Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd
07/04/2006
Cael ei rwsytro ‘gan ddiffyg ffocws’ meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd yn cael ei rhwystro gan ddiffyg mesurau o fewn gwasanaethau prif ffrwd, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Mae adroddiad o arolygiad, a gyhoeddir heddiw, hefyd yn casglu bod diwylliannau sefydliadol gwahanol rhwng y grwpiau sy’n rhan ohoni yn rhwystr i’w llwyddiant - gyda Chyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar wahân at agenda gyffredin yn hytrach na chydweithio mewn partneriaeth.

Mae lefelau troseddau yng Ngwynedd yn isel o gymharu â gweddill Cymru a’r DU. Fodd bynnag, mae pobl o hyd yn pryderu am drosedd ac anhrefn yn yr ardal. Nodwyd trosedd ac ofn trosedd fel un o brif bryderon pobl leol mewn ymatebion i’r ymgynghoriad ar y strategaeth gymunedol, ‘Gwynedd ar y Cyd’ sy’n ymrwymo sefydliadau partner i leihau trosedd, ofn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghymunedau Gwynedd.

Dengys adroddiad heddiw, er bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i leihau trosedd ac anhrefn yn y sir, bod nifer o ffactorau sy’n cyfyngu ar effeithiolrwydd y Bartneriaeth. Er enghraifft, diffyg consensws ymysg yr arweinwyr ac anawsterau wrth gadw’r ffocws ar flaenoriaethau allweddol.

Maes arall o bryder yw diffyg ymglymiad gweithredol cynghorwyr Gwynedd ac aelodau Awdurdod yr Heddlu wrth werthuso’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Roedd bylchau yn y wybodaeth a’r ddealltwriaeth yn cyfyngu ar allu’r Bartneriaeth i wneud cynnydd er na wariwyd y gyllideb hyfforddi i gyd.

Mae diffyg cyfranogiad Ynadon a Llys Ynadon Gogledd Cymru yn y Bartneriaeth hefyd yn achos pryder.

Mae’r adroddiad yn amlygu sawl agwedd gadarnhaol. Er enghraifft, caiff diogelwch cymunedol ei gynrychioli ar lefel bwrdd y cyngor gan uwch wleidydd. Mae ‘Gwynedd ar y Cyd’ yn nodi gweledigaeth hir dymor sy’n cynnwys diogelwch cymunedol fel thema allweddol. Hefyd  mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu strategaeth gymunedol.

Mae enghreifftiau da o gydweithio rhwng y partneriaid ar lefel weithredol, er enghraifft rhwng y Gwasanaeth Tân ac Achub a Wardeniaid Cymunedol. Mae’r cynllun Warden Cymunedol yn profi yn boblogaidd ymysg trigolion ac mae asiantaethau yn cydweithio mwy i fynd i’r afael â thriwanta yn y sir.

Mae argymhellion i’r Bartneriaeth yn cynnwys galwadau i:

  • Annog cynghorwyr ac aelodau awdurdod yr heddlu i gymryd rhan yn y grwp arwain
  • Darparu rhaglen sefydlu a hyfforddi
  • Cryfhau ffocws ar flaenoriaethau strategol
  • Integreiddio diogelwch cymunedol i wasanaethau prif ffrwd
  • Gweithio’n fwy effeithiol o fewn y gymuned

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, heddiw:

“Caiff partneriaethau effeithiol eu hadeiladu ar strategaethau cadarn, ffocws clir ac arweiniad cryf. Tra bod partneriaeth diogelwch cymunedol Gwynedd yn gweithio’n galed i leihau trosedd ac anhrefn yn y sir, mae angen iddi gynyddu nifer y mentrau yn y gwasanaethau prif ffrwd, cryfhau’r ddarpariaeth o hyfforddiant i aelodau a gweithio’n agosach â grwpiau cymunedol.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn o ganlyniad i arolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n ceisio nodi’r meysydd allweddol y mae’r Bartneriaeth angen mynd i’r afael â hwy er mwyn cyflawni gwelliant.
  • Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn chweched flwyddyn eu bodolaeth. Mae gan awdurdodau lleol a heddluoedd gyfrifoldeb ar y cyd i ffurfio partneriaethau gydag asiantaethau allweddol eraill fel y gwasanaeth prawf, gwasanaethau iechyd, a’r sector gwirfoddol, ar sail ardaloedd awdurdodau lleol unedol.
  • Nodwyd diogelwch cymunedol fel risg i Gyngor Gwynedd yn ystod ei hunanasesiad fel rhan o Raglen Gwella Cymru. O ganlyniad, cytunodd i gynnal arolwg gwerth gorau, gyda mewnbwn gan Swyddfa Archwilio Cymru, ar ffurf arolygiad fesul cam. Mae’r adroddiad arolygiad hwn yn rhan o’r broses hon ac mae’n dilyn adroddiad yn 2003.
  • Fel rhan o Raglen Gwella Cymru, mae cynghorau yn cynnal hunanasesiadau o’u swyddogaethau corfforaethol a’u meysydd gwasanaeth i nodi ardaloedd o risg.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol o lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwiliad cyffredinol o dua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1af Ebrill 2005, ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), ac ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru gan alluogi trosglwyddo staff Comisiwn Archwilio Cymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 029-2026-2675. Neu gallwch fynd i’n gwefan www.wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru