Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tai Gwynedd 'Yn Gwella'
21/12/2006
Ond mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn annog y Cyngor i gynnal y gwelliant
Mae Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tai Cyngor Gwynedd wedi gwella ers iddo gael ei arolygu yn 2001, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol. Ond, mae'r adroddiad yn galw ar Gyngor Gwynedd i gynnal y gwelliant hwn a sicrhau y cyflawnir y newidiadau arfaethedig.

Ers arolygiad 2001, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cyfres glir o safonau gwasanaeth. Mae wedi cyfleu'r safonau hyn i denantiaid drwy Lawlyfr Tenantiaid a chyfres o daflenni gwybodaeth gwasanaeth. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig, ond ers amrywiad yn safon y gwasanaeth a ddarperir ar draws y sir. Ac, nid yw'r Cyngor yn monitro'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn systematig i sicrhau bod y safonau'n cael eu cyrraedd.

Canfu'r adroddiad welliannau yn y trefniadau ar gyfer rheoli'r gwasanaeth cynnal a chadw tai, yn cynnwys gwell systemau Technoleg Gwybodaeth i gofnodi data. Ond canfu fod lefelau'r gwaith atgyweirio brys ac ar fyrder a gwblhawyd ar amser yn wan o gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Roedd hefyd anghysonderau sylweddol o ran sut y mae'r Cyngor yn rheoli gwaith atgyweirio mewn cartrefi gwag, a sut y mae'r Cyngor yn rheoli'r risg weithredol i'w staff rheng-flaen, er enghraifft, nid yw archebion gwaith yn nodi cleientiaid risg uchel neu gleientiaid sy'n agored i niwed. Ni ddilynir gweithdrefn i sicrhau bod cronfa ddata cyflwr stoc yn cael ei diweddaru pan gwblheir gwaith, gan arwain at ddarlun anghyson o fuddsoddiad.

Er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor yn dangos gwell arferion o ran gwasanaethu offer, yn cynnwys:

• Datblygu gweithdrefn newydd ar sut i ymdrin â chael mynediad i eiddo.
• Darparu gwybodaeth am waith cynnal a chadw nwy i denantiaid drwy gylchlythyrau'r cyngor.
• Datblygu cynigion i osod cyfarpar cyswllt data mewn eiddo lle mae anawsterau yn parhau o ran cael mynediad.

Er nad yw'r Cyngor hyd yma wedi pennu ei strategaeth ar gyfer cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2012, mae wedi mabwysiadu Cynllun Gwella Tai strategol saith mlynedd, a gynlluniwyd i ddarparu gwasanaethau cyson ar draws y sir. Fe'i cynlluniwyd hefyd i sicrhau bod y stoc tai yn cydymffurfio â SATC erbyn 2012; rheoli stoc tai yn effeithiol a sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion tenantiaid a'r gymuned.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, yn cynnwys galwadau i:

• Sicrhau bod safonau cytûn yn cael eu cyrraedd
• Adolygu perfformiad gweithredol ac anelu at wella perfformiad yn gyflymach o ran gwaith brys a gwaith ar fyrder.
• Sicrhau cysondeb o ran cyflawni polisïau a darparu gwasanaethau ledled y sir.
• Gwella trefniadau ar gyfer rheoli gwaith gwasanaethu offer blynyddol a pherfformiad contractwyr.
• Nodi'r dewis opsiwn ar gyfer cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ac ymgynghori â thenantiaid.


Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru :
"Mae Cyngor Gwynedd wedi gwella ei Wasanaeth Cynnal a Chadw Tai, ac rwy'n falch ei fod wedi cytuno ar gynllun gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i wella. Nawr mae'n rhaid i'r Cyngor ganolbwyntio hefyd ar bennu strategaeth i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012"

Nodiadau i Olygyddion:

• Arolygwyd Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tai Cyngor Gwynedd gyntaf yn 2001 gan y Comisiwn Archwilio yng Nghymru, lle canfuwyd ei fod yn 'wael' gyda rhagolygon ansicr ar gyfer gwella.

• Cynhaliwyd adolygiad Interim ym mis Gorffennaf 2003, a nododd fod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud.  Cwblhawyd adolygiad manwl pellach yn 2005. Daw'r adroddiad hwn o ganlyniad i'r adolygiad manwl yn 2005, ynghyd ag adolygiad Cynnydd Pellach dilynol a gynhaliwyd ym mis Mai 2006.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2673 neu drwy'r e-bost lisa.smyth@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru