|
Heddiw bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio ei strategaeth tair blynedd i helpu i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Er bod safonau uchel ar y cyfan o ran atebolrwydd ariannol mewn llywodraeth ganolog a chyrff cysylltiedig yng Nghymru, noda’r strategaeth hon nifer o faterion parhaus sy’n llesteirio gwelliannau ac y mae angen mynd i’r afael â hwy. Yna, noda sut mae’r sefydliad yn bwriadu gweithio i sicrhau bod pobl Cymru ar eu hennill yn sgîl gwasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi’u rheoli’n dda ac sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru,
"Ers datganoli, mae gwariant yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ymron wedi dyblu i lefel gyfredol o ryw £14 biliwn y flwyddyn. Mae cyflymder a graddfa’r newidiadau presennol yn sylweddol ac yn yr un modd, mae disgwyliadau mawr ymhlith y cyhoedd a gwleidyddion o ran safonau, cyfartaleddau a gwelliannau. Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn y cyd-destun hwn. Dyna pam yr wyf yn rhoi pwys mawr ar y strategaeth hon a fydd yn llywio fy newis o ran gwaith a chyflawni a gwerthuso’r gwaith hwnnw dros y tair blynedd nesaf."
Noda’r ddogfen, a lansiwyd yng nghynhadledd gyntaf y Swyddfa yng Nghaerdydd, rwystrau a chyfyngiadau a ganfyddir ym maes cynllunio a darparu gwasanaethau sy’n cynnwys cyfluniadau gwasanaeth traddodiadol neu hanesyddol, diffyg capasiti, bylchau o ran galluoedd a rhaniadau o ran cynllunio a’r ddarpariaeth. Yn sail i’r pethau hyn mae sefyllfa ariannol wael mewn rhai rhannau o’r GIG, anghydraddoldeb o ran mynediad i wasanaethau, gwaith partneriaeth aneffeithiol ac achosion o annarbodusrwydd ym maes caffael.
Meddai Jeremy Colman,
"Er na all Swyddfa Archwilio Cymru ymwneud â pholisi, gall ddylanwadu ar brosesau busnes a chynorthwyo newidiadau, lle y bo angen, yn ymddygiad y rhai sy’n gyfrifol ar lefel weithredol am ddarparu gwasanaethau. Bwriadaf osod pwyslais o’r newydd
ar nodi arfer da a helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno’r arfer da hwnnw. Rwyf hefyd yn ymrwymedig i wella’r cyd-gyswllt â chyrff archwilio, arolygu, rheoleiddio a phartneriaid eraill a chyfrannu at ddatblygu systemau cadarn o gymhariaeth rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU, ac yn sgîl hynny, â rhanbarthau eraill. Er mwyn cyflawni hyn rwyf wedi nodi’r modd y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio’i hadnoddau ei hun ac yn mesur ei pherfformiad ei hun."
Nodiadau i Olygyddion:
- Caiff strategaeth Swyddfa Archwilio Cymru ei lansio heddiw yn ei chynhadledd gyntaf: Un Sector Cyhoeddus i Gymru: Cyflawniad a Chraffu Di-dor yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Ei nod yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi’u rheoli’n dda ac sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu ebostiwch rachel.harries@wao.gov.uk
|