|
Mae pwysau ariannol byrdymor yn atal y GIG yng Nghymru rhag adfer diffygion ariannol hyn, ac mae'r sefyllfa'n debygol o waethygu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rhybuddia Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Canfu ei adroddiad: A yw'r GIG yng Nghymru yn Ymdopi o fewn yr Adnoddau Ariannol sydd ar Gael Iddo? fod ymddiriedolaethau GIG, byrddau iechyd lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru wedi cyflawni eu targedau ariannol yn ystod 2004/2005, ond roedd nifer wedi derbyn arian ychwanegol - sef tua £82 miliwn i gyd ar ddiwedd y flwyddyn honno - gyda thua £55 miliwn i'w had-dalu erbyn 2009.
Wrth ystyried sectorau gwahanol y GIG yn eu tro, ym mis Rhagfyr 2005:
- Roedd Byrddau Iechyd Lleol yn rhagweld, yn gyffredinol, y byddant yn cyflawni eu terfynau adnoddau 2005/2006, gyda gwarged net cyffredinol o tua £4 miliwn;
- Roedd y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau GIG yn rhagweld na fyddant yn mantoli'r gyllideb yn 2005/2006, ac yn disgwyl gorwario tua £26 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
- Roedd Comisiwn Iechyd Cymru, un o asiantaethau Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhagweld diffyg pellach o tua £10 miliwn.
Ar yr adeg yr ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn fodlon bod digon o arian ar gael o fewn system y GIG i gyflawni ymrwymiadau cyrff GIG lleol o ddydd i ddydd hyd ddiwedd y flwyddyn i fis Mawrth 2006.Mae'n debyg mai dyna ddigwyddodd.
Roedd yr amcangyfrifon diwedd blwyddyn ym mis Rhagfyr 2005 yn dangos gwelliant ar ragolygon y misoedd blaenorol, ond dal yn cynrychioli diffyg net o tua £32 miliwn ar gyfer 2005/2006. Er bod rhagolygon gan nifer o gyrff GIG yn parhau'n sefydlog yn ystod y flwyddyn, mae rhagolygon cyrff eraill wedi amrywio'n fawr, sy'n codi cwestiynau ynglyn ag effeithiolrwydd rheolaeth ariannol a gallu rhai cyrff i ragweld yn gywir.
Casgliad yr adroddiad yw oni reolir y rhesymau sylfaenol dros y diffygion yn llwyddiannus, yna bydd y sefyllfa yn gwaethygu ar gyfer y GIG yn 2006/2007.Mae hyn oherwydd y bydd yn rhaid i rai ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol ddechrau gwneud ad-daliadau a fydd yn gosod pwysau ychwanegol ar sefydliadau gyda diffygion sylfaenol.
Er bydd ymddiriedolaethau yn cael mwy o arian gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy eu dyraniad blynyddol ar gyfer 2006/2007, i gydnabod pwysau ychwanegol megis prisiau ynni cynyddol, mae Cyfarwyddwyr Cyllid ymddiriedolaethau GIG yn honni na fydd y cynnydd cyffredinol o 4.5% yn ddigonol ar gyfer pwysau costau disgwyliedig.
Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn a fu cysylltiadau effeithiol rhwng cyfeiriad strategol y GIG yng Nghymru - fel y pennwyd yn 'Cynllun Oes' - a gweithredu cynlluniau lleol i fodloni gofynion statudol - megis gofynion Cost ac Effeithlonrwydd Strategol a'r Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid blynyddol.Canfu'r adroddiad nad yw gofynion Cost ac Effeithlonrwydd Strategol blaenorol, a roddwyd ar waith i fantoli cyfrifon rhai cymunedau iechyd, wedi cyflawni eu hamcanion yn llawn, sy'n codi amheuaeth ynglyn ag effeithiolrwydd cynigion adfer ariannol presennol.
Mae'r adroddiad yn gwneud pedwar argymhelliad ar gyfer gwella:
- Dylid dadansoddi'r rhesymau dros fethiant y gofynion Cost ac Effeithlonrwydd Strategol blaenorol cyn cytuno ar gynlluniau'r dyfodol;
- yn eu hasesiadau risg, dylai gofynion Cost ac Effeithlonrwydd Strategol newydd ystyried effaith bosibl adolygiad o'r gwasanaeth;
- Dylid ond cymeradwyo Fframweithiau Gwasanaeth a Chyllid pan fo cynlluniau ac atebolrwydd eglur ar gyfer rheoli risgiau gweddilliol;
- Mae angen dadansoddiad Cymru gyfan o safon ac effeithiolrwydd perfformiad a rheolaeth ariannol y GIG. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu gweithio'n agos â swyddogion y Cynulliad wrth iddynt ystyried y ffordd orau o weithredu hyn.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman:
“Er bod rheolaeth ariannol wedi gwella, ceir tuedd ar i lawr yn sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru sy'n achosi pryder. Rhaid i gynlluniau adennill fod yn realistig gyda gweithdrefnau effeithiol ar gyfer cyflwyno adroddiadau. Rhaid bod yn hollol glir ynglyn â phwy sy'n gyfrifol am weithredu a phwy sy'n atebol dros weinyddu'r camau hynny. Yn bennaf oll, rhaid mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol dros y diffyg ariannol.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r adroddiad hwn yn archwilio p'un a yw'r GIG yng Nghymru yn ymdopi o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael.
- Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar Gyllid GIG Cymru. Fodd bynnag, eleni yw'r flwyddyn gyntaf y rhoddwyd ystyriaeth i ragolygon ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
- Strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol 10 mlynedd yng Nghymru yw Cynllun Oes.Fe'i lansiwyd ym mis Mai 2005 gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Dr Brian Gibbons AC.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Ei nod yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Wasg) ar 02920 262 675 neu drwy e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk
|