Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Tai Gogledd Cymru'n ‘foddhaol’
28/03/2007
Yr Archwilydd Cyffredinol yn rhyddhau adroddiad ar y Gymdeithas Tai
Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru’n darparu gwasanaeth ‘boddhaol’ i’w thenantiaid ac yn codi safonau cyflenwi gwasanaeth, yn ôl adroddiad arolygu a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cafwyd bod y Gymdeithas, sy'n gwasanaethu cymunedau yng Nghonwy, yng Ngwynedd ac yn Ynys Môn, yn foddhaol ym mhob un o'r wyth maes  allweddol a archwiliwyd - sef ei pherthynas â phreswylwyr; cyfleoedd cyfartal; darparu tai; gwasanaeth rhenti; gosod tai; rheoli tai; cynnal a chadw a gosod tai i bobl ag anghenion cefnogi.  

Darganfu’r adroddiad fod y Gymdeithas wedi ymrwymo i hwyluso cyfranogiad preswylwyr ac yn ymwneud ag ystod o weithgareddau gyda’r nod o hybu parch ac amrywiaeth a chyfle cyfartal. Mae’n helpu i ddiogelu ansawdd bywyd preswylwyr a chymdogion drwy ei hymagwedd tuag at ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae ganddi gynllun clir i lwyr nodi’r gwaith cynnal a chadw a’r gwelliannau sy’n angenrheidiol i ateb Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rai enghreifftiau o arfer da y Gymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi trefniadau clir ac effeithiol yn eu lle ar gyfer sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor ar gael yn hawdd mewn ystod eang o fformatau. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi peilota defnyddio tenantiaethau byrddaliol sicr fel tenantiaethau cyflwyno, gan werthuso eu heffaith ac mae wedi ceisio barn preswylwyr cyn dechrau eu defnyddio'n gyffredinol.  

Mae ymagwedd y Gymdeithas tuag at Werth Gorau yn gadarn ac yn effeithiol a rhoddir cyfrifoldeb amdani i aelod uwch o'r staff, y mae ganddi fethodoleg a phrosesau a arweiniodd at adroddiadau ac argymhellion gweithredu cynhwysfawr. Ond mae meysydd lle y gellid gwella gwasanaethau o hyd ac mae'r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • datblygu fframwaith cynhwysfawr a systematig ar gyfer cyfranogiad preswylwyr a gweithgareddau datblygu'r gymuned;
  • cwrdd â dyddiadau cau ar gyfer gweithredu o fewn cynllun gweithredu Cynllun yr Iaith Gymraeg;
  • cryfhau trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol perthnasol a chydag asiantaethau eraill;
  • darparu gwasanaeth atal dyledion effeithiol; a
  • gwella’r gwasanaeth atgyweirio ymatebol i sicrhau gwerth am arian, rheolaeth effeithiol ar y gyllideb, gwybodaeth gywir am berfformiad, a gwasanaeth o ansawdd i breswylwyr.  

Meddai Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:

"Mae Cymdeithas Tai Gogledd Cymru yn ateb disgwyliadau allweddol Llywodraeth y Cynulliad o ran ansawdd y gwasanaethau y mae'n ei darparu i denantiaid, a cheir tystiolaeth glir bod gwasanaethau'n gwella. Fodd bynnag mae’r adroddiad hwn yn dangos bod yna feysydd y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, ac mae'n cynnwys argymhellion i helpu'r Gymdeithas i wella ymhellach."

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Arolygwyd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2006. Mae'r Gymdeithas yn rheoli dros 2,000 o eiddo ac mae wedi’i lleoli yng Nghyffordd Llandudno, gydag ail swyddfa ym Mangor.
  • Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1974 fel Cymdeithas Tai Llandudno a Gogledd Cymru a throdd yn North Wales Housing Association Ltd/Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cyf yn 1987.  
  • Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn, mae gofyn i’r Gymdeithas Tai gynhyrchu cynllun gweithredu, cyn pen wyth wythnos, yn gosod allan sut y bydd yn ymateb i ganfyddiadau’r arolygiad.
  • Mae Cymdeithas Cynlluniad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal arolygiad o Gymdeithasau Tai yng Nghymru. Cynhelir gwaith arolygu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
  • Cyflwynir y cwestiynau penodol am bob agwedd y mae'r arolygiad yn ymdrin â hi yn fersiwn diweddaraf o God Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae hwn ar gael drwy glicio'r cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=en
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar lywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio’n flynyddol ryw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o Swyddfa Archwilio Cymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i'w gyflogaeth.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Moss ar 029 2026 2675 neu anfonwch e-bost at rachel.moss@wao.gov.uk <mailto:rachel.moss@wao.gov.uk>

 

 

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru