|
Gwariodd Cymru bron i £300 miliwn ar anghenion addysgol arbennnig (AAA) mewn ysgolion yn ystod 2006/2007, ond nid oes cyswllt amlwg rhwng faint y mae cynghorau unigol yn ei wario ac ansawdd y ddarpariaeth AAA. Dyna yw casgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o'i hadolygiad AAA, yn canfod er na all cynghorau ddweud eto a yw eu darpariaeth AAA yn gost effeithiol ai peidio, mae enghreifftiau da o fentrau a allai wella'r ddealltwriaeth o gost-effeithiolrwydd.
Mae’r adroddiad yn canfod bod cynghorau yng Nghymru yn gwario rhwng 10 a 16 y cant o'u holl gyllidebau addysg ar anghenion addysgol arbenigol. Roedd y cyllidebau a gofnodwyd yn amrywio rhwng £444 a £790 ar gyfer pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir. Mae cyllidebau AAA yn cynyddu yn gyflymach o lawer na chyllidebau ar gyfer darpariaethau ysgol eraill ac yn 2006/2007 roedd lefel yr arian yn dangos cynnydd o 10.4 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arfer da o ran sut y caiff arian AAA ei gynllunio a'i reoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Tâf, Conwy, Caerffili a Blaenau Gwent. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r angen am welliannau ar draws gynghorau mewn meysydd megis cyflwyno adroddiadau ariannol, casglu data, monitro a gwerthuso a chydweithio.
Er gwaethaf yr amrywiaeth fawr rhwng cynghorau o ran lefel yr arian AAA a gyllidebwyd a sut maent yn ei ddefnyddio, prin yw'r gydberthynas rhwng y ffactorau hyn ac ansawdd y ddarpariaeth AAA. Mae cynghorau yn gwella eu gwybodaeth o'r modd y caiff arian AAA ei wario, ond ni allant gymharu eu gwariant yn ddibynadwy â gwariant mewn cynghorau tebyg. Cynhelir gwaith cynnar mewn rhai cynghorau er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rhai mathau o ddarpariaeth AAA. Fodd bynnag, rhwystrir y gwaith yn aml gan nad oes llawer o ddata ar gael am y cynnydd y mae disgyblion sydd ag AAA yn ei wneud.
Mae'r adroddiad hwn yn gwneud saith argymhelliad i gynghorau yng Nghymru a dau argymhelliad i Lywodraeth Cynulliad Cymru gan gynnwys:
- Y dylai cynghorau yng Nghymru gytuno ag ysgolion ar eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r defnydd o unrhyw arian AAA a ddirprwyir iddynt, gan sicrhau y caiff y rhain eu dogfennu a'u bod yn hygyrch i ysgolion a llywodraethwyr;
- Y dylai cynghorau yng Nghymru gasglu data ar gynnydd yr holl ddisgyblion ag AAA mewn modd y gellir ei ddadansoddi yn ôl ysgol, math a difrifoldeb yr AAA a natur y cymorth a ddarperir;
- Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynghorau ddatblygu data meincnod yn ymwneud â chyfaint, cost ac effeithiolrwydd ystod eang o ddarpariaeth AAA.
Caiff adroddiad heddiw ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ochr yn ochr ag adroddiad diweddar Estyn (gweler Nodiadau i Olygyddion), i helpu i ddatblygu dogfen gyfarwyddyd ar reoli arian AAA ar gyfer awdurdodau addysg lleol.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman: "Caiff miliynau o bunnoedd eu gwario ar blant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru, ond mae'n anodd gwybod a yw'r holl arian yn cael ei wario yn ddoeth. Mae rhai cynghorau yn gwneud pethau yn gywir, ond yn gyffredinol mae angen tynhau'r ffordd y caiff arian ei gynllunio, ei fonitro a'r ffordd y caiff adroddiadau ariannol eu cyflwyno o hyd. Dylai canfyddiadau yn fy adroddiad i a'r canfyddiadau yn adroddiad Estyn fod o gymorth i adolygiad cyfredol Llywodraeth y Cynulliad a hybu datblygiadau pellach."
|