Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Merthyr Tudful Yn Darparu Gwasanaethau Tai O Ansawdd Da
12/03/2007
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn rhyddhau adroddiad archwilio ar Gymdeithas Tai
Mae Cymdeithas Tai Merthyr Tudful yn codi ei safonau. Dyna gasgliad yr adroddiad archwilio diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw gan yr Archwilydd Cyffredinol. Darganfu'r Adroddiad fod y Gymdeithas yn cyflenwi gwasanaethau i safon dderbyniol neu well ym mhob maes.

Mae’r Gymdeithas wedi mabwysiadu ‘ymagwedd ragorol’ tuag at ddarparu tai, a chafodd raddfa o 'dda' mewn pedwar maes allweddol - yn cwmpasu cyfle cyfartal; gosod tai; rheoli tai a gosod tai i bobl ag anghenion cymorth. Roedd trefniadau ‘boddhaol’ ar waith yn y tri maes arall a adolygwyd - perthynas y Gymdeithas â phreswylwyr, ôl-ddyledion rhent a chynnal a chadw.

Amlygodd yr adroddiad rai enghreifftiau o arfer da. Mae’r rhain yn cynnwys ymgysylltiad staff a thenantiaid wrth ddatblygu datganiad cenhadaeth y Gymdeithas, a newid o system osod yn seiliedig ar bwyntiau i gynllun sy’n seiliedig ar ddewis i’r cwsmer.

Ond mae meysydd y gellir eu gwella o hyd ac mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad. Mae’r rhain yn cynnwys:

• gweithio gyda thenantiaid i ddatblygu, cyhoeddi a monitro ystod gynhwysfawr o safonau gwasanaeth;
• datblygu  cynllun gweithredu realistig ar gyfer rhagor o gyfranogiad tenantiaid;
• dadansoddi a deall perfformiad atgyweiriadau a dangos gwerth am arian;
• gosod targedau clir ar gyfer atal dyledion a chytuno ar sut y sicrheir y rhain;
• cyhoeddi safon osod a’i rhoi ar gael i bob tenant newydd.

 
Dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:
"Mae ymagwedd Merthyr Tudful tuag at ddarparu tai o safon uchel iawn. Mae hanes diweddaf y Gymdeithas yn dangos bod ganddi allu i ddarparu rhagor o welliannau, a dylai argymhellion yr adroddiad mewn meysydd fel gwybodaeth i drigolion, ôl-ddyledion rhent a rhai agweddau ar y gwasanaeth atgyweirio ei helpu i wneud hyn."

Nodiadau i Olygwyr:

• Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Merthyr Tudful ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2005. Mae'r Gymdeithas yn rheoli dros 1,000 o gartrefi ac mae ei swyddfeydd yng nghanol tref Merthyr Tudful, gyda swyddfa gymunedol yn Nhreharris.

• Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1977 ac mae’n Gymdeithas yn y gymuned sy'n gweithredu yn ardal awdurdod unedol Merthyr Tudful.

• Ar ôl i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi, mae gofyn i'r Gymdeithas Tai gynhyrchu cynllun gweithredu, cyn pen wyth wythnos, sy’n cyflwyno sut y bydd yn ymateb i ganfyddiadau'r arolygiad.

• Mae Cynllun Cenedlaethol Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o Gymdeithasau Tai yng Nghymru. Cynhelir yr arolygiad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

• Cyflwynir y cwestiynau penodol ar bob agwedd y mae'r arolygiad yn ymdrin â hi yn y fersiwn diweddaraf o God Rheoleiddiadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae copi o’r cod ar gael drwy ddilyn y cyswllt hwn: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/regulatorycodehas?lang=cy

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol bob blwyddyn.

• Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i'w gyflogaeth.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth a fyddech cystal â chysylltu â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu anfonwch e-bost at rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru