Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Mae cynllun amaeth-amgylcheddol cymru ‘yn gwella cefn gwlad’
15/11/2007
Ond gellid colli'r buddiannau oni fydd Tir Gofal yn addasu, dywed yr Archwilydd Cyffredinol
Mae cefn gwlad Cymru yn dangos arwyddion calonogol o wella ers lansio Tir Gofal - prif gynllun amaeth-amgylcheddol y wlad - yn 1999. Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi buddiannau amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd gymdeithasol y cynllun, sy'n talu tirfeddianwyr i wella a rheoli eu ffermydd mewn ffyrdd a fydd yn diogelu'r amgylchedd gwledig. Ond, mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio efallai na ellir cynnal buddiannau Tir Gofal oni fydd ganddo ymrwymiad ariannol hirdymor ac y daw yn fwy ymatebol i anghenion a blaenoriaethau lleol.

Ers lansio Tir Gofal yn 1999, mae'r cynllun wedi talu tua £100 miliwn i dirfeddianwyr, a bellach mae'n cwmpasu 20 y cant o dir amaethyddol Cymru, sef ffigur sy'n cymharu'n dda â chynlluniau tebyg yn Lloegr a'r Alban. Bu'r cynllun yn boblogaidd iawn gyda thirfeddianwyr, gyda mwy o geisiadau na'r cyllid a'r capasiti gweinyddol sydd ar gael, gan arwain at restrau aros a chwotâu i reoli'r galw. Ceir tystiolaeth bod y cynllun yn helpu i amddiffyn a gwella cynefinoedd, nodweddion hanesyddol a phrydferthwch naturiol cefn gwlad Cymru, ac yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer mynediad cyhoeddus i ardaloedd gwledig. Mae hefyd yn creu gwariant ychwanegol yn yr economi leol - tua £4.2 miliwn, pan y'i mesurwyd ddiwethaf yn 2003, gan hefyd greu 112 o swyddi.  

Ond er bod yr adroddiad yn dweud fod y cynllun wedi'i gynllunio a'i reoli'n dda ar y cyfan, mae'n costio mwy i'w redeg nag y disgwyliwyd yn wreiddiol.  Mae hefyd yn rhy gynnar i asesu effaith lawn y cynllun, gan y gall newid amgylcheddol gymryd amser hir iawn, ac mae bylchau sylweddol yng ngwaith ymchwil a threfniadau gwerthuso Llywodraeth y Cynulliad. Hefyd, mae angen ymrwymiad ariannol hirdymor os yw Tir Gofal am barhau i ychwanegu gwerth a chynnal buddiannau presennol. Er enghraifft, nid oes fawr o gymhelliant economaidd i dirfeddiannwr barhau ag arferion buddiol sy'n cymryd amser hir i'w cyflawni, megis creu coetir collddail, heb gael ei dalu. Hefyd mae gan rai ffermwyr a rhanddeiliaid rai amheuon ynglyn â hyblygrwydd a thargedu'r cynllun.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu effaith hirdymor Tir Gofal. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • datblygu a monitro strategaeth werthuso ar gyfer pob un o'i gynlluniau amaeth-amgylcheddol - gyda thechnegau a dosbarthiadau cyffredin i gynorthwyo wrth wneud cymariaethau;
  • cysylltu â rheolwyr amaeth-amgylcheddol eraill yn y DU i nodi arfer da a chydweithio i wella ansawdd data a lleihau costau;
  • teilwra'r cynllun i adlewyrch amodau a blaenoriaethau polisi lleol; a
  • phennu nifer fach o dargedau, sy'n cwmpasu pob un o brif agweddau o weithgarwch y cynllun, a chyflwyno adroddiadau ar berfformiad yn rheolaidd ar lefel uwch swyddogion.

Heddiw dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman:
‘Ceir arwyddion calonogol bod cefn gwlad Cymru yn elwa o gynllun Tir Gofal, ond mae angen gwneud rhai newidiadau i sicrhau y cynhelir y buddiannau hyn.  Dylai gwella'r ffordd y caiff perfformiad ei fesur a'i werthuso a symleiddio rhai agweddau ar y cynllun sicrhau bod Tir Gofal hyd yn oed yn fwy addas ar gyfer y dyfodol.’

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae'r adroddiad hwn yn ystyried a yw Tir Gofal mewn sefyllfa dda i gyflawni ei amcanion, nawr ac yn y dyfodol.  Mae'n canolbwyntio ar berfformiad Tir Gofal wrth gyflawni ei amcanion a ph'un a yw'r cynllun wedi ei gynllunio i sicrhau'r buddiannau gorau posibl ac yn gwrthsefyll risgiau yn y dyfodol.
  • Mae Tir Gofal yn talu tirddeiliaid i reoli tir amaethyddol mewn modd sy'n fuddiol i'r amgylchedd, ac mae ar agor i unrhyw dirddaliad yng Nghymru y bernir fod ganddo werth amgylcheddol gwirioneddol neu bosibl digonol.
  • Ym mis Hydref 2006, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am weinyddu'r cynllun o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a fu'n rhedeg y cynllun ers ei sefydlu, i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhanariannu'r gost o dalu tirddeiliaid, a oedd yn £20 miliwn yn 2006-2007 a £100 miliwn o sefydlu'r cynllun yn 1999 tan 31 Awst 2007. 
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am archwilio tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau, fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru