Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Y Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol ‘yn helpu i atal digartrefedd yng Nghymru’
18/01/2007
Ond mae angen rhagor o gynnydd, meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae’r Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol yn helpu i atal digartrefedd yng Nghymru, darganfu adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a ryddhawyd heddiw. Erys risgiau allweddol, ac mae angen gwneud rhagor o gynnydd i wella cydgysylltu gweithgareddau i leihau digartrefedd, y gwasanaethau ataliol lleol a gwerthusiad.

Mae’r adroddiad yn dweud bod tuedd ymddangosol ar i lawr o ran digartrefedd yng Nghymru ond nid yw’n bendant . Mae’r nifer o bobl a gofnodwyd yn ddigartref wedi lleihau o rhyw 2,600 yn y trydydd chwarter yn 2004 i 1,900 yn yr ail chwarter yn 2006, ond cafwyd ychydig o gynnydd dros y chwe mis diwethaf. Mae’n bosibl nad yw’r ystadegau’n dweud yr holl stori gan nad yw rhai pobl yn dweud eu bod yn ddigartref.

Mae’r Strategaeth, sy’n canolbwyntio’n glir ar atal digartrefedd, yn cael y clod am annog cyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill i weithio gyda’i gilydd. Mae llawer o enghreifftiau o weithio ar y cyd yn llwyddiannus o dan y Strategaeth, ond mae angen adeiladu ar y cydweithredu rhwng adrannau’r Cynulliad a’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Er bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth o’r Strategaeth mae’r dylanwad y mae’n cael ar y gwahanol gyrff  sy’n ymwneud â mynd i’r afael â digartrefedd yn amrywio.  Mae wedi cyflwyno arweiniad newydd ac yn darparu arian grant i ddatblygu mentrau ataliol newydd.

 

Nid yw monitro a gwerthuso’r Strategaeth eto wedi cyrraedd ei lawn twf ac fe fyddant yn heriol yn enwedig pan nad oes unrhyw dargedau mesuradwy. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gobeithio mynd i’r afael â’r mater o gyflenwad a galw  trwy ei Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol a’r Pecyn Cymorth Tai Fforddiadwy.

 

Mae’r adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion i helpu i leihau ymhellach lefel digartrefedd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Gwella’r ffordd y mae Llywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol yn mesur digartrefedd;Archwiliad gan Lywodraeth y Cynulliad o’r berthynas rhwng y defnydd o’r sector cymdeithasol a rhent preifat, y cyflenwad o lety fforddiadwy a digartrefedd;
  • Codi ymwybyddiaeth fewnol am y Strategaeth o fewn Llywodraeth y Cynulliad;
  • Gwaith ar y cyd gydag awdurdodau lleol a chyrff annibynnol i nodi a gweithredu’r ffyrdd gorau o ddarparu gwasanaethau cynghori; a  
  • Chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth y Cynulliad i awdurdodau lleol ac i ddarparwyr annibynnol i wneud cynlluniau Cefnogi Pobl yn rhan o fframwaith clir, lleol a strategol, sy’n seiliedig ar anghenion a nodwyd.

 

Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw,

“Mae digartrefedd yn fater cymhleth a chymdeithasol sy’n peri pryder mawr ac yn un na ellir mynd i’r afael ag ef ond trwy weithio ar draws ffiniau sefydliadol. Mae’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru’n amlwg yn ffactor hanfodol ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy ei Strategaeth Tai Cenedlaethol. Yn ddiamau, mae i’r Strategaeth Ddigartrefedd y potensial i helpu i atal digartrefedd. Gyda gwell cyd-drefniant a gwerthusiad dylai gael effaith gynyddol.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn archwilio a all y Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol atal digartrefedd.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedd olaf ei Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol ym mis Tachwedd 2006. Ei nod yw cryfhau canolbwyntio sylw gwasanaethau digartrefedd ar atal, ar gefnogi ac ar fynediad at dai.
  • Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ag anghenion cefnogi neilltuol i fyw yn y gymuned.  Er enghraifft, mae’n helpu i atal digartrefedd am y tro cyntaf ac ailddigartrefedd drwy alluogi pobl i reoli eu tenantiaethau.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwilio rhyw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol pob blwyddyn.
  • Ei chenhadaeth yw hyrwyddo gwelliant, fel y gall pobl yng Nghymru elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol, wedi’u rheoli’n dda sy’n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd wedi ymrwymo i nodi a lledaenu arfer da ar draws sector cyhoeddus Cymru.
  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i’w gyflogaeth.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu anfonwch e-bost at Rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru