Click here to skip to the main content
Hafan

Cymraeg / English

Hafan  Cysylltiadau allanol  Map o'r Safle  Dewisiadau Mynediad 
Pwy ydym ni? Beth rydym yn ei wneud Cyhoeddiadau Newyddion Y Gyfnewidfa Arfer Da
Hafan >Newyddion >Datganiadau i'r wasg > Datganiadau i'r wasg
Argraffu'r Dudalen
Datganiadau i'r wasg
Cyngor Celfyddydau Cymru yn ‘cyflawni’n dda’ o ran cyllido cyfleusterau celfyddydol
31/01/2008
Yr Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ei raglen gyfalaf a ariennir gan y loteri
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n cyflawni ei amcanion i helpu i adeiladu, adnewyddu a gwella cyfleusterau celfyddydol ledled Cymru trwy ei raglen o grantiau cyfalaf a ariennir gan y Loteri. Mewn adroddiad, a lansiwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, canfuwyd bod gan Gyngor y Celfyddydau weithdrefnau cadarn ar waith i fonitro a diogelu rhag y risgiau sy’n gysylltiedig â dyfarnu arian i amrywiol brosiectau. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae wedi dyfarnu dros £60 miliwn i ymgeiswyr, ac mae dwy ran o dair o’r swm hwnnw (£39 miliwn) wedi mynd i brosiectau cyfalaf mawr - yn amrywio o weithdai artistiaid i brif ganolfannau perfformiad. Mae’r adroddiad yn nodi rhai meysydd lle gellid gwella’r rhaglen gyllido. Er enghraifft, dylai Cyngor Celfyddydau Cymru ddatblygu mwy ar y modd y mae’n cydweithredu ac yn cydlynu gyda phartneriaid cyllido - megis Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - i wneud pethau’n haws i sefydliadau sy’n gwneud cais.

Mae’r adroddiad heddiw: Cyngor Celfyddydau Cymru: Cefnogi Prosiectau Cyfalaf Mawr, yn gweld a yw newidiadau a wnaed yn y blynyddoedd diweddar i’r ffordd y mae Cyngor y Celfyddydau yn rhedeg ei raglen gyfalaf yn ddigonol ac yn effeithiol. Mae’n dilyn adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2002, gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad ar y rhan a fu gan Gyngor y Celfyddydau ym mhrosiect aflwyddiannus Canolfan y Celfyddydau Gweledol. Ers hynny, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud cynnydd cyson gan fuddsoddi mewn cyfleusterau celfyddydol, trwy raglen dreigl bum mlynedd o wariant cyfalaf, sy’n adlewyrchu agenda strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriada Cyngor y Celfyddydau wario oddeutu £16 miliwn ar brosiectau cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf (rhwng 2007-2008 a 2011-2012) - gyda bron y cwbl ohono’n mynd at brosiectau mawr i godi, adnewyddu ac uwchraddio adeiladau.

Yn yr adroddiad nodir bod gan Gyngor y Celfyddydau brosesau sydd wedi hen ennill eu plwyf er mwyn asesu a monitro ei gyllid a pha mor agored i risg ydyw. Mae’n defnyddio meini prawf asesu cyson wrth ddewis prosiectau i’w cyllido, mae’n monitro prosiectau yn ystod y cyfnod adeiladu ac mae’n ofynnol i’r sawl sy’n derbyn grantiau gwblhau gwerthusiad ar ôl cwblhau’r prosiect. Mae’n rheoli ei wariant yng nghyd-destun incwm newidiol ac ansicr o’r Loteri ac mae’n wynebu nifer o heriau eraill. Er enghraifft, mae’n cyd-ariannu prosiectau mawr ar gyfer adnewyddu ac uwchraddio adeiladau gyda chyrff eraill, megis awdurdodau lleol, pob un â’u hamcanion, eu blaenoriaethau a’u cyfyngiadau ariannol eu hunain. 

Argymhellir nifer o welliannau pellach. Nodant y dylai Cyngor y Celfyddydau gyflawni’r canlynol:

  • sefydlu cytundebau partneriaeth strategol gyda phartneriaid cyllido allweddol yn Llywodraeth y Cynulliad i wella gwybodaeth am flaenoriaethau a phrosesau ac i hwyluso cydweithredu ar brosiectau;
  • hyrwyddo dull safonol i ymgeiswyr grantiau ei ddefnyddio wrth ddadansoddi sensitifrwydd ac ansicrwydd rhagdybiaethau allweddol yn eu hachosion busnes; a
  • hwyluso’r broses fentora rhwng y sawl sy’n gwneud cais am grantiau a’r sawl sy’n llwyddo i gael grantiau er mwyn gwella’r broses o drosglwyddo gwybodaeth a phrofiadau am wneud cais am grantiau cyfalaf, rheoli prosiectau cyfalaf a chynnal gweithgareddau celfyddydol.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, heddiw:
“Rwy’n falch bod Cyngor y Celfyddydau wedi cydio yn y gwersi a ddysgwyd o’r prosiectau cynnar a ariannwyd gan y Loteri ac wedi cyflwyno trefniadau cadarn ar gyfer cefnogi prosiectau cyfalaf mawr. Erbyn hyn mae’n cyflawni ei amcanion yn dda, a thrwy weithredu fy argymhellion, megis cryfhau’r broses gydweithredu gyda phartneriaid cyllido prosiectau a mireinio’r arferion rheoli risg, bydd y sefyllfa’n gwella fwy byth.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r adroddiad hwn yn edrych i weld a yw Cyngor y Celfyddydau yn mynd ati’n effeithiol i reoli’r risgiau a wynebir wrth gefnogi prosiectau celfyddydol mawr (h.y. y prosiectau sy’n cael grantiau cyfalaf o £50,000 neu fwy gan Gyngor y Celfyddydau) trwy ei raglen grantiau cyfalaf a gweithgareddau cefnogi cysylltiedig. Mae’n ystyried a oes gan Gyngor y Celfyddydau drefniadau cadarn ar gyfer dewis prosiectau mawr ar gyfer ei raglen gyfalaf ac a yw ei wariant ar brosiectau cyfalaf mawr wedi’i ddiogelu’n ddigonol.
  • Roedd yr adroddiad yn cynnwys adolygiad manwl o 15 prosiect cyfalaf mawr sydd wedi cael cyfran o’r £39 miliwn a wariwyd ar gyllido prosiectau cyfalaf mawr er 1999. Sef: Canolfan Mileniwm Cymru; Theatr y Torch, Aberdaugleddau; Theatr Mwldan yn Aberteifi; a Chanolfan Ysgrifennu Ty Newydd ger Cricieth – hen gartref David Lloyd George.
  • Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1994 gan Siarter Brenhinol. Mae’n Gorff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, ac mae'n gyfrifol am gyllido a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth grant i’r Cyngor i gyllido’r celfyddydau yng Nghymru. Y Cyngor hefyd sy’n dosbarthu arian y Loteri ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol oddeutu £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol ac oddeutu £30 biliwn o asedau cyhoeddus. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau er mwyn i bobl Cymru elwa o wasanaethau cyhoeddus sy’n atebol, sy’n cael eu rheoli’n dda ac sy’n cynnig y gwerth gorau posib am arian.  Mae hefyd yn ymroddedig i nodi a lledaenu arferion da ar draws sector cyhoeddus Cymru.
  • Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gan ymestyn swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a galluogi staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru  a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru i gael eu trosglwyddo i’w gyflogaeth.
<< Erthygl flaenorol Erthygl nesaf >>

Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Ffôn: 029 2032 0500
Ffacs: 029 2032 0600
Ebost: info@wao.gov.uk

© Archwilydd Cyffredinol Cymru