Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Mae Grwp Tai Seren yn darparu gwasanaeth da
05/12/2007
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhyddhau adroddiad ar y grwp tai yng Ngwent
Mae Grwp Tai Seren yn darparu gwasanaeth o safon dda i denantiaid - gan gael gradd ardderchog mewn dau faes allweddol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Nododd yr adroddiad fod gan y grwp tai yng Ngwent ffordd 'ardderchog' o ddarparu tai, trefniadau rheoli tai 'ardderchog', gwasanaethau rhenti ac anghenion cymorth 'da', cyfle cyfartal 'da', cydberthynas 'foddhaol' â phreswylwyr, trefniadau gosod tai 'boddhaol' a gwasanaeth cynnal a chadw 'boddhaol.

Nododd yr adroddiad hefyd fod gwasanaethau wedi bod yn gwella mewn amrywiaeth o feysydd, ar ôl ymgysylltu'n fwy â defnyddwyr gwasanaethau. O ganlyniad, mae'r Grwp yn canolbwyntio ar wella'r ffordd y mae'n cyflawni targedau a chamau gweithredu. Mae gan y Grwp gyfeiriad strategol clir ar gyfer y dyfodol hefyd, a nodir yn ei Gynllun Busnes, a chaiff cynnydd ei fonitro'n rheolaidd a'i adrodd i'r Bwrdd.

Caiff enghreifftiau o arfer da a gyflawnir gan y Grwp eu nodi hefyd yn yr adroddiad, y gall sefydliadau tebyg eraill ddysgu ohonynt. Ymhlith y rhain mae: Tîm Atal Niwsans sy'n rhoi cymorth a chyngor mewn achosion 'lefel isel' ac o ran materion mwy difrifol, Arfarniadau o Gymdogaethau sy'n galluogi tenantiaid i ddylanwadu ar welliannau yn eu hamgylchedd a gwasanaethau, a Strategaeth Buddsoddi Cymunedol a nododd dargedau â blaenoriaeth i'w cyflawni, sy'n cyflogi naw unigolyn ac sydd wedi codi dros £1.2 miliwn o arian grant ar gyfer prosiectau.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i hyrwyddo gwelliannau pellach, gan gynnwys:

  • datblygu dulliau mwy effeithiol o ymgysylltu â grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd - er enghraifft, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau a phreswylwyr cynlluniau tai â chymorth;
  • pennu targedau priodol a heriol i adennill ôl-ddyledion cyn-denantiaid sy'n ategu gwelliant o flwyddyn i flwyddyn mewn perfformiad;
  • datblygu a chyflwyno gwasanaeth apwyntiadau atgyweiriadau cynhwysfawr; ac
  • ymdrin â gwendidau yn ei brosesau cynllunio gweithredol presennol, drwy weithredu'r fframwaith cynllunio gweithredol diwygiedig i'r Grwp cyfan yn llwyddiannus.

Heddiw, dywedodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
“Rwyf yn falch o nodi bod Grwp Seren yn gyffredinol yn darparu gwasanaeth o safon dda i'w denantiaid. Ac o weithio'n barhaus i ddatblygu'r meysydd yr wyf wedi'u hamlygu, dylai'r Grwp allu gwella ansawdd ei gwasanaethau ymhellach. Mae'r Grwp eisoes yn annog rhannu arfer da, a dylai'r enghreifftiau yr ydym wedi'u nodi fod o ddiddordeb ac yn berthnasol i sefydliadau tai cyhoeddus eraill yng Nghymru."

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cynhaliwyd yr arolygiad o Grwp Seren ym mis Chwefror 2007. Mae'r Grwp yn rheoli mwy na 4,000 o dai yn Ne-ddwyrain Cymru yn bennaf, gan ganolbwyntio'n benodol ar Went.
  • Seren yw rhiant-gwmni ac arweinydd strategol y Grwp, gan gymryd cyfrifoldeb cyffredinol am bennu amcanion corfforaethol y Grwp. Mae'r Grwp yn cynnwys pum aelod-sefydliad: y Gymdeithas Tai, Charter Housing; Reach (Supported Living); Solas Cymru; Fairlake Properties a Gwent Housing. Ers yr archwiliad mae Cymdeithas Tai Pen yr Enfys hefyd wedi ymuno â Grwp Seren.
  • Sefydlwyd y Grwp ym mis Gorffennaf 2004 ac roedd yn un o enillwyr Gwobrau Tai'r DU am Ragoriaeth yn 2004.
  • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penodi Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal yr arolygiad o gymdeithasau tai yng Nghymru. Caiff y gwaith arolygu ei gynnal o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1998, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
  • Amlinellir y cwestiynau penodol am bob agwedd ar yr arolygiad yn fersiwn diweddaraf Cod Rheoliadol y Cynulliad ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Gellir dod o hyd i hwn drwy glicio ar y cyswllt canlynol: http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/
    regulatorycodehas;jsessionid=9B45EEEB797A798A2F70307FCF99609A.www1?lang=cy
  • Caiff gwasanaethau eu graddio drwy ddefnyddio pum categori gwahanol: 'ardderchog', 'da', 'boddhaol', 'lle i wella'n sylweddol' neu 'yn methu â chydymffurfio â'r cod rheoliadol.' Ceir disgrifiad llawn o bob un o'r categorïau uchod yn Atodiad 2 i'n hadroddiadau arolygu.
  • Caiff holl adroddiadau arolygu tai Swyddfa Archwilio Cymru eu cynnwys gydag adroddiad cryno byrrach, a gaiff ei ddosbarthu i denantiaid y Gymdeithas. Ysgrifennwyd y 'crynodeb o ganfyddiadau' hwn gan Gynghorydd Arolygu Tenantiaid. Tenantiaid yw'r Cynghorwyr Arolygu Tenantiaid, a gaiff eu cyflogi gan Swyddfa Archwilio Cymru, i roi safbwynt defnyddiwr gwasanaeth ac i helpu i lywio canfyddiadau arolygiadau.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o tua £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a ganiataodd i staff o’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru gael eu trosglwyddo i gyflogaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru