|
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio astudiaeth o lifogydd llanw ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae tua 60% o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd arfordirol ac mae'r amcangyfrifon presennol yn dangos y bydd cost y difrod oherwydd llifogydd yn dyblu o leiaf, neu o bosibl yn cynyddu ugain gwaith dros yr 80 mlynedd nesaf. Bydd yr archwiliad hwn yn edrych ar effeithiolrwydd y cynlluniau sydd gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i reoli'r risgiau amgylcheddol o lifogydd llanw ac erydu arfordirol. Bydd hefyd yn archwilio i ba raddau y mae Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â chyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill, yn deall y mater.
Nid yw maint y newid yn yr hinsawdd na'i ganlyniadau yn hysbys eto, felly rhaid i gynlluniau sydd wedi'u hanelu at leihau effaith llifogydd reoli risg yn hytrach na sicrwydd. Mae rhanddeiliaid sy'n rhan o'r gweithgareddau gweinyddu cymhleth yn cydnabod yn gynyddol yr angen i symud at ddull newydd o reoli risg. Nod yr astudiaeth hon yw helpu Llywodraeth y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill i brofi a mireinio eu cynigion i reoli effaith erydu arfordirol a llifogydd llanw a'r effaith ar bobl ac eiddo. Ei nod hefyd yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r risgiau a hyrwyddo atebion cynaliadwy hirdymor i erydu arfordirol a rheoli'r perygl o lifogydd llanw.
|