Wales Audit Office / Swyddfa Archwilio Cymru
Available available in: Cymraeg / English
Header links:
28/06/2006
Gwnaed cynnydd sylweddol yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol
Mae'r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau amseroedd aros a mynd i'r afael a'u hachosion yn strategol, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Dywed ei adroddiad wrth Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad bod rhai risgiau hysbys yn bodoli o hyd, ac y bydd angen eu rheoli'n ofalus er mwyn cyflawni a chynnal targed uchelgeisiol Llywodraeth Cynulliad Cymru, na ddylai unrhyw glaf, o fis Rhagfyr 2009 ymlaen, aros mwy na chwe mis o'r adeg y bydd y meddyg teulu yn ei atgyfeirio i gael triniaeth.
Mae'r adroddiad yn dilyn adroddiad Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad: Amseroedd Aros y GIG, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2005. Daw i'r casgliad bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd wrth gyflawni holl o argymhellion y Pwyllgor Archwilio.
Mae'r adroddiad heddiw yn argymell dau welliant arall. Mae'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gomisiynu gwaith i brofi cywirdeb data rhestrau aros; ac y dylai Llywodraeth y Cynulliad gynnwys amcanion tymor hwy yn ei waith cynllunio i gynnal yr amseroedd aros y tu hwnt i'w gynlluniau i ddarparu cydbwysedd rhwng gofyn a chynhwysedd erbyn mis Rhagfyr 2009.
Bydd Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn trafod yr adroddiad hwn yn ei gyfarfod nesaf ar 6 Gorffennaf ac yn cymryd tystiolaeth gan Ann Lloyd, y Cyfarwyddwr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nodiadau i Olygyddion:
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 02920 262 675 neu e-bostiwch lisa.smyth@wao.gov.uk