Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Gwasanaeth Da Neu Ardderchog I Denantiaid
08/09/2006
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad Arolygu cyntaf Cymdeithas Tai Pontypridd a'r Cylch
Mae Cymdeithas Tai Pontypridd a'r Cylch yn darparu gwasanaethau da neu ardderchog ym mhob maes bron, er bod angen iddi fynd i'r afael â gwendidau o ran rheoli gwaith cynnal a chadw nwy, yn ôl adroddiad cyntaf erioed yr Archwilydd Cyffredinol ar Gymdeithasau Tai Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod gan y Gymdeithas nodweddion Cymdeithas sy'n gwella'n barhaus ac yn codi safonau darpariaeth.

Mae'r adroddiad, a gaiff ei gyhoeddi heddiw, yn graddio'r Gymdeithas fel ardderchog o ran ei hymagwedd tuag at ddarparu tai, ei gwasanaeth rheoli tai ac wrth ddarparu ar gyfer pobl ag anghenion arbennig. Canfu hefyd fod trefniadau da ar waith o ran ei pherthynas â phreswylwyr a chyfle cyfartal a'i bod hefyd yn darparu gwasanaethau rhentu a gosod da.

Ystyriwyd bod gwasanaeth cynnal a chadw'r Gymdeithas yn dda hefyd ar y cyfan, gyda lefelau uchel o foddhad gan denantiaid. Er ei bod yn methu â chyflawni disgwyliadau allweddol o ran cynnal a chadw nwy, roedd y Gymdeithas wedi dechrau mynd i'r afael â'r mater hwn cyn yr arolygiad a bellach mae ganddi raglen drylwyr ar waith ar gyfer gwaith cynnal a chadw wedi'i raglennui sicrhau y cyrhaeddir Safon Ansawdd Tai Cymru.   

Mae'r adroddiad yn nodi sawl maes o arfer da yn cynnwys cydweithio â Chymdeithas Tai Cynon Taf a Chymdeithas Tai Rhondda er mwyn cynhyrchu 'Byw mewn Harmoni', taflen wybodaeth i denantiaid. Ymhlith enghreifftiau eraill o arfer da mae:

• Ceisio barn defnyddwyr gwasanaethau a'i defnyddio i wella gwasanaethau
• Cynllun cymorth tenantiaeth
• Alinio cynllunio gwasanaethau â chynllunio ariannol
• Cydweithio â grwpiau eraill, fel yr heddlu lleol, awdurdodau lleol a Chymdeithasau Tai eraill i hyrwyddo gwasanaethau sydd ar gael i denantiaid


Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru :
“Mae Cymdeithas Tai Pontypridd a'r Cylch yn cyrraedd safonau ardderchog mewn llawer o feysydd o'i gwasanaethau, ac mae'r cydweithio â Chymdeithasau Tai eraill, awdurdodau lleol a'r heddlu er mwyn darparu gwasanaethau i denantiaid i'w ganmol yn fawr.”

Nodiadau i Olygyddion:

• Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Pontypridd a'r Cylch ym mis Mai 2005.

• Mae Cymdeithas Tai Pontypridd a'r Cylch wedi ennill ei phlwyf yn y gymuned ac mae'n rheoli 451 o gartrefi ym Mhontypridd a'r cylch.

• Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith ei arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

• Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cysylltiad canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas?lang=cy

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.


Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries (Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau) ar 02920 262 675 neu anfonwch e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru