Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Dysgu Yn Y Gwaith
22/03/2006
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn croesawu newidiadau i weinyddiad rhaglen ELWa ond ei gyngor yw bod angen parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch cywirdeb y data
Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru, Jeremy Coleman, farn archwilio ddiamod am gyfrifon blynyddol 2004-05 ELWa – Cyngor Dysgu ac Addysgu Cymru (y Cyngor), ac adroddodd am lwyddiant cyffredinol trefniadau diwygiedig y Cyngor ar gyfer ei raglen Dysgu yn y Gwaith (WBL), yn cynnwys gweithrediad cronfa ddata dysgu newydd – ‘Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru’ (LLWR).

Daeth i’r casgliad bod y trefniadau newydd yn gwella gweinyddiad y Cyngor o’r rhaglen WBL £84 miliwn sy’n cynrychioli mwy na 15% o’i gyllideb flynyddol. Ond, adroddodd hefyd am broblemau’n ymwneud â data gwallus neu anghyflawn a gyflwynwyd sy’n derbyn sylw ar hyn o bryd gan y Cyngor.

Cymerodd y LLWR le trefniadau blaenorol y Cyngor oedd wedi’u seilio ar nifer o wahanol systemau ar gyfer casglu data am ddysgu yn y gwaith. Roedd diffyg integreiddiad yn y gorffennol wedi’i gwneud hi’n arbennig o anodd i’r Cyngor gadw trosolwg cyffredinol a chyflawn ar y math yma o ddysgu drwy Gymru gyfan. Mae’r system LLWR yn caniatáu i ddefnyddwyr osod data yn uniongyrchol drwy ddulliau electronig ar un gronfa ddata.

Er bod gan y system yma nifer o fanteision, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn amlygu rhai o’r problemau y mae angen i’r Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru ymdrin â hwy er mwyn sicrhau bod y cofnodion data a’r taliadau i ddarparwyr hyfforddiant yn gywir.

Mae manteision y trefniadau newydd yn cynnwys gwell rheolaeth ar berthnasoedd masnachol y Cyngor gyda darparwyr hyfforddiant sydd, yn ei dro, wedi helpu i sicrhau £72 miliwn o gyllido Ewropeaidd ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru. Ond, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eglur bod angen gwneud y rheolyddion o amgylch y LLWR yn fwy cadarn er mwyn gostwng lefelau’r data gwallus neu anghyflawn y mae darparwyr hyfforddiant yn ei anfon, ac felly’r risg o roi’r taliadau anghywir iddynt. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i’r Cyngor geisio sicrhau gwelliannau sylweddol yn systemau rheoli’r darparwyr eu hunain.


Meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, heddiw:

“Rwyf wedi fy mhlesio bod cronfa ddata newydd ELWa wedi gwella’r ffordd y gweinyddir y rhaglen dysgu yn y gwaith, yn arbennig drwy wella ‘meincnodi’ drwy’r hyfforddiant ôl-16 i gyd. Ond, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod rheolyddion wedi’u cryfhau i atal i’r gwallau mewn data arwain at daliadau anghywir i ddarparwyr hyfforddiant.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, neu’r LLWR, yn gronfa ddata gynhwysfawr o’r dysgu ôl-16 sy’n olrhain datblygiad dysgwyr unigol wrth iddynt hyfforddi i ddysgu sgiliau ac ennill cymwysterau. Mae’n dal amrediad eang o ddata am bob dysgwr yn cynnwys: canfyddwr dysgwr unigryw; manylion personol; yr addysg mae wedi’i gael yn barod; cymwysterau a dyfarniadau a gafwyd yn barod; ei hynt gyda’r dysgu ôl-16 cyfredol; cyrchnod ar ôl gorffen; a’i statws cyflogaeth cyfredol.
  • Yn ychwanegol at reoli rhaglen WBL y Cyngor, ers blwyddyn academaidd 2003/2004 mae hefyd wedi defnyddio’r LLWR i gofnodi data dysgu’r holl fyfyrwyr sy’n hyfforddi mewn sefydliadau addysg bellach a dderbyniodd gyllido-refeniw craidd o oddeutu £250 miliwn gan y Cyngor yn 2004/2005.

  • Mae swyddogaethau ELWa i gael eu hamsugno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar Ebrill 1af; bydd system cronfa ddata newydd y LLWR yn gydran allweddol o’r fframwaith rheolaeth a gwybodaeth fydd i gael ei weithredu gan yr Adran Sgiliau a Dysgu Gydol Oes fwy.

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol i’r llywodraeth ac yn gyfrifol am wneud archwiliad blynyddol o oddeutu £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

  • Crewyd Swyddfa Archwilio Cymru ar Ebrill 1af 2005 yn dilyn pasio Deddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 2004, oedd yn ehangu ar swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn galluogi trosglwyddiad staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth ef.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebiadau a Chyfryngau) ar 029 2026 2675.

I gael copi llawn o’r adroddiad edrychwch ar ein gwefan www.wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru