Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Swyddfa Archwilio Cymru地 ceisio barnau ar Gomisiwn Coedwigaeth Cymru
19/12/2007
Yr Archwilydd Cyffredinol yn lansio astudiaeth newydd
Mae Swyddfa Archwilio Cymru地 lansio astudiaeth i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, sy'n edrych ar ôl bron 40 y cant o goetir Cymru. Mae池 tîm adolygu地 gwahardd y cyhoedd, cyrff sector cyhoeddus a busnesau i leisio eu barn ar Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i helpu i arwain eu canfyddiadau. Mae池 astudiaeth yn ceisio darganfod a yw池 comisiwn mewn sefyllfa i wireddu ei amcanion tra bo地 cadw trefn dda ar ei gyllid. 

Mae coedwigoedd sy'n eiddo cyhoeddus yn ymestyn dros 14 y cant o'r wlad ac mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd fforestydd i'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru am chwarae ei ran ac mae'n gweithio gyda Llywodraeth cynulliad Cymru, yn dilyn strategaeth o池 enw Coetiroedd i Gymru.  Mae hefyd yn gweithio gyda llawer o asiantaethau cyhoeddus, â busnes ac â phobl sy地 byw地 agos i goetiroedd ac sy地 eu mwynhau. Ond, weithiau mae地 anodd i池 comisiwn i gyflawni eu holl ddymuniadau.

Ymhlith ei nodau y mae gosod rhywfaint o'r tir y mae'n ei reoli ar gyfer ffermydd gwynt. Bydd yr arian y mae地 cael yn helpu i gadw Comisiwn Coedwigaeth Cymru i weithredu. Daw arian arall i redeg Comisiwn Coedwigaeth Cymru地 dod o池 Undeb Ewropeaidd ac o werthiant o goed a gafodd ei gynhaeafu.

Mae tîm astudio Swyddfa Archwilio Cymru am glywed barnau pobl ynglyn ag a yw Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n cyflawni ei amcanion ei hun, ac amcanion Llywodraeth y Cynulliad, ar gyfer coedwigaeth; a oes ganddo'r mecanweithiau cywir i gyflawni ei amcanion ac a yw mewn sefyllfa i wella ei berfformiad drwy ddysgu ac arloesi. Am ragor o wybodaeth ar Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, ac i ddarllen ei genhadaeth a段 gynllun corfforaethol, gallwch fynd i池 wefan http://www.forestry.gov.uk/ (a dewis Cymru fel opsiwn).

Pe hoffech gyfrannu i adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru, gallwch lenwi holiadur. Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Adolygiad y Comisiwn Coedwigaeth
Swyddfa Archwilio Cymru
2-4 Park Grove
Caerdydd
CF10 3PA

Unwaith y gorffennir yr adolygiad, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru地 cyflwyno adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy地 debygol o gael ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio池 Cynulliad.

Nodyn i Olygyddion:

  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 drwy Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, a ehangodd swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac a alluogodd drosglwyddo staff o'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru i蜘 gyflogaeth.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru地 annibynnol ar lywodraeth ac mae地 gyfrifol am archwilio rhyw £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol.
  • Ei chenhadaeth yw hyrwyddo gwelliant, fel y bo pobl Cymru地 elwa ar wasanaethau atebol wedi'u rheoli'n dda sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd wedi ymrwymo i nodi a lledaenu ymarfer da ar draws sector cyhoeddus Cymru.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru