Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
‘Adeiladu ar Gynnyddd Cynnar’
08/09/2006
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad ar  Gymdeithas Tai o’r Cymoedd i’r Arfordir
Mae Cymdeithas Tai o’r Cymoedd i’r Arfordir wedi gwneud cynnydd amlwg ers ei sefydlu ym mis Medi 2003. Ond yn ôl adroddiad arolwg cyntaf yr Archwilydd Cyffredinol, mae’n dal yn rhy gynnar i wneud unrhyw sylwadau hirolwg a bwriedir cynnal ail arolwg o’r Gymdeithas, sydd wedi’i lleoli yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, yn 2007.

Ffurfiwyd y Gymdeithas i fynd i’r afael â’r trosglwyddiad gwirfoddol mawr cyntaf o stoc tai yng Nghymru. Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud erbyn hyn, roedd y gwasanaethau a’r trefniadau ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus yn dal i gael eu datblygu yn ystod arolwg Tachwedd 2005. Oherwydd hynny, mae’r adroddiad yn dweud ei bod yn rhy gynnar i allu ffurfio barn gytbwys, naill ai am ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y Gymdeithas nac ar ei threfniadau ar gyfer sicrhau gwelliant parhaus.

Mae’r adroddiad yn asesu’r Gymdeithas ar nifer o agweddau sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth - ei pherthynas â phreswylwyr; cyfle cyfartal; darparu, rheoli a chynnal a chadw tai; a darparu tai ar gyfer pobl sydd angen cymorth. Mae’r Gymdeithas wedi cydnabod bod angen iddi fabwysiadu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw; datblygu ei pherthynas â phreswylwyr, a gwella trefniadau gosod tai. I gynorthwyo gyda’r materion hyn, mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer datblygiad pellach.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod gan y Gymdeithas Gynllun Busnes da ar waith, sy’n cydbwyso amcanion corfforaethol ag adnoddau ariannol. Serch hynny, mae yna le i ddatblygu trefniadau rheoli perfformiad er mwyn i safonau’r gwasanaethau a ddarperir gael eu gwerthuso. Er bod gan y Gymdeithas fframwaith rheoli perfformiad, roedd diffyg data wrth gynnal yr arolwg wedi cyfyngu ar y gallu i werthuso perfformiad mewn rhai meysydd gwasanaeth allweddol.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Ers ei sefydlu yn 2003, mae O’r Cymoedd i’r Arfordir wedi gwneud cynnydd da o ran gosod sail ar gyfer newid. Bellach, mae angen i’r Gymdeithas ganolbwyntio ar wneud cynnydd pellach mewn nifer o feysydd allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys ansawdd gwasanaeth a rheoli perfformiad er mwyn i’r ail arolwg a gynlluniwyd ar gyfer 2007 allu mesur perfformiad y Gymdeithas a’i gwasanaeth i breswylwyr yn fwy clir yn erbyn y disgwyliadau a nodir gan God Rheoleiddio Cymdeithasau Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

 

I’r Golygyddion:

  •  Cwblhawyd arolwg Cymdeithas Tai o’r Cymoedd i’r Arfordir ym mis Tachwedd 2005. Cynhelir ail arolwg yn 2007.
  • Corff dielw yw Cymdeithas Tai o’r Cymoedd i’r Arfordir, a sefydlwyd yn dilyn y trosglwyddiad sylweddol cyntaf o stoc tai o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2003.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal arolwg o gymdeithasau tai yng Nghymru. Cynhelir arolygon o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
  •  Mae’r cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolwg i’w gweld yn fersiwn ddiweddaraf Cod Rheoleiddio Cymdeithasau Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cliciwch y ddolen isod i weld y ddogfen: http://newydd.cymru.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  •  Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio gwariant cyhoeddus blynyddol o oddeutu £19 biliwn bob blwyddyn.
  • Cafodd Swyddfa Archwilio Cymru ei chreu ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a oedd yn ehangu swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo staff i’w cyflogi ganddi o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru.

DIWEDD

Am wybodaeth bellach, ffoniwch Lisa Smyth (Cynorthwyydd Cyfathrebu) ar 029 2026 2673 neu anfonwch e-bost at lisa.smyth@wao.gov.uk

 

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru