Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Ymchwiliad i Wasanaeth Ambiwlans Cymru - Dyddiadau Gwrandawiad Ychwanegol
07/08/2006
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi dau wrandawiad cyhoeddus newydd
Yn sgîl llawer o alw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi penderfynu cynnal dau wrandawiad cyhoeddus ychwanegol fel rhan o'i Ymchwiliad i wasanaeth ambiwlans Cymru. Cynhelir y rhain ar 5 Medi yn Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru yn Wrecsam (am 1630) ac ar 7 Medi yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth (1630). Bwriad y dyddiadau newydd yw galluogi mwy o aelodau'r cyhoedd yng Nghymru i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaeth yn uniongyrchol gyda Jeremy Colman.

Oherwydd amserlen brysur yr Ymchwiliad, mae nifer y gwrandawiadau cyhoeddus yn gyfyngedig. Fodd bynnag, gall pobl gysylltu â thîm yr Ymchwiliad mewn ffyrdd eraill.

E-bost: info@wao.gov.uk
Gwefan: Gellir cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar-lein yn http://www.wao.gov.uk/  
Cyfeiriad post:
Ymchwiliad i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, FREEPOST RRBH-GZXC-XGHC 2-4 Park Grove, Caerdydd CF10 3PA.
Ffôn: Ffoniwch 029 2026 0260

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd sydd am fynychu gwrandawiad ond y mae angen darpariaeth arnynt ar gyfer iaith ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg anfon neges e-bost at mailto:info@wao.gov.uk neu ffonio 029 2026 0260.

Dyma restr lawn o'r gwrandawiadau cyhoeddus:

 Dyddiad  Lleoliad  Amser Dechrau
 10 Awst  Neuadd Brangwyn - Abertawe  1730
 11 Awst  Canolfan Casnewydd - Casnewydd  1400
 14 Awst  Canolfan Gynadledda'r Pafiliwn - Llandrindod  1700
 17 Awst  Prifysgol Bangor - Bangor  1330
 21 Awst   Canolfan Halliwell, Coleg y Drindod - Carmarthen  1300
 22 Awst   Gwesty'r Marriott, Lôn y Felin - Caerdydd  1700
 05 Medi  Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam  1630
 07 Medi  Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - Aberystwyth 1630

Cynhelir cyfarfodydd ar wahân, cyfweliadau a gwaith maes arall drwy gydol yr ymchwiliad a bydd yn cynnwys partïon allweddol, megis staff yr Ymddiriedolaeth, undebau llafur a Llywodraeth y Cynulliad.

At Sylw Desgiau Newyddion:

Os hoffech anfon gohebydd a/neu griw i wrandawiad cyhoeddus, mae croeso i chi gysylltu â Rachel Harries (Rheolwr Cyfathrebu) drwy anfon e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk neu ffonio 029 2026 2675.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Derbyniodd Jeremy Colman, a fu'n Archwilydd Cyffredinol Cymru ers mis Ebrill 2005, wahoddiad ffurfiol y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i'r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru yn dilyn pleidlais ar 11 Gorffennaf 2006.
  • Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio materion allweddol sy'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r materion hyn yn cynnwys effeithiolrwydd safonau perfformiad, strwythurau, materion staffio a phwysau ariannol ac o ran adnoddau. Bydd hefyd yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol ac yn gwneud argymhellion yn unol â hynny. Mae'n gobeithio cyhoeddi adroddiad yn yr hydref.
  • Bydd Jeremy Colman yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, sy'n rhoi mynediad iddo at staff a chofnodion yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Cefnogir yr Ymchwiliad gan dîm o arbenigwyr ariannol ac arbenigwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru, a'i integreiddio'n agos â'r adolygiad arbennig o'r ymddiriedolaeth a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Mai.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru