Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Tai cymru yn dod yn 'fwy effeithlon o ran ynni'
13/09/2007
Ond mae'r Archwilydd Cyffredinol yn galw am fwy o ymdrech i ymgysylltu â'r sector preifat
Mae tai Cymru yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni, ond efallai y bydd 14 allan o'r 22 o gynghorau yn methu â chyflawni eu targedau perfformiad, ac ni fydd yr un cyngor yn dod yn agos at y nod gwreiddiol o sicrhau lleihad o 30 y cant yn y defnydd o ynni erbyn 1 Ebrill 2007. Dyna yw casgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu fod cynghorau yn canolbwyntio'r rhan fwyaf o'u hymdrechion ar dai yn y sector cyhoeddus. Ond, gan fod y rhan fwyaf o dai y tu allan i'r sector hwn, dylai cynghorau, Llywodraeth y Cynulliad a chyrff eraill gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o annog perchenogion tai preifat i wella effeithlonrwydd ynni.

Mae Deddf Arbed Ynni yn y Cartref (HECA) 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyflwyno adroddiadau i Lywodraeth y Cynulliad ar y cynnydd a wnaed o ran sicrhau gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref.  Fodd bynnag, mae cynghorau'n mesur perfformiad mewn ffyrdd gwahanol, gan ei gwneud yn anodd olrhain cynnydd yn gywir a gwneud cymariaethau. Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad ddatblygu fframwaith mesur perfformiad safonol i fynd i'r afael â'r broblem hon.

Roedd canllawiau Deddf Arbed Ynni yn y Cartref, a gyhoeddwyd yn 1997, yn galw ar gynghorau i nodi mesurau a fyddai'n cyflawni gwelliant o 30 y cant mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref dros gyfnod o ddeng mlynedd hyd at 1 Ebrill 2007. Yn 2003 llofnododd Llywodraeth y Cynulliad gytundebau polisi gyda phob o'r 22 o gynghorau yng Nghymru a oedd yn cynnwys targedau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref. Ym mhob achos roedd y targedau a gytunwyd yn sylweddol is na'r nod gwreiddiol o 30 y cant a bennwyd yn 1997, ac mewn rhai cynghorau roedd y targedau mor aneglur fel roedd yn anodd mesur perfformiad yn eu herbyn.

Canfu adroddiad heddiw amrywiaeth mawr yn yr adnoddau staffio y mae cynghorau yn eu neilltuo i gyflawni amcanion Deddf Arbed Ynni yn y Cartref. Mae rhai cynghorau yn sicrhau adnoddau ychwanegol o ffynonellau allanol, megis o gwmnïau cyfleustodau a thrwy Gynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref Llywodraeth y Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o Swyddogion Deddf Arbed Ynni yn y Cartref o'r farn nad ydynt yn cael digon o amser i gyflawni targedau.

Gellir gwneud cynnydd pellach os yw awdurdodau lleol yn parhau i wneud y defnydd gorau o'r partneriaethau sydd ar gael ac yn canolbwyntio ymdrechion ar wella effeithlonrwydd ynni tai yn y sector preifat. Gwna'r adroddiad hwn nifer o argymhellion gyda'r nod o ymateb i'r heriau o'n blaenau, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru bennu cyfeiriad clir, yn cynnwys targedau priodol, ar gyfer cynghorau, i annog a chefnogi gwelliannau pellach mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
  • Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu rôl arweiniol yn y gwaith o annog cynghorau i fanteisio ar bob cyfle i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref o fewn y sector tai preifat.
  • Dylai cynghorau gydweithio'n agosach ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref, trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fforwm Cymru Gyfan ar Ddeddf Arbed Ynni yn y Cartref;
  • Gallai cynghorau ystyried y posibilrwydd o gydariannu swyddi Deddf Arbed Ynni yn y Cartref i wneud y gorau o'u hadnoddau cyfyngedig. 

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
"Er fy mod yn falch o weld tystiolaeth bod cynghorau yn nodi rhai gwelliannau, mae heriau gwirioneddol o'n blaenau i gael cartrefi Cymru i fod yn fwy effeithlon o ran effeithlonrwydd ynni. Cynlluniwyd fy argymhellion i helpu cynghorau a Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref ymhellach. Yn benodol, mae'r rhan fwyaf o gartrefi dan berchenogaeth breifat, felly mae angen i gynghorau a Llywodraeth y Cynulliad wneud llawer yn fwy i ymgysylltu â'r sector hwn os ydynt am weld canlyniadau gwirioneddol."

<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru