Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cymdeithas Dai Sir Benfro - 'Gwasanaeth Da Yn Gyffredinol'
22/03/2007
Adroddiad arolygu'r Archwilydd Cyffredinol wedi'i gyhoeddi heddiw
Mae Cymdeithas Tai Sir Benfro yn darparu gwasanaeth da neu wasanaeth gwell mewn chwech maes allweddol allan o wyth, yn ôl adroddiad arolygu gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, fod y Gymdeithas yn darparu gwasanaeth rhentu 'ardderchog' a bod ganddi drefniadau 'da' ar waith yn y meysydd canlynol - ei chydberthynas â phreswylwyr; darparu tai; cartrefu pobl ag anghenion cymorth; gosodiadau; a rheoli eiddo. Canfuwyd bod gan y Gymdeithas hefyd drefniadau 'boddhaol' ar waith ar gyfer cyfle cyfartal a gwasanaethau cynnal a chadw.

Mae adroddiad heddiw hefyd yn nodi sawl enghraifft o arfer da yn y Gymdeithas. Ymhlith y rhain mae rhoi cyfle i'r tenantiaid weld cynghorydd budd-daliadau lles, darparu gwasanaeth cymorth i denantiaid; cynnig cynllun cartrefi wedi'u dodrefnu; a chyllideb Housing Plus - sy'n dyrannu arian i gynlluniau cymwys er mwyn gwella ystadau a chartrefi unigol.

Canfu'r adroddiad fod y Gymdeithas hefyd yn codi safonau o ran darparu gwasanaethau. Ond mae rhai meysydd i'w gwella o hyd ac mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion. Ymhlith y rhain mae:

• Gwerthuso canlyniadau o Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid y Gymdeithas
• Sicrhau bod y Gymdeithas yn cadw at ei pholisi cwyno
• Egluro trefniadau mewnol ar gyfer delio â phobl a allai gael eu hystyried yn risg uchel
• Datblygu cynlluniau mwy penodol ar gyfer gwella'r broses o gwblhau'r gwaith cynnal a chadw a'r gwaith atgyweirio yn erbyn amserau targed


Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Mae hwn yn adroddiad da i Gymdeithas Tai Sir Benfro, sydd yn gyffredinol yn darparu gwasanaethau o safon uchel i'w thenantiaid. Mae'r Gymdeithas hefyd yn codi ei safon o ran darparu gwasanaeth, ond mae angen iddi ddatblygu amrywiaeth gytbwys o fesurau perfformiad, fel y gall weld yn glir a yw'n cyrraedd y safonau gwasanaeth y mae wedi'u gosod."

Nodiadau i Olygyddion:

• Cynhaliwyd yr arolygiad o Gymdeithas Tai Sir Benfro ym mis Mehefin 2005. Mae'n gweithredu fel strwythur grwp, gydag un is-gwmni  nad yw'n elusennol ac un is-gwmni elusennol gweithredol (Gofal a Thrwsio Sir Benfro 2000) Nid oedd un o'r is-gwmnïau yn ddarostyngedig i'r arolygiad hwn.

• Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1981 ac mae'n rheoli tua 1,500 eiddo o Dyddewi i Saundersfoot. Mae ei phencadlys yn Hwlffordd.

• Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

• Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cysylltiad canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy

• Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.

• Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu e-bostiwch rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru