Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Dweud Eich Dweud
31/07/2006
Yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal gwrandawiadau cyhoeddus fel rhan o'r Ymchwiliad o'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru
Cynhelir cyfres o wrandawiadau cyhoeddus ledled Cymru fel rhan o Ymchwiliad yr Archwilydd Cyffredinol o'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Caiff y cyhoedd eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaeth yn uniongyrchol gyda Jeremy Colman, sy'n gobeithio cyhoeddi adroddiad yn yr hydref.

Cesglir tystiolaeth ar lafar yn y cyfarfodydd, a chaiff ei chyhoeddi ar wefan yr Ymchwiliad yn http://www.wao.gov.uk/ ynghyd â gwybodaeth arall sy'n ymwneud â'r Ymchwiliad.

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig. Gall unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig wneud hynny trwy ffurflen sydd ar gael ar wefan yr Ymchwiliad neu drwy ysgrifennu at: Ymchwiliad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, FREEPOST RRBH-GZXC-XGCH, 2 -4 Park Grove, Caerdydd CF10 3PA.

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd a hoffai fynychu gwrandawiad ond sydd angen darpariaeth ar gyfer iaith arall ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg anfon neges e-bost at info@wao.gov.uk neu ffonio 029 2026 0260.

Cynhelir y gwrandawiadau cyhoeddus yn ddwyieithog yn y lleoliadau canlynol:

 Dyddiad  Llleoliad  Amser dechrau
 10 Awst  Neuadd Brangwyn - Abertawe 1730
 11 Awst  Canolfan Casnewydd - Casnewydd 1400
 14 Awst  Canolfan Gynadledda’r Pafiliwn - Llandrindod 1700
 17 Awst  Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau, Prifysgol Bangor  - Bangor 1330
 21 Awst  Canolfan Halliwell, Coleg y Drindod - Caerfyrddin 1300
 22 Awst  Gwesty'r Marriott, Lôn y Felin - Caerdydd 1700
 5 Medi  Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam  1630
 6 Medi  Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Aberystwyth  1630

Cynhelir cyfarfodydd eraill, cyfweliadau a gwaith maes arall trwy gydol yr ymchwiliad a bydd yn cynnwys partïon allweddol, megis staff yr Ymddiriedolaeth, undebau llafur a Llywodraeth y Cynulliad.

At Sylw Desgiau Newyddion:

Os hoffech anfon gohebydd a/neu griw i wrandawiad cyhoeddus, mae croeso i chi gysylltu â Rachel Harries (Rheolwr Cyfathrebu) drwy e-bostio rachel.harries@wao.gov.uk neu ffonio 029 2026 2675.

Nodiadau i Olygyddion:

  •  Derbyniodd Jeremy Colman, a fu'n Archwilydd Cyffredinol Cymru ers mis Ebrill 2005, wahoddiad ffurfiol y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i'r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn dilyn pleidlais ar 11 Gorffennaf 2006
  • Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio materion allweddol sy'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r materion hyn yn cynnwys effeithiolrwydd safonau perfformiad, strwythurau, materion staffio a phwysau ariannol ac adnoddau. Bydd hefyd yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol ac yn gwneud argymhellion yn unol â hynny. 
  •  Bydd Jeremy Colman yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n rhoi mynediad iddo i staff a chofnodion yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Cefnogir yr Ymchwiliad gan dîm o arbenigwyr ariannol ac arbenigwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru, a'i integreiddio'n agos â'r adolygiad arbennig o'r ymddiriedolaeth a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Mai.
  •  Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 
  •  Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Diwedd

 

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru