Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cymdeithas Tai Cynon Tâf Yn Darparu Gwasanaethau ‘Da’
24/05/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi'r adroddiad arolygu diweddaraf
Mae Cymdeithas Tai Cynon Tâf  yn darparu gwasanaethau 'da' mewn chwech allan o wyth maes allweddol, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae gan y Gymdeithas hefyd drefniadau ‘ardderchog’ ar waith ar gyfer ei chydberthynas â thrigolion ac mae ganddi wasanaeth rhenti ‘boddhaol’. Canfu'r adroddiad fod y Gymdeithas yn sicrhau gwelliant parhaus ac yn dangos gallu corfforaethol a strategol cryf.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o enghreifftiau o arfer da yn y Gymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaeth â dwy Gymdeithas Dai arall a'r Awdurdod Lleol i sefydlu cofrestr tai yn benodol i bobl ag anabledd corfforol a oedd yn chwilio am lety amgen i symud iddo. Mae'r Gymdeithas hefyd yn annog cyfranogiad trigolion drwy amrywiaeth o gyfleoedd ac mae'n sicrhau bod tenantiaid newydd yn cael gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Hefyd, cynhyrchodd y Gymdeithas ystod eang o daflenni gwybodaeth dwyieithog am wasanaethau a oedd yn nodi'r safonau gwasanaeth y gellir eu disgwyl yn glir, gan alluogi tenantiaid i gael gafael ar wybodaeth yn hawdd.

Mae'r Gymdeithas wedi nodi cyfleoedd i wella rhai meysydd gwasanaeth. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas wedi gwerthuso ei threfniadau ar gyfer atal dyled ac wedi nodi bod angen ymestyn yr ystod o wasanaethau cyngor sydd ar gael. Mae'r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad ar feysydd i'w gwella ymhellach:

  • datblygu ffyrdd o gael gafael ar wasanaethau cynghori ar atal dyledion a sicrhau'r incwm mwyaf a chodi ymwybyddiaeth o argaeledd y gwasanaethau hynny i bob tenant;
  • llunio gwybodaeth glir ar gyfer y rheini a allai fod wedi'u gwahardd rhag cael eu hystyried ar gyfer tai er mwyn esbonio'r rheswm dros y gwaharddiad, y camau y gallai fod angen iddynt eu cymryd a'r trefniadau ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau i wahardd.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Yr wyf yn fodlon bod Cymdeithas Tai Cynon Tâf yn darparu gwasanaethau da ar y cyfan a bod ganddi gydberthynas ardderchog â'i thenantiaid. Yr hyn sydd angen i'r Gymdeithas ei wneud yw datblygu rhai meysydd o'i gwasanaeth rhenti er mwyn ei gysoni â'r meysydd gwasanaeth eraill. Dylai gweithredu'r argymhellion yn fy adroddiad helpu i fynd i'r afael â hyn.”

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru