Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Gwella'n gyflym i gyflawni targedau'r dyfodol
31/08/2006
Mae gwasanaeth rheoli gwastraff Conwy ar ei hôl hi, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae gwasanaeth rheoli gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei chael yn anodd i gadw i fyny â chynghorau eraill yng Nghymru wrth i dargedau ddod yn fwy heriol, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman. Casgliad ei adroddiad arolygu, a gyhoeddir heddiw, yw bod y Cyngor ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd 'gweddol' gyda 'rhagolygon ansicr ar gyfer gwella'.

Er bod y Cyngor wedi cyflawni targedau presennol Llywodraeth y Cynulliad, bellach mae pwysau cynyddol ar allu a gweithrediad cyfleusterau gwastraff presennol. Mae Conwy y tu ôl i gynghorau eraill o ran ei berfformiad ailgylchu ac mae glendid strydoedd hefyd yn parhau i gymharu'n anffafriol â chynghorau eraill yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn annog y Cyngor i wella gwasanaethau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd yn gyflym os yw am gyflawni targedau'r dyfodol.

Mae meysydd allweddol ar gyfer gwella yn cynnwys cynllunio strategol, gwerth am arian, gallu rheolwyr, a chymorth gan aelodau'r cyngor a'r cyhoedd. Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar y Cyngor i gynyddu ei gyfleusterau ailgylchu a darparu gwasanaeth casglu  wrth ymyl y ffordd ar gyfer gwastraff y gellir ei ailgylchu i fwy o drigolion.

Mae'r Cyngor yn ymwybodol o'r heriau sy'n ei wynebu, ond canfu'r adroddiad nad yw'r cynlluniau'n ddigonol i gyflawni'r gwelliant angenrheidiol. Dylai cynlluniau ganolbwyntio mwy ar gyflawni blaenoriaethau strategol, a dylid sicrhau bod gwaith rheoli prosiect da yn eu hategu. Yn ogystal rhaid gwella'r broses o ymgynghori â thrigolion ac ystyried defnyddwyr gwasanaeth yn sylweddol.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i'r Cyngor, sy'n cynnwys:


• Profi natur gystadleuol ei wasanaethau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd o gymharu â chynghorau eraill a'r sector preifat.

• Nodi a gweithredu'r prif amcanion sy'n ofynnol i gyflawni'r Strategaeth Wastraff a gwella'r gwasanaeth glanhau strydoedd yn sylweddol.

• Defnyddio gwybodaeth reolaidd a chadarn ar lefel boddhad y cyhoedd â rheoli gwastraff a glanhau strydoedd fel sail i benderfyniadau am ddarparu gwasanaethau.


Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
"Bu'n rhaid i wasanaethau gwastraff awdurdodau lleol newid yn gyflym ac mae angen i Gonwy weithio'n galed i sicrhau ei fod yn addasu ac yn cyflawni gwelliannau. Dylai'r Cyngor ystyried fy argymhellion a chynhyrchu cynllun gweithredu i nodi blaenoriaethau allweddol a gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau."


Nodiadau i Olygyddion:

• Mae'r adroddiad hwn yn deillio o arolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru sy'n ymchwilio i wasanaethau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

• Yn 2002, pennwyd targedau Cenedlaethol ar gyfer rheoli gwastraff gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i'r perfformiad hwnnw barhau i wella i gyflawni targedau Ewropeaidd. Am ragor o wybodaeth am hyn ewch i http://www.wales.gov.uk/subienvironment/content/wastesummary-e.pdf

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwiliad blynyddol tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1af Ebrill 2005 trwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i gael eu trosglwyddo i'w gyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu) ar 029-2026-2675. Neu ewch i'n gwefan yn www.wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru