau. Bu gwelliannau gweinyddol ers i'r gronfa gael ei sefydlu a bwriad fy argymhellion yw adeiladu ar y cynnydd hwn.”

Nodiadau i'r Golygyddion:

  • Bwriad cychwynnol Swyddfa Archwilio Cymru oedd archwilio a ellid gwneud unrhyw welliannau i'r modd y mae cynllun Grantiau ar gyfer Cefnogaeth a Hyfforddiant Addysg (GEST) Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei weithredu.
  • Yn ystod yr archwiliad, cymerodd y Gronfa Ysgolion Gwell le GEST, yn dilyn adolygiad mewnol gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn unol â hyn, ail-ffocyswyd gwaith i ystyried hefyd yr hyn a wnaethpwyd yn ystod y trawsnewid, ac i ddynodi pa welliannau ychwanegol oedd eu hangen yng ngweinyddiaeth y cynllun newydd.
  • Mae'r Gronfa Ysgolion Gwell yn darparu cefnogaeth grant wedi'i dargedu ar gyfer Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) i roi cymorth iddynt gyda datblygu mentrau newydd ar gyfer gwella safonau dysgu a chyrhaeddiad mewn ysgolion. Gellid ei ddefnyddio hefyd gan yr AALlau i roi cymorth gyda gweithredu eu Cynlluniau Strategol Addysg.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol o'r llywodraeth ac yn gyfrifol am archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Creuwyd Swyddfa Archwilio Cymru yn Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a oedd yn ymestyn swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn galluogi trosglwyddo staff o'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i'w gyflogaeth ef.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebiadau a'r Wasg) os gwelwch yn dda, ar 02920 262 675 neu e-bost rachel.harries@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru