Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Yr heddlu yn dangos ‘gwelliant sylweddol' o ran eu perfformiad ariannol
17/12/2007
Mae pedwar allan o bum awdurdod heddlu yng Nghymru a Lloegr yn perfformio’n dda neu’n gryf o ran eu defnydd o adnoddau, gan ddangos gwelliant sylweddol o lai na dwy ran allan o dair yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. 

Mae adroddiad annibynnol a ryddhawyd heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Comisiwn Archwilio yn datgelu nad aseswyd, am y tro cyntaf, fod unrhyw awdurdod heddlu yn perfformio’n annigonol, neu’n is na’r safonau gofynnol. Hefyd am y tro cyntaf, aseswyd bod saith awdurdod heddlu, sef 16 y cant, yn perfformio’n gryf.

Mae’r adroddiad yn argymell, fodd bynnag, y bydd angen i awdurdodau a lluoedd yr heddlu fwyafu hyd yn oed yn fwy yr adnoddau sydd ar gael ganddynt os ydynt i gyflawni plismona yn y gymdogaeth ym mhob ardal leol erbyn 2008 a mynd i'r afael â bygythiadau cenedlaethol, megis troseddau difrifol a rhai cyfundrefnol, yn ogystal â gwrthderfysgaeth. Bydd gan y 21 y cant hynny o awdurdodau y barnwyd eu bod yn ddigonol, o ran y safonau gofynnol yn unig, y gwaith mwyaf i’w wneud i sicrhau y gallant fynd i’r afael â’r heriau hyn yn y dyfodol.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:
‘Mae’r adroddiad hwn yn galonogol gan ei fod yn dangos bod y pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru yn gwella ac yn perfformio'n uwch na'r safonau gofynnol. Maent hefyd mewn sefyllfa dda i gynnal y safonau hyn yn ogystal â mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol; ond gan y bydd cyllidebau yn mynd yn fwy tyn dros y tair blynedd nesaf, bydd angen iddynt barhau i gymhwyso ymarfer da er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol parhaus.


 
Nodiadau i Olygyddion:

  • Gellir cael y sgoriau llawn ar gyfer pob llu ac awdurdod heddlu ar gyfer 2006/07 yn Atodiad 2  Adroddiad ar Ddefnydd yr Heddlu o Adnoddau (PURE).  Rhoddir manylion am feini prawf sgorio yn Atodiad 1 i’r Adroddiad PURE.
  • Mae graddfeydd sgorio fel a ganlyn:

1 Yn is na’r gofynion sylfaenol - perfformiad annigonol
2 Dim ond yn cyrraedd y gofynion sylfaenol – perfformiad digonol
3 Yn uwch na’r gofynion sylfaenol yn gyson – yn perfformio’n dda
4 Llawer uwch na’r gofynion sylfaenol – yn perfformio’n gryf

  • Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hyrwyddo gwelliant, fel y bydd pobl Cymru yn elwa ar wasanaethau cenedlaethol atebol a reolir yn dda sydd yn cynnig y gwerth gorau posib am arian. Mae hefyd wedi ymrwymo i nodi a lledaenu arferion da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o Swyddfa Archwilio Cymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i'w gyflogaeth.
  • Corff annibynnol yw’r Swyddfa Archwilio sydd yn gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, i gyflawni gwasanaethau lleol o ansawdd da ar gyfer y cyhoedd. Mae ein cylch gorchwyl yn cwmpasu tua 11,000 o gyrff yn Lloegr sydd rhyngddynt yn gwario mwy na £180 biliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn. Mae ein gwaith yn cwmpasu llywodraeth leol, iechyd, tai, diogelwch cymunedol a gwasanaethau tân ac achub.
  • Fel corff rheoleiddio, rydym yn darparu gwybodaeth bwysig ar ansawdd gwasanaethau cyhoeddus.  Fel grym ar gyfer gwelliant yn y gwasanaethau hynny, rydym yn darparu argymhellion ymarferol ac yn lledaenu’r arfer gorau.  Fel archwilydd annibynnol, rydym yn sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn cynrychioli gwerth da am arian ac y caiff arian cyhoeddus ei wario yn gywir.
  • Gellir cael manylion pellach am rôl am y Comisiwn Archwilio ar http://www.audit-commission.gov.uk/.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru