Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Lle I Wella
22/12/2006
Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiad ar Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru
Mae gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru 'le sylweddol i wella' mewn pedwar allan o wyth maes allweddol, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ymhlith y meysydd i'w gwella mae cydberthynas y Gymdeithas â phreswylwyr a'i gwasanaeth rhentu a gosod. Ond canfu yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, fod gan y Gymdeithas, sy'n gwasanaethu tenantiaid ledled Powys a Cheredigion, ddull da o ddarparu tai, ac bod ganddi wasanaethau boddhaol mewn meysydd eraill, fel cynnal a chadw ac atgyweirio.

Mae'r Gymdeithas, a sefydlwyd yn 1975, yn dangos arfer da mewn nifer o feysydd. Er enghraifft, mae'n cydweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Powys a Cheredigion. Ymhlith yr enghreifftiau eraill mae:

• Strategaeth Mentrau Cymunedol - mae hyn yn darparu fframwaith cynhwysfawr i'r Gymdeithas allu datblygu a darparu gwasanaethau arloesol yn y gymuned, gan gynnwys meini prawf clir ar gyfer prosiectau derbyniol; a
• Adroddiad rheoli perfformiad Metrics - mae'r system yn darparu adroddiadau misol sy'n dadansoddi perfformiad y Gymdeithas yn erbyn dangosyddion craidd. Mae'r dangosyddion yn cwmpasu tri maes eang, Rhanddeiliaid, Prosesau Busnes a Dysgu a Datblygu, a chaiff perfformiad ei fesur drwy ddefnyddio system goleuadau traffig.

Er hyn, canfu'r adroddiad na allai'r Gymdeithas hybu gwelliant yn gyson oherwydd prinder safonau gwasanaeth cynhwysfawr a gwerthuso perfformiad yn yr holl feysydd gweithredu. Roedd gwendidau o ran proses a pherfformiad, a allai ei wneud yn anodd i'r Gymdeithas gyflawni ei holl amcanion strategol oherwydd diffyg swyddogaeth AD effeithiol, gwendidau yn ei system werthuso a chyfyngiadau yn ei chynlluniau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'i hamcanion. .

Mae'r adroddiad yn gwneud dros dri deg o argymhellion ar gyfer gwella. Ymhlith y rhain mae'r argymhelliad i'r Gymdeithas ymgysylltu ymhellach â phreswylwyr; gweithredu Cod Ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar rentu tai; gweithredu systemau monitro effeithiol ar gyfer gosodiadau, ataliadau a gwrthodiadau; a mynd i'r afael â gwendidau yn y gwaith o reoli rhagarolygon ac mewn trefniadau gwasanaethu statudol.

 

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae angen i Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru ystyried y tri deg pedwar o argymhellion yr wyf wedi'u gwneud yn yr adroddiad hwn er mwyn gwella gwasanaethau i'w holl breswylwyr. Mae'n beth da gweld enghreifftiau o arfer da, ond mae angen mwy o waith i ymgysylltu yn fwy agos â thenantiaid a gwella prosesau busnes."

Nodiadau i Olygyddion:

• Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru ym mis Mawrth - Ebrill 2006.

• Ffurfiwyd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn 1975  ac mae'n rheoli 1,240 o safleoedd ledled Powys a Cheredigion.  Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd Rheoli o 13 gyda dau o aelodau'r Bwrdd yn denantiaid.

• Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru.  Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru )2004.

• Nodir y cwestiynau penodol ar bob agwedd y mae'r adolygiad yn ei chwmpasu yn y fersiwn ddiweddaraf o'r Cod Rheoliadol ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cysylltiad canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas;
jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2673 neu drwy'r e-bost lisa.smyth@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru