Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Y fenter twyll genedlaethol yn nodi £2.6 miliwn o dwyll a gordaliadau yn y sector cyhoeddus
30/11/2006
Nododd Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 £2.6 miliwn o dwyll a gordaliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sef lleihad o 5.5% ar y lefel a nodwyd yn Astudiaeth flaenorol y Fenter Twyll Genedlaethol yn 2002/2003 yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
 Wrth wneud sylwadau ar yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd ei fod wedi nodi nifer o achosion o dwyll hirdymor ac wedi helpu i'w dileu. Yn ogystal â chanfod taliadau twyllodrus a gwallus, arweiniodd Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 at 31 o erlyniadau llwyddiannus a nodi 206 o achosion o dwyll neu wall sy'n ymwneud â chyflogeion y sector cyhoeddus.

Dau faes allweddol o lwyddiant oedd canfod ac adennill gordaliadau budd-daliadau tai, a thalu pensiynau i bobl sydd wedi marw. O ran budd-daliadau tai, nododd awdurdodau arbedion o £1.038 miliwn - sef cynnydd o 45% ar yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol blaenorol.

Dangosodd ymarfer paru data pensiynau ostyngiad mewn gordaliadau o £135,000 yn y flwyddyn flaenorol i £98,000. Dangosodd achosion a nodwyd o dalu pensiynau ar ôl marwolaeth ostyngiad sylweddol ers adroddiad blaenorol y Fenter Twyll Genedlaethol. Dim ond 21 o achosion a nodwyd - sef gostyngiad o 40 o achosion ers yr ymarfer blaenorol.

Pwysleisia'r adroddiad er bod ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 wedi cynhyrchu rhai canlyniadau llwyddiannus iawn, nifer fach o awdurdodau sy’n cyflwyno adroddiadau ar arbedion ar hyn o bryd. O ganlyniad i ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 nododd tri awdurdod arbedion o fwy na £0.25 miliwn, a nododd un awdurdod arbedion o dros £0.5 miliwn.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru a'r Comisiwn Archwilio wedi creu modiwlau paru data newydd i ehangu'r ymarfer Menter Twyll Genedlaethol nesaf a helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i dargedu twyll a gordaliadau. Profwyd y modiwlau mewn safleoedd peilot ledled y DU ar gyfer 2004/2005 a byddant ar gael yng Nghymru ar gyfer 2006/2007.  Maent yn cynnwys:
• parcio a thrafnidiaeth,
• hawliadau yswiriant,
• taliadau i gartrefi gofal preswyl preifat a gofal parhaus,
• taliadau credydwyr, a
• trwyddedau masnachwyr marchnad a gyrwyr tacsi.
Bydd mwy o sefydliadau yn cymryd rhan ym Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007, a fydd yn golygu data ychwanegol i helpu i nodi twyll a gordaliadau.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:

Mae twyll yn broblem ddifrifol, nid yn unig y mae'n lleihau'r help sydd ar gael i'r rhai sydd ei angen fwyaf, mae hefyd yn tanseilio hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn helpu i leihau gordaliadau ac yn caniatáu i arian cyhoeddus ddarparu cymorth lle bo'i angen mewn gwirionedd. Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan hefyd yn manteisio ar drefniadau cryfach i atal twyll a llygredd. Yn y dyfodol, gobeithiaf y bydd pob corff cyhoeddus sy'n gymwys yn cyfranogi yn y Fenter Twyll Genedlaethol.

Nodiadau i Olygyddion

• Datblygwyd y Fenter Twyll Genedlaethol yn wreiddiol gan y Comisiwn Archwilio. Mae'n paru data ar draws cyrff sector cyhoeddus a rhwng systemau gwahanol i nodi taliadau a allai fod yn dwyllodrus neu'n wallus.

• Dechreuodd yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol yn 1996, ac fe'i cynhelir bob dwy flynedd bellach. Hyd yma fe'i defnyddiwyd i nodi cyfanswm o dros £300 miliwn o dwyll a gwallau yn y DU; £7.5 miliwn mewn perthynas â Chymru.

• Cymerodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfrifoldeb dros y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru yn 2005.

• Cyfranogodd dros 1,300 o sefydliadau yn y DU yn yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf (68 yng Nghymru). Ymhlith y sefydliadau a gyfranogodd yn ymarfer Menter Twyll Genedlaethol 2004/2005 roedd awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu, awdurdodau tân, cyrff y GIG a byrddau prawf.

• Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno gwybodaeth am eu systemau ariannol. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â budd-daliadau tai, rhenti, ad-daliadau, taliadau pensiwn, cyflogres, taliadau i geiswyr lloches, tenantiaethau cyngor, dyfarniadau myfyrwyr, cofnodion marwolaethau ac ati. Caiff y wybodaeth a roddir ei mewnbynnu i gronfa ddata ganolog a gynlluniwyd i baru eitemau data neu nodi gweithgarwch a allai fod yn dwyllodrus neu'n amhriodol.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 
Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Towler Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau ar 029 20 26 2675 neu anfonwch e-bost at laura.towler@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru