Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Mae angen i gynghorau fanteisio ar y cyfle i arbed dwr ac ynni
23/03/2007
Archwilydd Cyffredinol yn argymell gweithredu i helpu i gyrraedd amcanion a thargedau effeithlonrwydd ynni
Nid oes llawer o gynghorau yng Nghymru yn ymdrechu'n weithredol i sicrhau effeithlonrwydd o ran ynni a dwr ac maent yn colli allan ar gyfleoedd i arbed arian a darparu gwasanaethau gwyrddach yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae Jeremy Colman yn priodoli'r prinder llwyddiant yn y gwaith o leihau defnydd a chostau ynni a dwr i bolisïau nas dabtlygwyd yn ddigonol a pholisïau sydd wedi'u hintegreiddio'n wael, cyfrifoldebau aneglur a dull gwael o reoli perfformiad.

Mae'r adroddiad yn egluro er bod gan y rhan fwyaf o gynghorau bolisïau ynni, mae eu safon yn amrywio ac anaml iawn y cânt eu hintegreiddio i fframweithiau polisi corfforaethol cynghorau. Mae'r rhan fwyaf wedi neilltuo'r cyfrifoldeb am reoli ynni a dwr i uwch swyddog neu uwch aelod, ond caiff eu heffeithiolrwydd eu tanseilio gan gynlluniau gweithredu o safon wael a gwybodaeth annibynadwy sy'n ei gwneud yn anodd monitro perfformiad. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod angen i gynghorau atgyfnerthu eu dulliau o reoli ynni a dwr os ydynt yn mynd i lwyddo i leihau defnydd a chostau yn sylweddol. Dylid ymgorffori ystyriaethau effeithlonrwydd ynni mewn cynlluniau rheoli asedau a phenderfyniadau caffael, a dylai cynghorau ymgysylltu â defnyddwyr ynni a dwr i sicrhau eu hymrwymiad a'u cyfranogiad i leihau defnydd. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai cynghorau ystyried a yw adnoddau staff ar gyfer rheoli ynni a dwr yn addas, ac ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman heddiw:
"Gall cynghorau leihau eu defnydd a'u costau yn sylweddol os byddant yn rheoli ynni a dwr yn fwy effeithiol. Mae arwyddion bod cynghorau yn ymgorffori mesurau effeithlonrwydd ynni mewn prosiectau newydd, ac mae hyn yn galonogol. Ond hyd yn hyn, nid ydynt yn llwyddo i fanteisio ar y cyfle yn llawn. Mae angen iddynt wneud mwy i helpu staff i ddeall sut y gallant leihau'r defnydd o ynni a dwr a darparu cymhelliant i adrannau a staff i wneud arbedion o ran effeithlonrwydd.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ariannwyd Swyddfa Archwilio Cymru gan Fwrdd Gwella Cymru, fel rhan o raglen reoleiddio ar gyfer 2004/2005, i gynnal yr astudiaeth wella hon ar draws yr holl gynghorau yng Nghymru.
  • Yn dilyn ymgynghori â phartïon perthnasol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio'r trefniadau rheoli ynni a dwr ym mhob un o'r 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru, ac mae wedi cyflwyno adroddiad ar ei chanfyddiadau i bob cyngor ynghyd â'i hargymhellion ar gyfer gwella.
  • Roedd yr astudiaeth yn gyfyngedig i adeiladau annomestig y cynghorau, ac archwiliodd p'un a yw ynni a dwr yn cael eu rheoli'n effeithiol mewn llywodraeth leol. Ochr yn ochr â'r astudiaeth hon, roedd Gwerth Cymru (Caffael) yn archwilio'r ffordd y caiff ynni ei gaffael ar draws y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.


Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Moss (Rheolwr Cysylltiadau) ar 02920 262 675 neu e-bostiwch rachel.moss@wao.gov.uk

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru