|
Mae Cymdeithas Tai Abertawe yn darparu gwasanaethau da gan mwyaf i'w denantiaid ac mae ei threfniadau o ran darparu cartrefi i bobl ag anghenion cymorth yn rhagorol. Yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol, mae gan y Gymdeithas ddiwylliant sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf, mae'n gosod eiddo yn gyflym ac yn effeithlon ac mae'n annog ac yn ysgogi gwelliannau parhaus yn ei holl weithgareddau. Mae'r Gymdeithas, sy'n gwasanaethu ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw 'boddhaol' ond nid oes ganddi dargedau penodol ar gyfer cynnal arolygon o atgyweiriadau a wnaed a dylai wella'r ffordd y mae'n cofnodi gwybodaeth am waith a gwblhawyd.
Mae sawl argymhelliad ar feysydd i'w datblygu ymhellach, gan gynnwys:
-
Rhoi gwybodaeth i denantiaid am sut mae'r gymdeithas yn bodloni'r safonau gwasanaeth y mae wedi'u pennu;
-
Darparu cadarnhad ysgrifenedig bod ymgeiswyr wedi'u cofrestru i gael eu hailgartrefu;
-
Sicrhau bod y Bwrdd yn derbyn adroddiadau ar achosion sydd wedi'u diarddel o'r Gofrestr Tai; a
- Rhoi gwybodaeth i denantiaid sy'n byw mewn adeiladau nad ydynt yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru am ddisgwyliadau'r Cynulliad a chynigion y Gymdeithas.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arferion da yn y Gymdeithas - arferion y gellir eu rhoi ar waith ledled y sector tai. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau i bobl hyn, lle mae 'ymweliadau lles' â phob tenant dros 75 oed o gymorth i ganfod eu hanghenion cyfredol a'u hanghenion yn y dyfodol o ran iechyd, diogelwch a sicrhau bod cartrefi’n diwallu anghenion tenantiaid ymhlith eraill. Mae'r Gymdeithas hefyd yn mynd ati i gynnwys preswylwyr trwy gynnal arolygon, cysylltiadau wyneb yn wyneb a grwpiau ffocws i ganfod meysydd sydd angen eu gwella. Yn ogystal, mae'r Gymdeithas yn hyrwyddo amrywiaeth ac mae ei chynlluniau byw yn y ddinas wedi cyfrannu at y gwaith o adfywio ardaloedd canolog, trwy integreiddio llety ac adeiladau masnachol.
Tra'n sôn am yr adroddiad, meddai'r Archwilydd Cyffredinol Jeremy Colman heddiw, "Dylid llongyfarch Cymdeithas Tai Abertawe am y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i'w thenantiaid. Os yw'n llwyddo i adolygu ei gwasanaeth cynnal a chadw a gweithredu'r argymhellion eraill, rwy'n hyderus y gall y Gymdeithas ddarparu gwasanaethau sy'n gyson dda i'w thenantiaid. Rwy'n cymell Cymdeithasau eraill yng Nghymru i dalu sylw i'r arferion da y mae'r adroddiad hwn yn sôn amdanyn nhw a datblygu'r egwyddorion i weddu i'w sefyllfaoedd nhw'u hunain."
Nodiadau i Olygyddion:
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2673 neu lisa.smyth@wao.gov.uk
|