Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Amdanom ni Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Diogelu arian cyhoeddus ym mhrosiectau LG, Casnewydd
13/03/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi adroddiad i amgylchiadau
Roedd pecyn cymorth gwladwriaethol arfaethedig gwerth £247 miliwn i ddenu cwmnïau Coreaidd i Gasnewydd, yn gwneud y noddwyr cyhoeddus yn agored i risgiau pwysig, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, bod Awdurdodau Cymru wedi cael setliad da mewn amgylchiadau anodd pan wnaeth datblygiadau LG fethu ar ôl hynny. Roedd digon o ddarpariaeth adennill i adfachu £71 miliwn gan y cwmnïau - sy'n cynrychioli 54% o'r cymorth a ddarparwyd mewn gwirionedd. Mae'r £60 miliwn sy'n weddill yn cynrychioli'r swyddi a grëwyd gan y prosiectau hyd nes iddynt fethu a manteision parhaus y seilwaith yn y safle.  Ond gellir dysgu gwersi i wella eglurder a rheoli risgiau wrth ddyfarnu cymorth yn y dyfodol.

Y datblygiad gweithgynhyrchu LG ym Mharc Imperial yng Nghasnewydd oedd un o'r mewnfuddsoddiadau mwyaf erioed a gynlluniwyd yn y Deyrnas Unedig pan gafodd ei gyhoeddi ym 1996. Ond, er i'r prosiectau ddechrau yn dda, ni chawsant eu cwblhau ar y raddfa a gynlluniwyd a chrëwyd llai na hanner o'r swyddi disgwyliedig.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar yr arian grant a ddarparwyd gan y WDA a'r Swyddfa Gymreig - Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn hynny - ac yn dod i'r casgliad eu bod wedi cael y cymeradwyaethau angenrheidiol ac wedi gweithredu â diwydrwydd priodol. Ond roedd y pecyn cymorth yn fwy na'r disgwyl ac yn fentrus:

  • roedd yn canolbwyntio ar y cyfnod cynnar o bosib, gyda llawer o'r cymorth yn daladwy yng nghamau cyntaf y prosiectau. Roedd hyn yn creu risg mawr i Awdurdodau Cymru, gan fod ganddynt adnoddau cyfyngedig i adennill eu taliadau os nad oedd buddsoddiad gan y cwmni a'r gwaith o greu swyddi yn cael eu gwireddu fel y cynlluniwyd,
  • roedd cymeradwyaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i'r pecyn cymorth yn seiliedig ar amcangyfrifon cost nad oedd modd eu profi yn llawn

Daw'r adroddiad i'r casgliad fod taliadau cymorth grant i LG, unwaith y cytunwyd ar y pecyn cymorth, wedi'u rheoli'n dda yn y rhan fwyaf o agweddau, ond dylid bod wedi monitro sefyllfa'r cymorth gwladwriaethol yn agosach. Nid oedd cyrff cyhoeddus Cymru yn gwybod hyd nes dechrau 2000 bod y gwariant yn sylweddol fwy na therfyn y cymorth gwladwriaethol, a dim ond yr adeg hon y gwnaethant rybuddio LG o'r sefyllfa.  Fodd bynnag, unwaith yr oedd yn glir na fyddai'r prosiectau yn mynd rhagddynt fel y rhagwelwyd, gwnaeth yr Awdurdodau weithredu yn briodol i adennill arian cyhoeddus a sicrhau setliadau cyfiawn gyda'r ddau gwmni.

Mae'r adroddiad yn gwneud deg argymhelliad i wella'r gwaith o reoli darpariaeth cymorth gwladwriaethol, yn cynnwys:

  • bod mor agored â phosibl gyda'r derbynnydd ar faterion cymorth gwladwriaethol, oni bai bod rhesymau cymhellol fel arall;
  • profi a dogfennu ffigurau buddsoddi yn llawn a gyflwynwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o'r broses o gymeradwyo cymorth gwladwriaethol;
  • cynnwys amodau addas ar gyfer atal ac adennill grantiau cyn cwblhau prosiect mewn trefniadau grant, yn seiliedig ar feini prawf penodol, yn ogystal ag adennill grantiau ar ôl cwblhau.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:

"Roedd datblygiad LG yn cynrychioli un o fewnfuddsoddiadau mwyaf y DU a gallai fod wedi dod â chyflogaeth sylweddol i Gymru. Er bod rhywfaint o ansicrwydd yn anochel wrth ddyfarnu arian cyhoeddus i ddenu mewnfuddsoddiad, dylid monitro darpariaeth cymorth gwladwriaethol yn agos bob amser a dylid tynhau cynlluniau adennill a threfniadau cyfreithiol i ddiogelu colledion sylweddol i drethdalwyr pe byddai prosiectau yn methu, fel y digwyddodd i LG yn y pen draw."

Nodiadau i Olygyddion:

·          Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a oedd Awdurdodau Cymru wedi diogelu eu buddsoddiad yn y prosiectau yn ddigonol ar ôl cyhoeddi'r datblygiad yn 1996, ac yn benodol, p'un a oedd y setliadau terfynol â'r cwmnïau yn fargen dda i'r trethdalwyr.

·          Defnyddir y term "Awdurdodau Cymru" i gyfeirio at y pedwar corff sector cyhoeddus a ddarparodd y pecyn cymorth i LG. Y rhain oedd y Swyddfa Gymreig (Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddarach), Awdurdod Datblygu Cymru (WDA, a unodd â Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2006), Cyngor Hyfforddiant a Menter Gwent (rhan o ELWa yn ddiweddarach, a unodd â Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2006) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Dinas a Sir Casnewydd yn ddiweddarach).  Mae canolbwynt yr adroddiad yn bennaf ar y WDA/y Swyddfa Gymreig/Llywodraeth Cynulliad Cymru, a ddarparodd y rhan fwyaf o'r cymorth.

·          Roedd datblygiad LG yn cynnwys dau brosiect amlwg. Roedd LG Electronics yn safle ffatrïoedd a oedd yn gweithgynhyrchu tiwbiau pelydryn catod (ar gyfer setiau teledu lliw a monitorau cyfrifiaduron) a chydrannau cysylltiedig. Roedd LG Semicon yn gyfleuster gwneud lled-ddargludyddion a oedd yn cynnwys gweithgynhyrchu a phrofi lled-ddargludyddion.

·          Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

·          Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ar 1 Ebrill 2005 ar ôl pasio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth dan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Smyth ar 029 2026 2673 neu drwy'r e-bost lisa.smyth@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru