Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Dweud eich dweud ar heintiau a geir mewn ysbytai
21/02/2007
Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio astudiaeth i heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn galw ar aelodau o'r cyhoedd a chyflogeion y GIG i roi eu barn ar y ffordd y mae ysbytai yn ymdrin â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, fel MRSA. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu fel rhan o ymchwiliad yr Archwilydd Cyffredinol i ba un a yw Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru yn cymryd y camau cywir i leihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd nawr ac yn y dyfodol.

Mae gan dîm yr astudiaeth ddiddordeb i glywed profiadau uniongyrchol o'r modd y caiff heintiau a geir mewn ysbytai yng Nghymru eu rheoli yn ogystal â syniadau am sut y gellir gwella pethau. Ond, ni all y tîm ystyried, na chynnig cyngor ar achosion unigol pobl yn erbyn ysbytai.

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Holiadur ar-lein: Ewch i'n gwefan http://www.wao.gov.uk/cymraeg/whatwedo/1387.asp

Ffôn: 029 2026 2554

E-bost: stephen.lisle@wao.gov.uk

Ysgrifennwch i: RHADBOST RRBH-GZXC-XGHC, 2-4 Park Grove, Caerdydd, CF10 3PA

Caiff yr arolwg ei gynnal yn dilyn pryder cyffredinol ymysg y cyhoedd am heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, yn enwedig rhai fel MRSA na ellir eu gwella gan wrthfiotigau safonol. Gall yr heintiau hyn achosi poen a dioddefaint ychwanegol i'r cleifion sy'n eu cael, gallant achosi iddynt aros yn yr ysbyty am gyfnod sylweddol hirach, a chyfrannu at farwolaeth rhai pobl.

Unwaith y bydd yr arolwg wedi'i gwblhau, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn debygol o gyflwyno adroddiad cenedlaethol, a allai fod yn sail i sesiwn rhoi tystiolaeth ym Mhwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol.

Nodiadau i Olygyddion:

·        Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

·        Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

·        Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth (Tîm Cyfathrebu) ar 029 2026 2673 neu drwy anfon e-bost at lisa.smyth@wao.gov.uk

Diwedd

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru