Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Gellir Datrys Problemau Hirsefydlog 'Dros Amser'
04/12/2006
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi canfyddiadau Ymchwiliad Ambiwlans Cymru
Mae perfformiad gwael hirsefydlog Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi deillio o ganlyniad i wendidau ym mhob agwedd ar reoli busnes da yn ôl Ymchwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae ei adroddiad ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth), a gyhoeddwyd heddiw, yn cadarnhau bod problemau difrifol wedi bodoli ers blynyddoedd. Er hyn, noda'r Archwilydd Cyffredinol fod gan y gwasanaeth ambiwlans gryfderau pwysig ac mae ganddo ragolwg obeithiol am y dyfodol. Yn ôl ei adroddiad gellir datrys y problemau dros amser ar yr amod yr ymdrinnir â heriau mewnol ac allanol allweddol. Mae’r cynllun moderneiddio drafft, a ddatblygwyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolaeth, yn pennu cyfeiriad er mwyn mynd i'r afael â'r gwendidau a nodwyd.    

Canfu'r Ymchwiliad fod yr Ymddiriedolaeth wedi methu'n gyson â chyflawni targedau amser ymateb, sy'n llai uchelgeisiol na'r rhai yn Lloegr. Mae hefyd wedi methu â darparu perfformiad amser ymateb digonol ledled Cymru, gydag amrywiadau rhanbarthol sylweddol. Canfuwyd mai yng ngogledd Cymru y mae'r lefel gydymffurfio uchaf â thargedau perfformiad amser ymateb ac mai yn ne-ddwyrain Cymru y mae'r lefel ar ei hisaf.

Ymhlith y problemau eraill a nodwyd mae absenoldeb hirsefydlog cyfeiriad strategol; gwendidau o ran llywodraethu mewnol ar lefel y bwrdd; arweinyddiaeth wan a phroblemau yn ymwneud â'r gallu i reoli. Yn ogystal, er bod staff ac adnoddau refeniw cyffredinol yn ymddangos yn ddigonol, nid yw'r cyflenwad o wasanaethau ambiwlans a gofal cleifion yn cyfateb yn ddigonol i adegau galw brig, yn arbennig oherwydd patrymau sifftiau a lleoli gweithwyr anhyblyg.

Ceir tystiolaeth hefyd bod systemau a seilwaith gwan sy'n awgrymu bod angen rhagor o fuddsoddi cyfalaf. Er enghraifft, mae fflyd ambiwlansys yr Ymddiriedolaeth yn annigonol, yn rhannol oherwydd problemau sy'n deillio o gaffael 46 o ambiwlansys nad oeddent yn gwbl addas at y diben. Nid yw'r Ymddiriedolaeth ychwaith wedi buddsoddi mewn systemau TGCh allweddol megis system mordwyo lloeren, meddalwedd lleoli cerbydau awtomatig a systemau eraill.

Er gwaethaf hyn oll, tynna'r adroddiad sylw at rai o gryfderau allweddol y gwasanaeth. Gyda’r buddsoddiad cyfalaf gofynnol a gwell prosesau, mae ganddo ddigon o bobl a refeniw ar gyfer gweithrediadau o ddydd i ddydd; fe'i cefnogir gan ewyllys da sylweddol o du'r cyhoedd ac mae ganddo staff rheng flaen hynod fedrus. Mae gwasanaethau ambiwlans eraill ym Mhrydain wedi bod mewn sefyllfa debyg ac wedi llwyddo i wella dros amser. Mae hyn yn peri i'r Archwilydd Cyffredinol ddod i'r casgliad bod gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru y potensial i wneud yr un peth os aiff i'r afael â chyfres o heriau mewnol ac allanol allweddol a godwyd yn yr adroddiad hwn.

Mae'r adroddiad yn cynnwys 28 o argymhellion ar gyfer gwella sy'n cwmpasu'r gwendidau allweddol a nodwyd a bydd yn helpu'r Ymddiriedolaeth i fynd i'r afael â'r heriau allweddol a wynebir ganddo. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad lle y noda'r Ymddiriedolaeth y modd y mae ei chynllun moderneiddio yn mynd i'r afael â phob un o argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:
"Mae fy ymchwiliad wedi cadarnhau bod problemau hirsefydlog ym mhob un o feysydd y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru. Bydd yn cymryd amser i gyflawni gwelliant parhaus ond rwy'n obeithiol y gall y gwasanaeth wella cyhyd ag yr aiff i'r afael â heriau allweddol. Am y rheswm hwnnw, gallaf ddod i gasgliad optimistaidd ynglyn â'r rhagolygon yn y pen draw ar gyfer llwyddiant y gwasanaeth ambiwlans wrth ddiwallu anghenion y bobl a wasanaethir ganddo".

Nodiadau i Olygyddion:
• Ym mis Gorffennaf 2006, yn dilyn pryder cyhoeddus ynghylch Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, bu i'r Cynulliad Cenedlaethol wahodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i arwain ymchwiliad i'r gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.

• Nod yr Ymchwiliad oedd cadarnhau natur a difrifoldeb y problemau canfyddedig gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad yn gryf hefyd ar y dyfodol a'r cynlluniau a ddatblygir gan y Prif Weithredwr newydd i wella gwasanaethau ambiwlans i bobl Cymru.

• Gweithiodd y tîm Ymchwilio yn agos gyda chydweithwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gynhaliodd adolygiad o drefniadau llywodraethu clinigol, gwasanaethau gofal cleifion a gwaith ymchwilio penodol i asesu'r honiad bod 500 o fywydau yn cael eu colli heb eisiau oherwydd y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithredu gan ddefnyddio canfyddiadau cynnar y cydweithwyr hyn. Mae’r honiad o 500 o fywydau yn cael ei roi ar brawf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a fydd yn adrodd ar eu darganfyddiadau ar wahân yn ei bryd.

• Casglodd yr adroddiad hwn dystiolaeth gan ystod eang o bobl a sefydliadau. Casglwyd tystiolaeth mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys gwrandawiadau cyhoeddus, cyfweliadau, arolygon grwpiau ffocws ac ymweliadau ar y safle.

• Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (yr Ymddiriedolaeth) yn 1998 drwy uno pum gwasanaeth ambiwlans rhagflaenol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cyflogi bron 2,500 o staff a chafodd drosiant blynyddol o £115 miliwn yn 2005/2006.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Harries ar 02920 262 675 neu drwy anfon e-bost at rachel.harries@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru