|
Mae Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru yn gweithio'n galed i leihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, sy'n costio £50 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru yn ôl amcangyfrifon. Ond yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae angen i ymddiriedolaethau gymryd camau ychwanegol, llawer ohonynt yn rhai syml, i sicrhau bod pawb yn gyfrifol am atal a rheoli heintiau er mwyn lleihau heintiau ymhellach.
Mae gan ychydig dros 6 y cant o gleifion mewn ysbytai yng Nghymru haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ar unrhyw adeg. Mae hyn yn is na Lloegr neu'r Alban, ond yn uwch na Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Er i argaeledd a dibynadwyedd y data amrywio, gwelwyd gostyngiad sylweddol yng nghyfraddau heintiau MRSA yn y gwaed yng Nghymru rhwng 2005 a 2006 am y tro cyntaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw ar ddechrau'r 1990au. Ac er gwaethaf cynnydd mewn achosion rhwng 1993 a 2005, mae amlder C. difficile wedi sefydlogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, dim ond cyfran fach o heintiau yng Nghymru y mae achosion o heintiau MRSA yn y gwaed a C. difficile yn ei chynrychioli.
Ers i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi ei strategaeth: Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd - Strategaeth ar gyfer Ysbytai ym mis Medi 2004, mae ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi datblygu fframweithiau - gan gynnwys cynlluniau gweithredu a thargedau - i fodloni safonau arfer da. Er enghraifft, mae sawl un wedi penodi arweinwyr rheoli heintiau ym mhob un o'u cyfarwyddiaethau ac mae pob ymddiriedolaeth wedi sefydlu pwyllgorau rheoli heintiau ac maent yn sgrinio cleifion am heintiau.
Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn amlygu meysydd lle ceir gwendidau. Ymddengys nad yw pawb o'r farn mai cyfrifoldeb personol pob aelod o staff y GIG, gan gynnwys clinigwyr, yw atal a rheoli heintiau, ac mae problemau o ran hylendid, glendid a phrosesau glanhau o hyd. Mae peth dryswch hefyd ynghylch trefniadau glanhau, yn ogystal ag amheuon o ran cyfrifoldebau mewn meysydd penodol a phroblemau o ran recriwtio a chadw staff glanhau. A gall galw cynyddol am welyau olygu weithiau y caiff cleifion eu derbyn i fannau mewn ysbytai a ddylai fod ar gau yn dilyn achosion o ddolur rhydd a chwydu.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys:
- dylid nodi cyfrifoldebau rheoli heintiau mewn swydd ddisgrifiadau;
- dylai ymddiriedolaethau'r GIG sicrhau bod glanhawyr yn rhan o dimau ward penodol;
- dylai Llywodraeth y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i ymddiriedolaethau fesur cost ac effeithiau heintiau;
- dylai ymddiriedolaethau adolygu gallu a llwyth gwaith timau rheoli heintiau; a
- dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau y caiff heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd eu cwmpasu yn ddigonol mewn rhaglenni addysg uwch ac addysg bellach ar gyfer meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Jeremy Colman: "Wrth reswm mae heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn bryder mawr i gleifion, y cyhoedd a'r GIG yng Nghymru. Mae'n dda gweld ymddiriedolaethau'r GIG yn cymryd y mater o ddifrif. Er yr ymddengys fod cyfraddau rhai heintiau megis MRSA, yn lleihau, mae heintiau eraill megis C. difficile yn cynyddu. Ac mae camau pwysig y mae angen eu cymryd o hyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol dros sicrhau mesurau gwell o ran atal a rheoli heintiau."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r adroddiad hwn yn ystyried p'un a yw ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru yn gwneud y pethau cywir, a ydynt yn gweithredu'n unol â strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, i sicrhau'r lefelau lleiaf posibl o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal. Mae'n disgrifio'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran cyfraddau heintiau ac mae hefyd yn nodi'r camau y mae ymddiriedolaethau wedi'u cymryd i reoli'r risg o heintiau.
- Ceir gwybodaeth fanwl am berfformiad rheoli heintiau yn ymwneud â phob ymddiriedolaeth yng Nghymru ar ein gwefan www.wao.gov.uk i helpu'r cyhoedd i ddeall y sefyllfa yn eu hymddiriedolaeth leol.
- Mae'r adroddiad hefyd yn nodi 15 o astudiaethau achos o arfer da y gellir eu gweld ar adran Y Gyfnewidfa Arfer Da o'n gwefan, i hwyluso'r gwaith o drosglwyddo arfer da o'r fath.
- Mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn mynd law yn llaw ag adolygiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru -Adroddiad ar Reoli Heintiau - Canfyddiadau a Themâu. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o hapwiriadau annisgwyl mewn pump ysbyty (o fewn pedair ymddiriedolaeth GIG) a phedwar o ddarparwyr gofal iechyd annibynnol, ac mae ar gael ar y wefan www.hiw.org.uk
- Strategaeth Llywodraeth y Cynulliad: Gellir gweld Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd - Stategaeth ar gyfer Ysbytai yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru http://new.wales.gov.uk/topics/health/protection/communicable-disease/healthcare-associated/whaisg-terms-reference/strategy/?lang=en
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
|