|
Ar y cyfan mae ysgolion yng Nghymru yn fodlon ar y cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir iddynt gan eu cynghorau, ond maent yn llai cadarnhaol ynglyn ag eglurder y sail resymegol dros ddyrannu arian ac adnoddau, yn cynnwys y fformiwla cyllido ysgolion. At hynny, yn ôl yr ysgolion dylai'r cynghorau roi mwy o gymorth i ddisgyblion mwy galluog a thalentog.
Dyna farn y 777 o ysgolion yn yr 20 o awdurdodau lleol a gymerodd ran yn Arolwg Ysgolion 2007, a gynhaliwyd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar ran Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn. Mae'r arolwg yn nodi barn a chanfyddiadau ysgolion o wasanaethau eu cynghorau.
Roedd y meysydd a gafodd yr ymateb mwyaf cadarnhaol yn ymdrin â'r cymorth ar gyfer y rhan fwyaf o'r agweddau o ran gwella ysgolion a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, roedd ysgolion yn arbennig o gadarnhaol am gefnogaeth eu cynghorau i lythrennedd a rhifedd; eu her i'w hysgolion berfformio'n well; a'u cefnogaeth i TGCh. Cafwyd ymateb da hefyd i'r arweinyddiaeth a ddarparwyd gan uwch swyddogion, yn ogystal ag effeithiolrwydd cyngor ar amddiffyn plant ar gyfer aelodau dynodedig o staff a llywodraethwyr.
Nododd ysgolion bod 79 o'r 80 o eitemau arolwg yn foddhaol neu'n well. Fodd bynnag, roedd llawer o'r eitemau llai cadarnhaol yn ymwneud â dyraniad y cynghorau o ran adnoddau a'u cynlluniau a'u camau gweithredu i wella ansawdd adeiladau ysgolion.
Mae'r canlyniadau, ar y cyfan, yn cuddio'r amrywiadau mawr rhwng barn ysgolion a gynhelir gan gynghorau gwahanol. At hynny, rhoddodd ysgolion cynradd ymatebion ychydig yn fwy cadarnhaol nag ysgolion uwchradd - cafodd 51 y cant o gwestiynau ymateb gwell gan ysgolion cynradd nag ysgolion uwchradd.
Mae'r Arolwg Ysgolion yn ffordd ddefnyddiol o nodi canfyddiadau a diffygion er mwyn helpu cynghorau i nodi lle mae angen iddynt ganolbwyntio ar eu hadnoddau. Caiff y canlyniadau eu defnyddio hefyd i lywio arolygiadau'r awdurdod addysg lleol a gwaith perfformiad a wneir gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn.
Dywed Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru:
"Rwy'n falch bod cymaint ag 20 o gynghorau yng Nghymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg yn 2007, gyda bron hanner yr ysgolion yn y cynghorau hynny yn ymateb. Bydd llawer o ffactorau yn effeithio ar ganfyddiadau ysgolion am eu cynghorau; mae'r arolwg yn rhoi man cychwyn da i gynghorau gael gwybod beth sydd wrth wraidd y canfyddiadau hynny ac i wella gwasanaethau lle y bo angen."
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae地 gyfrifol am archwilio地 flynyddol oddeutu £19 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol ac oddeutu £30 biliwn o asedau cyhoeddus. Ei nod yw hyrwyddo gwelliannau er mwyn i bobl Cymru elwa o wasanaethau cyhoeddus sy地 atebol, sy地 cael eu rheoli地 dda ac sy地 cynnig y gwerth gorau posib am arian. Mae hefyd yn ymroddedig i nodi a lledaenu arferion da ar draws sector cyhoeddus Cymru.
- Crëwyd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2005 dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gan ymestyn swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a galluogi staff y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru i gael eu trosglwyddo i蜘 gyflogaeth.
|