Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cymuned Caerdydd yn darparu gwasanaethau tai 'da' yn bennaf
23/01/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhyddhau adroddiad arolygu Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd
Mae Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd yn darparu gwasanaethau da yn bennaf i'w thenantiaid, a chaiff ei graddio fel darparwr tai gwych. Mae adroddiad arolygu diweddaraf y gymdeithas dai, a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, hefyd yn dweud bod ymagwedd y Gymdeithas tuag at sicrhau gwelliant parhaus yn codi lefel darpariaeth y gwasanaeth ar gyfer tenantiaid. Ond mae angen iddi wella ei hymagwedd mewn nifer o feysydd.

Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar feysydd i'w datblygu ymhellach, yn cynnwys:

  • darparu gwybodaeth a chyngor mewn amrywiaeth briodol o fformatau a ieithoedd a sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael yr un cyfleoedd i fynegi eu safbwyntiau drwy arolygon y Gymdeithas;
  • ei gwneud yn haws i breswylwyr gael gafael ar safonau gwasanaeth ac addewid i gwsmeriaid y Gymdeithas a'u defnyddio;
  • gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd gwasanaethau atal dyledion y Gymdeithas a sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o argaeledd gwasanaethau;
  • datblygu system gadarn i sicrhau y caiff preswylwyr diamddiffyn eu nodi;
  • sicrhau y caiff gwaith y Gymdeithas ei werthuso'n rheolaidd.

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer da yn y Gymdeithas, y gellir eu cymhwyso ar draws y sector tai yng Nghymru. Ymhlith y rhain mae Cardiff Young Builders Project (ar y cyd â’r Young Builders Trust) sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn gallu manteisio ar raglen hyfforddi, tai hunan gynhaliol gyda chymorth a'r cyfle i gael cyflogaeth barhaol ddiogel a llety pan maent wedi cwblhau'r rhaglen. Mae'r Gymdeithas hefyd wedi cydweithio gyda'i phreswylwyr i gynhyrchu "Pecyn Croeso Adref" sy'n rhoi gwybodaeth ddeniadol, hawdd i'w defnyddio am sut i gymryd rhan yng ngwaith y Gymdeithas. Ymhlith yr enghreifftiau eraill o arfer da mae ymagwedd y Gymdeithas tuag at ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, y modd mae'n rheoli gwasanaethu statudol ac yn cynnwys ei phreswylwyr yn y gwaith o ddatblygu'r rhaglen waith ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

“Mae fy adroddiad yn dangos bod Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd yn gyffredinol yn darparu gwasanaeth da i'w thenantiaid. Ac o weithio'n barhaus i ddatblygu'r meysydd yr wyf wedi'u hamlygu, fel gwerthuso perfformiad yn rheolaidd, dylai'r Gymdeithas allu gwella safon ei gwasanaethau ymhellach. Rwyf hefyd wedi nodi nifer o enghreifftiau o arfer da, a ddylai fod yn ddiddorol ac yn berthnasol i gymdeithasau tai cyhoeddus eraill yng Nghymru."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd ym mis Ionawr 2006. Mae'r Gymdeithas yn rheoli dros 2,000 o dai, gyda mwy na hanner ohonynt yn y Sblot neu'n Adamsdown.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1976 o ganlyniad i uno Cymdeithasau Tai Adamsdown a Moors, ac mae'n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig. Caiff ei reoli gan fwrdd o bymtheg, gan gynnwys pum aelod sy'n denantiaid.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cysylltiad canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas;
    jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu e-bostiwch rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru