|
Mae annibyniaeth pobl sy'n agored i niwed, a thriniaeth pobl eraill, yn cael eu peryglu oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae ei gyfres o adroddiadau trawsbynciol, sy'n cael eu cyhoeddi heddiw, yn dod i'r casgliad bod angen mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn systemataidd ar draws cymunedau iechyd cyfan. Mae'r adroddiad yn nodi cwmpas penodol ar gyfer camau gweithredu systemataidd o'r fath, yn y byrdymor a'r tymor hwy.
Bydd achos o oedi wrth drosglwyddo gofal yn codi pan fydd claf mewnol yn yr ysbyty yn barod i symud i'r cam gofal nesaf, ond caiff y broses drosglwyddo ei rhwystro gan un neu fwy o resymau. Mae oedi diangen yn peryglu annibyniaeth y bobl hyn sy'n wynebu oedi. Mae oedi amhriodol yn yr ysbyty yn ddrwg i’r rheini o dan sylw oherwydd mi allant golli eu symudedd, eu gweithredoedd meddyliol a chorfforol ac yn y diwedd eu hannibyniaeth. Mae oedi o'r fath hefyd yn amharu ar y ddarpariaeth ehangach o wasanaethau a'u perfformiad ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol cyfan.
Mae'r adroddiad trosolwg yn edrych ar yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg, Gwent a Sir Gaerfyrddin, ac fe'i hategir gan dri adroddiad sy'n cwmpasu'r cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol unigol hyn. Mae'r adroddiad trosolwg yn nodi themâu a gwersi o'r tair cymuned a chânt eu bwydo i mewn i'r adolygiad annibynnol o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi 21 astudiaeth achos o arfer da o Gymru a thu hwnt a allai helpu i fynd i'r afael ag enghreifftiau o oedi wrth drosglwyddo gofal a'u hachosion.
Ledled Cymru, mae nifer y bobl sy'n blocio gwelyau wedi gostwng yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae nifer y gwelyau sy'n llawn bob dydd mewn ysbytai wedi cynyddu dau y cant dros yr un cyfnod. Mae hyn yn golygu bod llai o bobl yn wynebu oedi, ond maent yn aros am fwy o amser. Tua £69 miliwn oedd y dyddiau gwely a gymerwyd gan oedi wrth drosglwyddo gofal yn 2006-2007 - gellid bod wedi gwario £26 miliwn o hynny'n well mewn meysydd eraill.
Canfu'r adroddiad nad yw'r systemau mesur cyfredol ar gyfer achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn rhoi digon o bwys ar nifer yr achosion o flocio gwelyau. Er enghraifft, golyga cytundebau lleol, ar gyfer rhai mathau o oedi fod cyfnod cytûn ar ôl datgan bod claf yn ddigon iach i gael ei ryddhau o'r ysbyty cyn iddynt gael eu hystyried yn achos o oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae hyn yn cuddio maint y broblem ac nid yw'n pwysleisio'r effaith ar annibyniaeth pobl sy'n agored i niwed.
Unwaith y caiff cleifion eu derbyn i'r ysbyty, mae'r adroddiadau'n nodi gwendidau mewn prosesau sy'n peryglu ar lif effeithlon y cleifion drwy'r system. Mae problemau yn codi'n aml, er enghraifft, pan fydd claf yn trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - lle y bydd systemau gwahanol yn rhwystro systemau llawn rhag gweithio. Ond, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau'r system bresennol, dywed yr adroddiad y gall sefydliadau weithio'n fwy effeithiol ac mae'n galw am ffocws strategol i'r gymuned gyfan lle y bo hyn yn briodol. Mae datblygu cynlluniau i ail-gyflunio gwasanaethau yng Ngwent, Caerdydd a Bro Morgannwg yn gyfle o'r fath i gynnig gweledigaeth ac ymagwedd gliriach.
Yn ogystal â nodi enghreifftiau o arfer da yn lleol, mae'r adroddiadau yn cynnig sawl argymhelliad ar gyfer gwella ymhellach - i'r partneriaid sy'n cydweithio â'i gilydd ym mhob cymuned iechyd a gofal cymdeithasol a hefyd i Lywodraeth y Cynulliad.
Ymhlith yr argymhellion i bartneriaid lleol mae:
- datblygu ymhellach a darparu gweledigaeth wedi'i rhannu ar gyfer gwasanaethau sy'n hyrwyddo annibyniaeth pobl hyn sy'n agored i niwed;
- mynd i'r afael â phroblemau ar bob cam o lwybr gofal y claf, yn cynnwys dull rhagweithiol o nodi'r rhai sy'n wynebu risg o gael eu derbyn i'r ysbyty yn rheolaidd er mwyn darparu gofal mwy rhagweithiol mewn lleoliadau cymunedol;
- mynd i'r afael â materion capasiti, yn enwedig capasiti mewn cartrefi gofal ar gyfer yr henoed eiddil eu meddwl.
Ymhlith yr argymhellion mae'r canlynol:
- dylai Llywodraeth y Cynulliad a chyrff lleol roi terfyn ar arfer awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau o ddefnyddio cytundebau lleol i oedi'r broses o ddechrau cyfrif achos o oedi wrth drosglwyddo gofal;
- dylai partneriaid o fewn cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu modelau amlwg o ddarpariaeth gwasanaethau a gofal, y gall cyfluniad dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael ei ddatblygu ohonynt;
- dylai Llywodraeth y Cynulliad ddatblygu polisi cenedlaethol clir ar ddewis y cleifion, sy'n cynnwys am ba hyd y mae'n rhesymol i berson hyn sy'n ddiamddiffyn aros mewn gwely ysbyty am ei fod yn aros am ei ddewis leoliad;
- dylai cyrff iechyd a gofal cymdeithasol wella dulliau o reoli perfformiad a'r prosesau ar gyfer rheoli oedi wrth drosglwyddo gofal yn lleol.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: "Mae oedi diangen mewn ysbytai yn wael i'r cleifion sy'n wynebu oedi ac yn ddrwg i'r bobl y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty i wneud hynny ond na allant. I fynd i'r afael â'r broblem gymhleth iawn hon yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth y Cynulliad a chyrff iechyd a gofal cymdeithasol fabwysiadu systemau meddwl mwy effeithiol ac aeddfed, mabwysiadu arfer da mewn modd mwy cyson a chydweithio yn fwy effeithiol."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r adroddiad trosolwg yn archwilio a yw ymddiriedolaethau'r GIG, Byrddau Iechyd Lleol a chynghorau yn cymryd camau effeithiol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol cyfan mynd i'r afael â nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a'r rhesymau drostynt yng nghymunedau iechyd a gofal cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg, Gwent a Sir Gaerfyrddin.
- Fe'i cyhoeddir mewn cydweithrediad ag adroddiadau unigol manwl i gymunedau iechyd a gofal cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg, Gwent a Sir Gaerfyrddin, a bydd ar gael o'n gwefan yn www.wao.gov.uk
- Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r contractwr sy'n cynnal adolygiad annibynnol o oedi wrth drosglwyddo gofal ledled Cymru ar ran Llywodraeth y Cynulliad ac rydym wedi rhannu ein dadansoddiad helaeth o ddata cenedlaethol. Bydd ein canfyddiadau o'r tri lleoliad yn llywio'r adolygiad annibynnol wrth iddo ystyried y sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru. Bydd yr adolygiad annibynnol yn profi perthnasedd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn ar gyfer cymunedau iechyd a gofal cymdeithasol eraill yng Nghymru.
- Nododd ein gwaith nifer o enghreifftiau o arfer da a nodir mewn astudiaethau achos yn yr adroddiad ac yn yr adran Y Gyfnewidfa Arfer Da ar ein gwefan.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
- Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|