|
Mae naw allan o ddeg o awdurdodau'r heddlu a heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn parhau i berfformio'n dda o ran cofnodi data troseddau, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r Comisiwn Archwilio. Ar gyfer 2006/07, dyfarnwyd bod 88 y cant yn dda neu'n ardderchog o gymharu ag 81 y cant y flwyddyn flaenorol a 28 y cant yn 2003/04. Yng Nghymru, dyfarnwyd bod tri o'r pedwar awdurdod yn dda neu'n ardderchog ar gyfer 2006/07 a dyfarnwyd bod yr awdurdod arall yn weddol.
Mae Ansawdd Data'r Heddlu 2006/07, a gyhoeddir heddiw, yn archwilio pa mor dda mae’r heddlu yn cofnodi data a adroddwyd iddynt gan ddioddefwyr a thystion. Mae’r darganfyddiadau’n dangos fod yr heddlu’n rhoi cofnodi troseddau wrth wraidd eu hymdrechion i dargedu eu hadnoddau lle byddant yn cael yr effaith fwyaf. Fodd bynnag, er gwaethaf y darlun cadarnhaol cyffredinol, mae 26 y cant o heddluoedd nad ydynt wedi cynnal lefelau perfformiad blaenorol.
Eleni, am y tro cyntaf, mae'r adroddiad ansawdd data hefyd yn cynnwys dadansoddiad o ran pa mor dda mae'r heddlu yn cofnodi digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol na chânt eu dosbarthu fel troseddau. Mae digwyddiadau gwrthgymdeithasol yn un categori o fewn y Safon Genedlaethol ar gyfer Cofnodi Digwyddiadau (NSIR) a gyflwynwyd gan yr heddlu eleni. Dim ond 28 y cant o awdurdodau'r heddlu a'r heddluoedd sy'n dda neu'n ardderchog yn y categori ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn, o bosibl yn adlewyrchu mai hon yw'r flwyddyn gyntaf lle cafodd y categori perfformiad hwn ei asesu.
Mae’r darganfyddiadau’n dangos fod angen i'r heddlu a'u partneriaid mewn Partneriaethau Gostwng Troseddau ac Anhrefn lleol neu Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, wella sut maent yn defnyddio ac yn rhannu data ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i'w cynorthwyo i fynd i'r afael â blaenoriaethau yn y gymdogaeth a'r gymuned.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: “Mae'n galonogol gweld bod awdurdodau heddlu a heddluoedd yn gwella eu proses o gofnodi data troseddau yn barhaus, er bod gan Awdurdod Heddlu De Cymru beth ffordd i fynd o hyd er mwyn codi i lefel ei gymheiriaid yng Nghymru. Mae angen mwy o waith hefyd i wella safonau cofnodi digwyddiadau ledled Cymru a Lloegr a dylai'r argymhellion yn yr adroddiad hwn helpu i annog hyn.”
Nodiadau i Olygyddion
- Cyflwynwyd NCRS yn 2002 a dyma'r bedwaredd flwyddyn y bu'r Comisiwn Archwilio a Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu cydymffurfiaeth ag ef. Am y tro cyntaf, mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed gan awdurdodau heddlu a heddluoedd i weithredu NSIR ac ansawdd y data a ddefnyddiwyd mewn arolygon boddhad defnyddwyr.
- Adolygodd yr archwilwyr y data troseddau mewn naw categori – aflonyddwch, trais yn y cartref, digwyddiadau hiliol, troseddu treisgar, difrod troseddol, bwrgleriaeth, troseddau yn ymwneud â cherbydau, trosedd feddiangar megis lladrad personol a dwyn oddi wrth berson a digwyddiadau sy'n ymwneud â gynnau. Ar gyfer NSIR, profwyd data o'r categori ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Cyflwynwyd NCRS i godi safonau ansawdd data a gwella cysondeb pob awdurdod heddlu a heddluoedd o ran casglu a chofnodi troseddu. Mae'n rhoi pwyslais mawr ar gofnodi troseddau fel y'u disgrifir gan dyst neu ddioddefwr. Safon ar gyfer casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau a nodwyd neu a gofnodwyd i'r heddlu yw NSIR. Gall y rhain gynnwys gwrthdrawiadau traffig ffordd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd.
- Safon ar gyfer casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau a nodwyd neu a gofnodwyd i'r heddlu nad ydynt yn droseddau yw NSIR. Cafodd ei chyflwyno gan y Swyddfa Gartref, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Chymdeithas Awdurdodau’r Heddlu ar ôl adolygiad yn 2003.
- Mae'r system raddio ar gyfer 2006/07 yn wahanol i 2003/04 a 2004/05 pan roddwyd gradd golau traffig o wyrdd, ambr neu goch i awdurdodau heddlu a heddluoedd. Cyflwynwyd y system raddio pedwar band yn 2005/06 i gyfateb i'r hyn a ddefnyddiwyd yn y Fframwaith Asesu Plismona a Pherfformiad.
|
|
Gwael |
Gweddol |
Da |
Ardderchog |
|
Data am droseddau |
Yn cydymffurfio am lai nag 80 y cant |
Yn cydymffurfio rhwng 80 ac 89 y cant |
Yn cydymffurfio rhwng 90 a 94 y cant |
Yn cydymffurfio am fwy na 95 y cant |
|
Trefniadau rheoli |
Yn is na'r safonau gofynnol |
Yn bodloni'r safonau gofynnol |
Yn uwch na'r safonau gofynnol yn gyson |
Perfformiad cryf gyda thystiolaeth glir o arloesi ac arfer da y gellir ei rannu ag eraill. |
- Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
- Mae'r Comisiwn Archwilio yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff arian cyhoeddus ei wario'n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, i ddarparu gwasanaethau lleol o safon uchel ar gyfer y cyhoedd.
|