|
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd a chyflogeion y GIG i leisio’u safbwyntiau ar oedi wrth drosglwyddo gofal yn ysbytai Gwent a Chaerdydd/Bro Morgannwg. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd pan mae claf yn barod i gael ei drosglwyddo o wely ysbyty cyffredinol ac aciwt ond ei fod yn parhau i ddefnyddio'r gwely hwnnw. Bydd y tîm astudio yn edrych ar pa un ai yw ymddiriedolaethau'r GIG, y byrddau iechyd lleol a'r cynghorau yn cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â graddau ac achosion oedi wrth drosglwyddo gofal mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hefyd yn edrych ar sut y gellid gwneud gwelliannau.
Mae diddordeb gan y tîm astudio glywed safbwyntiau a phrofiadau pobl mewn perthynas â throsglwyddo cleifion yn ardaloedd Gwent a Chaerdydd/Bro Morgannwg, ynghyd â syniadau ar sut y teimlai pobl y gellid gwella ar y systemau cyfredol. Am resymau amlwg, ni all y tîm dderbyn, na chynnig cyngor ar, achosion pobl yn unigol.
Gallwch gysylltu yn y ffyrdd canlynol:
Holiadur ar-lein: Ymwelwch â’n gwefan: http://www.wao.gov.uk/bethrydymyneiwneud/1612.asp
Ffoniwch: 029 2026 2555
E-bostiwch: helen.thom@wao.gov.uk
Ysgrifennwch at:: FREEPOST RRBH-GZXC-XGHC, 2-4 Park Grove, Caerdydd, CF10 3PA
Caiff yr adolygiad ei weithredu er mwyn nodi prif gyfyngiadau mewn perthynas ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr ardaloedd targedol. Mae oedi o ran rhyddhau yn cael effaith uniongyrchol a negyddol ar ansawdd gofal unigolion. Cyn gynted a bydd yr adolygiad wedi ei gyflawni, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn debygol o gyhoeddi adroddiad cenedlaethol, a fyddai wedyn yn sylfaen i sesiwn dystiolaeth ym Mhwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol.
|