Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cynghorau A Pharciau Cenedlaethol Cymru’n Parhau I Wella
21/03/2007
Ond mae angen 'ail-lunio'r’ system fesur o hyd meddai’r  Archwilydd Cyffredinol
Mae system ddiwygiedig ar gyfer asesu perfformiad cynghorau Cymreig yn dangos bod gwasanaethau llywodraeth leol yn gwella. Un fantais o Raglen Cymru ar gyfer Gwella yw bod awdurdodau lleol bellach yn adolygu eu perfformiad a'r risgiau y maent yn eu hwynebu'n flynyddol. Ond, mae angen ail-lunio’r system os yw i fod yn addas at y diben yn y dyfodol – ac yn ateb yr heriau a gyflwynir yn Nogfen Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru Creu’r Cysylltiadau. Dyma gasgliad adroddiad blynyddol 2005-2006 yr Archwilydd Cyffredinol ar Raglen Cymru ar gyfer Gwella (WPI), a gyhoeddir heddiw.

Yn gyffredinol, mae WPI yn dangos y bu gwelliannau yn asesiadau risg o wasanaethau lleol yn 2005-2006 a gwelliannau yn y ffordd y mae cynghorau'n eu rheoli eu hunain. Er enghraifft, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwella eu gwaith monitro  ac maent yn ymateb yn gyflymach i ganfyddiadau archwiliadau. Mae gwelliannau ym mherfformiad o ran gwastraff/ailgylchu er ei fod yn risg uchel, yn adlewyrchu'r broblem o gynnal y gwelliant hwn. Mae trefniadau rheolaeth gorfforaethol hefyd yn canolbwyntio’n fwy ar nodi’r weledigaeth hirdymor a’r blaenoriaethau strategol allweddol.

Fodd bynnag, nid yw rhai meysydd wedi symud, yn enwedig mewn presenoldeb mewn Addysg a'r raddfa bwyntiau cymhwysterau allannol cyfartalog ar gyfer pobl 16 oed. Mae perfformiad cynnal a chadw’r briffordd yn dirywio. Nodwyd meysydd risg uchel hefyd mewn perthynas ag Adnewyddu Democrataidd, Safonau Ymddygiad, Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb.

Diwygiwyd y rhaglen WPI y llynedd ac roedd y cynnwys cyflwyno Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd. Y bwriad yw caniatáu i awdurdodau lleol unigol ddefnyddio dangosyddion pefformiad sy'n gweddu orau iddynt ac ar yr un pryd ganiatáu cymharu perfformiad ar draws Cymru. Ond mae adroddiad heddiw yn dod i’r casgliad ei fod yn dal yn anodd gymharu perfformiad yn gywir oherwydd nad oes set o ddangosyddion perfformiad cytbwys cytunedig a safonau gwasanaeth gofynnol. Mae hyn yn golygu na ellir cymhwyso gwybodaeth yn gyson ar draws Cymru a hyd yn oed o fewn yr un awdurdod gyda threigl amser.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio nad yw’r broses o gynghorau'n cyflawni asesiadau blynyddol heb safonau o'r fath bellach yn darparu her sylfaenol gwirioneddol ac mae perygl yr aiff yn broses fiwrocrataidd ar wahân.

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o enghreifftiau o arfer da ar draws Cymru, yn ymwneud ag amrywiaeth o wasanaethau lleol – er enghraifft effeithlonrwydd ynni yng Nghyngor Sir y Fflint; gwobr 'y Cyngor Mwyaf Cyfeillgar i Bobl Ifainc' ym Mhrydain Fawr’ Pen-y-bont ar Ogwr; rhestr wirio ‘ansawdd bywyd’ Cyngor Sir Penfro; a system filio ganolog Cyngor Sir Fynwy ar gyfer talu biliau ynni a dwr.  Mae’r rhestr lawn yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:
“Mae adroddiad heddiw’n dangos bod gwaith sylweddol i’w wneud o hyd i wella’r ffordd yr asesir perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Dylai fod gan reolwyr ac aelodau’r Cyngor fynediad at wybodaeth glir a dibynadwy ar sut y mae eu gwasanaethau lleol yn cyflenwi ac ar sut y maent o gymharu â gweddill y wlad. Nid ydym ond wedi teithio rywfaint o'r ffordd yno. Ond, mae’n galondid i mi y bydd yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y llynedd yn cael eu gweithredu – yn enwedig gwaith i sefydlu set o safonau gwasanaeth gofynnol, sy'n gam mawr ymlaen."

Nodiadau i Olygwyr:

• Aeth yr adroddiad hwn ati i ateb y cwestiwn: ‘A yw Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn darparu sicrwydd bod gwasanaethau llywodraeth leol yn gwella?’

• Sefydlwyd Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella yn Ebrill 2002 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a thrwy’r rhaglen hon mae Llywoderaeth y Cynulliad, ynghyd â Swyddfa Archwilio Cymru a llywodraeth leol Cymru ei hun, yn ysgogi ac yn cefnogi newid a gwelliant yng Nghynghorau Cymru.

• Mae WPI yn seiliedig ar asesiad risg o’r meysydd gwasanaeth a’r swyddogaethau corfforaethol a gytunir yn lleol gan yr awdurdod lleol a'i reoleiddwyr sydd, yn ei dro, yn arwain Cynllun Gwella awdurdod.

• 2005/2006 oedd blwyddyn gyntaf y Fframwaith Mesur Perfformiad a ddatblygwyd drwy ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Mae’r fframwaith yn cynnwys set o ddangosyddion strategol cenedlaethol, y mae'n rhaid i awdurdodau lleol adrodd arnynr, a set o ddangosyddion craidd y mae'n rhaid i awdurdodau eu casglu ac y gallant benderfynu sut i'w defnyddio.

• Bydd Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â rheoleiddwyr eraill, yn ystyried yn flynyddol a yw canlyniadau’r broses WPI yn dangos bod awdurdodau lleol yn sicrhau gwelliant parhaus ac a ydynt yn cymhwyso’r fframwaith WPI yn briodol.

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n annibynnol ar lywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus bob blwyddyn.

• Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i’w gyflogaeth.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Rachel Moss (Rheolwraig Cyfathrebu) ar 02920 262 675 neu e-bostio rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru